Trin hawliau i fuddion a sicrhawyd yn rhinwedd gwerth rhwymedïol
49.—(1) Mae paragraffau (2) a (4) yn gymwys pan drinnir gwerth rhwymedïol fel pe bai wedi ei dderbyn i mewn i gynllun gwaddol A yn rhinwedd rheoliad 48.
(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun roi hawliau i fuddion o dan y cynllun gwaddol mewn perthynas â’r gwerth rhwymedïol sy’n cyfateb i—
(a)pan fyddai cynllun gwaddol A wedi caniatáu trosglwyddo i mewn y gwerth rhwymedïol cyfan pe bai’r trosglwyddiad wedi digwydd yn union cyn 1 Ebrill 2022, yr hawliau i fuddion cynllun gwaddol a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gwerth rhwymedïol wedi ei drosglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol ag y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol;
(b)fel arall—
(i)pan fo gan A wasanaeth cynllun 2015 perthnasol (o fewn ystyr rheoliad 34(2)(b)(i)), yr hawliau i fuddion cynllun gwaddol a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gyfran honno o’r gwerth rhwymedïol y byddai’r cynllun gwaddol wedi caniatáu iddi gael ei throsglwyddo i mewn wedi ei throsglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol ag y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol, ynghyd â’r hawliau i fuddion cynllun 2015 pe bai’r gyfran sy’n weddill o’r gwerth rhwymedïol wedi ei throsglwyddo i mewn i gynllun 2015 yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol ag y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol;
(ii)pan nad oes gan A wasanaeth cynllun 2015 perthnasol, yr hawliau i fuddion cynllun gwaddol a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gyfran honno o’r gwerth rhwymedïol y byddai’r cynllun gwaddol wedi caniatáu iddi gael ei throsglwyddo i mewn wedi ei throsglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol ynddi.
(3) Pan fo paragraff (2)(b)(ii) yn gymwys, mae swm fel digollediad yn ddyledus gan y rheolwr cynllun i A neu, pan fo A yn ymadawedig, i gynrychiolwyr personol A, sy’n hafal i werth yr hawliau i fuddion cynllun 2015 a fyddai wedi eu sicrhau pe bai’r gyfran o’r gwerth rhwymedïol na fyddai cynllun gwaddol A wedi caniatáu iddi gael ei throsglwyddo i mewn wedi ei throsglwyddo i mewn i gynllun 2015.
(4) Mae’r hawliau i fuddion a fyddai fel arall wedi eu sicrhau gan y gwerth rhwymedïol wedi eu diddymu.
(5) Mae paragraff (6) yn gymwys pan—
(a)bo’r buddion sy’n daladwy i wasanaeth rhwymedïol A neu mewn cysylltiad â’r gwasanaeth hwnnw yn fuddion cynllun 2015 yn rhinwedd dewisiad adran 6 neu ddewisiad adran 10 (gan gynnwys, yn y naill achos a’r llall, ddewisiad tybiedig), a
(b)byddai’r hawliau i fuddion sy’n daladwy mewn perthynas â gwerth rhwymedïol A fel arall yn fuddion cynllun gwaddol.
(6) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r rheolwr cynllun, ar ôl ymgynghori ag actiwari’r cynllun pan fo’r gwerth rhwymedïol yn werth trosglwyddiad rhwymedïol, amrywio gwerth yr hawliau hynny fel eu bod yn gyfwerth â hawliau y byddai A wedi eu sicrhau o dan gynllun 2015 pe bai’r gwerth rhwymedïol wedi ei drosglwyddo i mewn i’r cynllun hwnnw yn yr un flwyddyn bensiwn berthnasol ag y derbyniwyd y gwerth rhwymedïol.
(7) Yn y rheoliad hwn, mae i “blwyddyn bensiwn berthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant pension year” gan gyfarwyddyd 5(16)(c)(i) o Gyfarwyddydau PGC 2022.