- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
23.—(1) Os yw tystysgrif gymeradwyo wedi mynd ar goll, wedi cael ei dwyn neu wedi cael ei difrodi, caiff deiliad y dystysgrif wneud cais am gopi i’r awdurdod lleol a ddyroddodd y dystysgrif.
(2) Rhaid i gais am gopi o dystysgrif gymeradwyo—
(a)cael ei wneud i’r awdurdod lleol a ganiataodd y dystysgrif gymeradwyo,
(b)cael ei wneud naill ai ar ffurf papur neu drwy ei gyflwyno yn electronig,
(c)cynnwys esboniad pam y ceisir copi o’r dystysgrif gymeradwyo, a
(d)pan fo’n bosibl, ddarparu cadarnhad o rif y dystysgrif gymeradwyo.
24.—(1) Mae pa ffi am gais bynnag a osodir gan yr awdurdod lleol i ddod gyda chais am gopi o dystysgrif gymeradwyo.
(2) Mae’r ffi am gais (os oes un) i’w gosod gan yr awdurdod lleol, gan roi sylw i’r costau y mae’r awdurdod yn mynd iddynt neu y disgwylir i’r awdurdod fynd iddynt mewn cysylltiad ag ymdrin â cheisiadau am gopïau o dystysgrifau cymeradwyo o dan y Rheoliadau hyn.
(3) Nid yw cais am gopi o dystysgrif gymeradwyo i’w drin fel pe bai wedi ei wneud yn briodol hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi cael y ffi am gais mewn arian cliriedig.
25.—(1) Rhaid i’r awdurdod lleol ganiatáu’r cais os yw wedi ei fodloni—
(a)bod y dystysgrif gymeradwyo ar goll, wedi ei dwyn neu wedi ei difrodi, a
(b)pan fo’r dystysgrif gymeradwyo ar goll neu wedi ei dwyn, fod yr heddlu wedi ei hysbysu am hyn.
(2) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl caniatáu cais, rhaid i awdurdod lleol ddyroddi copi o’r dystysgrif gymeradwyo i ddeiliad y dystysgrif.
(3) Os nad yw awdurdod lleol wedi ei fodloni o dan baragraff (1) rhaid iddo ddyroddi hysbysiad i ddeiliad y dystysgrif—
(a)sy’n cynnwys y rhesymau pam y mae’r awdurdod lleol yn gwrthod y cais, a
(b)sy’n datgan y caiff deiliad y dystysgrif apelio o dan Rannau 12 a 13 yn erbyn y penderfyniad.
26. Rhaid i gopi o dystysgrif gymeradwyo a ddyroddir gan awdurdod lleol o dan reoliad 25—
(a)cael ei ardystio gan yr awdurdod lleol fel copi gwir, a
(b)cael ei drin at ddibenion y Rheoliadau hyn ac unrhyw ofynion a osodir gan neu o dan y Rheoliadau hyn fel y dystysgrif gymeradwyo wreiddiol.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: