Search Legislation

Rheoliadau’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cofrestru a Dadgofrestru Darparwyr Addysg Drydyddol yng Nghymru) 2024

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chofrestru a dadgofrestru darparwyr addysg drydyddol yng Nghymru gan y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil (“y Comisiwn”).

Mae Rhan 1 yn cynnwys y darpariaethau dehongli a’r darpariaethau cyffredinol.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r categorïau cofrestru. Rhaid i’r gofrestr a sefydlir ac a gynhelir gan y Comisiwn gael categori cofrestru craidd addysg uwch a chategori cofrestru amgen addysg uwch. Y categori cofrestru craidd addysg uwch yw’r categori cofrestru terfyn ffioedd at ddibenion adran 32(2)(b) o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (“y Ddeddf”). Ni chaiff y Comisiwn gofrestru darparwr addysg drydyddol mewn mwy nag un categori o’r gofrestr ar yr un pryd.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â chymhwystra i gael cyllid. Mae darparwyr addysg drydyddol sydd wedi eu cofrestru yn y categori cofrestru craidd addysg uwch yn ddarparwyr penodedig at ddibenion adrannau 88(3) a 105(4) o’r Ddeddf ac maent yn gymwys i gael cymorth ariannol ar gyfer addysg uwch, ymchwil neu arloesi.

Mae Rhan 4 yn nodi amodau cofrestru cychwynnol pellach ac amodau cofrestru parhaus mandadol pellach.

Mae Rhan 5 yn rhestru’r wybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yng nghofnod darparwr addysg drydyddol yn y gofrestr.

Mae Rhan 6 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â dadgofrestru. ‌Rhaid i’r Comisiwn dynnu darparwr cofrestredig o’r categori cofrestru craidd addysg uwch os yw’r Comisiwn wedi ei fodloni nad elusen mo’r darparwr cofrestredig.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources