- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
12. At ddibenion adran 25(8) o’r Ddeddf, rhaid i gofnod darparwr addysg drydyddol yn y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a)enw’r darparwr, gan gynnwys unrhyw enwau masnachu neu unrhyw enwau a roddwyd drwy neu yn rhinwedd unrhyw ddeddfiad neu unrhyw Siarter Frenhinol,
(b)pan fo enw’r darparwr yn cynnwys y gair “prifysgol”, pa un a gafodd y defnydd o’r enw hwnnw—
(i)ei awdurdodi drwy Siarter Frenhinol, ac os felly, pryd,
(ii)cydsyniad y Cyfrin Gyngor o dan adran 77(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(1), ac os felly, pryd,
(iii)ei gymeradwyo gan y Cyfrin Gyngor at ddibenion adran 39(1)(b) neu (2) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(2), ac os felly, pryd, neu
(iv)ei awdurdodi drwy neu yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth arall o Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig, ac os felly, pryd,
(c)cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn y gellir eu defnyddio i gysylltu â’r darparwr,
(d)cyfeiriad prif fan busnes y darparwr, neu gyfeiriad sy’n addas fel arall ar gyfer cyflwyno dogfennau i’r darparwr,
(e)cyfeiriad y brif wefan a gynhelir gan, neu ar ran, y darparwr,
(f)y math o addysg drydyddol a ddarperir gan, neu ar ran, y darparwr,
(g)y categori y mae’r darparwr wedi ei gofrestru ynddo a’r dyddiad y cafodd y darparwr ei gofrestru yn y categori hwnnw,
(h)a yw amodau cofrestru parhaus y darparwr yn cynnwys amod terfyn ffioedd ac, os felly, fanylion sut i gael gafael ar ddatganiad terfyn ffioedd y darparwr fel y’i cymeradwywyd gan y Comisiwn o dan adran 47 o’r Ddeddf,
(i)a yw’r darparwr yn elusen ac, os felly—
(i)ei rif cofrestru elusen, neu
(ii)os nad yw’r darparwr wedi ei gofrestru â rheoleiddiwr elusennau, y rheswm pam nad yw’n ofynnol iddo gofrestru â rheoleiddiwr elusennau,
(j)a yw’r darparwr yn gwmni, a’i rif cofrestru cwmni (pan fo’n gymwys),
(k)pa un a gafodd y darparwr ei awdurdodi i roi dyfarniadau a addysgir neu ddyfarniadau ymchwil neu’r ddau ac, os felly, pryd,—
(i)drwy Siarter Frenhinol,
(ii)drwy orchymyn gan y Cyfrin Gyngor o dan adran 76(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(3), neu
(iii)drwy neu o dan unrhyw ddarpariaeth o Ddeddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,
(l)os yw’r darparwr wedi ei awdurdodi i roi dyfarniadau a addysgir neu ddyfarniadau ymchwil neu’r ddau gan awdurdodiad y cyfeirir ato ym mharagraff (k) uchod, disgrifiad o’r dyfarniadau a addysgir neu’r dyfarniadau ymchwil y mae wedi ei awdurdodi i’w rhoi,
(m)a yw’r darparwr wedi ymrwymo i drefniadau dilysu, ac
(n)a yw’r darparwr wedi ymrwymo i drefniadau breinio.
1992 p. 13. Diwygiwyd adran 77(1) gan adran 56(1) a (3) o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29).
1998 p. 30. Diwygiwyd adran 39(1) gan adran 57(1) a (3) o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017 (p. 29). Diwygiwyd adran 39(2) gan adran 57(1) a (4) o Ddeddf Addysg Uwch ac Ymchwil 2017.
1992 p. 13. Diwygiwyd adran 76(1) gan adran 19(1) a (2) o Ddeddf Addysg Bellach a Hyfforddiant 2007 (p. 25); a chan adrannau 259(1) a 266 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 (p. 22) a Rhan 11 o Atodlen 16 iddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: