69.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo atebolrwydd net yn ddyledus gan berson (“P”) i’r rheolwr cynllun.
(2) Rhaid i’r rheolwr cynllun anfon hysbysiad yn ysgrifenedig at P yn nodi—
(a)sut y mae’r atebolrwydd net wedi ei gyfrifo,
(b)eglurhad o’r amgylchiadau pan ganiateir lleihau neu hepgor yr atebolrwydd net o dan reoliadau 64 i 66,
(c)pan gyfrifir yr atebolrwydd net drwy gyfeirio at swm fel digollediad o dan adran 16(3) o DPGCSB 2022, eglurhad o’r cytundeb y caniateir ei wneud o dan reoliad 67,
(d)pryd a sut y mae rhaid talu’r atebolrwydd net, ac
(e)canlyniadau peidio â thalu’r atebolrwydd net.
(3) Pan fo—
(a)y rheolwr cynllun wedi anfon hysbysiad o dan baragraff (2), a
(b)swm yr atebolrwydd net wedi ei addasu wedi hynny,
rhaid i’r rheolwr cynllun anfon hysbysiad arall yn ysgrifenedig at P o dan baragraff (2).
(4) Rhaid i P dalu swm yr atebolrwydd net i’r rheolwr cynllun—
(a)pan fo’r atebolrwydd net yn ymwneud â gwasanaeth rhwymedïol—
(i)aelod dewis ar unwaith, cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y caiff P yr hysbysiad diweddaraf o dan baragraff (2);
(ii)aelod dewis gohiriedig, cyn y diwrnod y daw buddion yn daladwy mewn perthynas â gwasanaeth rhwymedïol aelod, neu
(b)yn unol â chytundeb o dan baragraff (5), ac o fewn cyfnod o 10 o flynyddoedd sy’n dechrau ar ddyddiad cytundeb o’r fath.
(5) Caiff P a’r rheolwr cynllun gytuno bod yr atebolrwydd net i’w dalu’n rhannol neu’n llawn fel—
(a)cyfandaliad, neu
(b)rhandaliadau, pan fo’r atebolrwydd net yn £100 neu ragor.
(6) Os yw P, yn ystod cyfnod cytundeb o dan baragraff (4)—
(a)yn ymddeol ar unrhyw sail, neu
(b)yn marw,
caniateir talu’r balans sy’n ddyledus o dan y cytundeb fel didyniadau o unrhyw fuddion (gan gynnwys budd cyfandaliad) y mae gan P hawlogaeth iddynt o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân.
(7) Pan na fo P yn talu unrhyw swm sy’n dod yn ddyledus yn rhinwedd paragraff (4) neu gytundeb o dan baragraff (5), caiff y rheolwr cynllun ddidynnu o fuddion sy’n daladwy i P o dan gynllun pensiwn diffoddwyr tân unrhyw symiau sy’n ymddangos yn rhesymol i’r rheolwr cynllun at ddiben rhyddhau atebolrwydd P.