RHAN 9Atebolrwyddau a thalu
PENNOD 2Llog, digollediad a netio
Ceisiadau am ddigollediad neu ddigollediad anuniongyrchol61
1
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas ag—
a
talu swm perthnasol fel digollediad o dan adran 23(1) o DPGCSB 2022;
b
cynyddu buddion fel digollediad anuniongyrchol o dan reoliad 60.
2
Nid yw’r swm perthnasol yn daladwy, neu (yn ôl y digwydd) nid yw’r buddion i’w cynyddu, ac eithrio—
a
pan wneir cais yn unol â chyfarwyddyd 18(1) a (2) o Gyfarwyddydau PGC 2022;
b
pan fo, yn dod gyda’r cais, unrhyw wybodaeth y mae’r rheolwr cynllun drwy hysbysiad ysgrifenedig yn ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n gwneud y cais (“P”) ei darparu mewn perthynas â’r digollediad arfaethedig sydd—
i
yn wybodaeth sydd ym meddiant P, neu
ii
yn wybodaeth y gellir disgwyl yn rhesymol i P gael gafael arni, ac
c
pan fo’r rheolwr cynllun yn gwneud canfyddiad yn unol â chyfarwyddyd 18(3) o’r Cyfarwyddydau hynny.
3
Mae’r canlynol yn gymwys mewn perthynas â chanfyddiad o dan gyfarwyddyd 18(3) o Gyfarwyddydau PGC 2022—
a
cyfarwyddyd 18(4) (darparu eglurhad);
b
cyfarwyddyd 18(5) a (6) (apelau).