Offerynnau Statudol Cymru
Iechyd Y Cyhoedd, Cymru
Gwnaed
27 Tachwedd 2024
Yn dod i rym
29 Tachwedd 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 62(1), (4) a (5), 63(1) a (5) ac 76(4) a (5) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”)(1), a pharagraffau 4(4) a 5(3) o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.
Yn unol ag adran 64 o’r Ddeddf, mae Gweinidogion Cymru wedi—
(a)ystyried a oes personau yr ymddengys eu bod yn cynrychioli buddiannau’r rheini y mae’r Rheoliadau hyn yn debygol o effeithio arnynt (“personau cynrychiadol”), a
(b)cynnal ymgynghoriad ag unrhyw bersonau cynrychiadol y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy.
Yn unol ag adran 123(2)(b) o’r Ddeddf, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trwyddedau Triniaeth Arbennig (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Tachwedd 2024.
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “aciwbigo” (“acupuncture”) yr ystyr a roddir yn adran 94(1) o’r Ddeddf;
ystyr “amodau trwyddedu mandadol” (“mandatory licensing conditions”) yw’r amodau a nodir yn Atodlenni 3 i 7;
mae i “amodau trwyddedu mandadol cymwys” (“applicable mandatory licensing conditions”), mewn perthynas â thrwydded triniaeth arbennig, yr ystyr a roddir yn adran 63(7) o’r Ddeddf;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r awdurdod lleol, fel y’i diffinnir gan adran 124(1) o’r Ddeddf;
mae i “cerbyd” (“vehicle”) yr ystyr a roddir yn adran 94(1) o’r Ddeddf;
mae i “cyfweliad ymgeisio” (“application inverview”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4(3);
mae i “deiliad trwydded” (“licence holder”) yr ystyr a roddir yn adran 59(8)(b) o’r Ddeddf;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
mae i “electrolysis” (“electrolysis”) yr ystyr a roddir yn adran 94(1) o’r Ddeddf;
ystyr “ffi am gais” (“application fee”) yw’r ffi a osodir o dan baragraff 3(2)(b) o Atodlen 3 i’r Ddeddf gan yr awdurdod lleol i fynd gyda chais am drwydded triniaeth arbennig;
mae i “mangre” (“premises”) yr ystyr a roddir yn adran 94(1) o’r Ddeddf;
ystyr “Rheoliadau Cymeradwyaeth o ran Triniaethau Arbennig” (“the Special Procedures Approval Regulations”) yw Rheoliadau Mangreoedd a Cherbydau a Gymeradwywyd o ran Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024(3);
mae i “tatŵio” (“tattooing”) yr ystyr a roddir yn adran 94(1) o’r Ddeddf;
mae i “triniaeth arbennig” (“special procedure”) yr ystyr a roddir yn adran 57 o’r Ddeddf;
mae i “trwydded dros dro” (“temporary licence”) yr ystyr a roddir yn adran 59(8)(c) o’r Ddeddf;
ystyr “trwydded triniaeth arbennig” (“special procedure licence”) yw trwydded a ddyroddir gan awdurdod lleol o dan Ran 4 o’r Ddeddf;
mae i “tyllu’r corff” (“body piercing”) yr ystyr a roddir yn adran 94(1) o’r Ddeddf.
(2) Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae gofyniad o dan y Rheoliadau hyn i roi hysbysiad (neu i hysbysu) yn ofyniad i roi hysbysiad ysgrifenedig.
(3) Mae dogfen y mae’n ofynnol iddi fod yn “ysgrifenedig”, neu hysbysiad y mae’n ofynnol iddo fod yn “ysgrifenedig”, yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cynnwys cyfathrebiad electronig, fel y diffinnir “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000(4).
3.—(1) Rhaid i gais am drwydded triniaeth arbennig fod ar y ffurf a bennir yn Atodlen 1.
(2) Caniateir gwneud cais naill ai ar ffurf papur neu drwy ei gyflwyno yn electronig.
(3) Yn achos trwydded dros dro, rhaid gwneud cais o leiaf 28 o ddiwrnodau gwaith cyn y dyddiad dechrau arfaethedig ar gyfer y drwydded dros dro.
(4) Nid yw cais i’w drin fel pe bai wedi ei wneud hyd nes bod yr awdurdod lleol wedi cael y ffi am gais mewn arian cliriedig.
4.—(1) Mae’r meini prawf trwyddedu y mae rhaid i unigolyn (“ceisydd”) eu bodloni ar gyfer trwydded triniaeth arbennig er mwyn i’r cais gael ei ganiatáu wedi eu nodi ym mharagraffau (2) i (4).
(2) Rhaid i’r ceisydd—
(a)bod yn 18 oed neu’n hŷn,
(b)darparu tystiolaeth o wiriad cofnod troseddol (heb fod yn hŷn na 3 mis o’r dyddiad dyroddi), ac
(c)darparu tystiolaeth bod y ceisydd yn meddu ar Ddyfarniad Lefel 2 a reoleiddir.
(3) Rhaid i’r ceisydd ymgymryd â chyfweliad ymgeisio â’r awdurdod lleol, a’i basio, sy’n cynnwys cwestiynau a ofynnir gan yr awdurdod lleol ac a atebir gan y ceisydd, er mwyn dangos gwybodaeth y ceisydd am y materion a ganlyn—
(a)rheoli heintiau a chymorth cyntaf, yng nghyd-destun y driniaeth arbennig y mae’r cais yn ymwneud â hi,
(b)y dyletswyddau a osodir, o dan Ran 4 o’r Ddeddf neu yn rhinwedd y Rhan honno, ar ddeiliad trwydded,
(c)yr amodau trwyddedu mandadol, a
(d)goblygiadau peidio â chydymffurfio â’r amodau trwyddedu mandadol.
(4) Rhaid bod y fangre neu’r cerbyd a nodwyd yn y cais wedi cael ei harolygu neu ei arolygu yn unol â’r Rheoliadau Cymeradwyaeth o ran Triniaethau Arbennig.
(5) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “Dyfarniad Lefel 2 a reoleiddir” (“regulated Level 2 Award”) yw Dyfarniad Lefel 2, a reoleiddir gan Gymwysterau Cymru(5), mewn Atal a Rheoli Heintiau ar gyfer Ymarferwyr Triniaethau Arbennig;
ystyr “gwiriad cofnod troseddol” (“criminal record check”) yw—
5. Ni chaiff awdurdod lleol adnewyddu trwydded triniaeth arbennig oni bai bod y fangre neu’r cerbyd a nodwyd yn y cais wedi cael ei harolygu neu ei arolygu yn unol â’r Rheoliadau Cymeradwyaeth o ran Triniaethau Arbennig.
6.—(1) Rhaid i drwydded triniaeth arbennig fod mewn dwy Ran, fel y nodir yn Atodlen 2—
(a)cerdyn llun (“Rhan 1 o’r Drwydded Triniaeth Arbennig”), a
(b)papur A4 (“Rhan 2 o’r Drwydded Triniaeth Arbennig”).
(2) Rhaid i Ran 1 o’r Drwydded Triniaeth Arbennig gael ei hargraffu mewn lliw.
(3) Rhaid i Ran 2 o’r Drwydded Triniaeth Arbennig gael ei hargraffu—
(a)mewn lliw,
(b)ar un ddalen o bapur A4, ac
(c)â gogwydd ar i fyny.
(4) Bwriedir i’r testun sydd wedi ei gynnwys mewn bachau petryal yn Rhan 1 a Rhan 2 o’r Drwydded Triniaeth Arbennig fod yn ganllawiau.
(5) Rhaid atodi copi o’r amodau trwyddedu mandadol cymwys i Ran 2 o’r Drwydded Triniaeth Arbennig.
(6) Yn Atodlen 2—
ystyr “mangreoedd a cherbydau a gymeradwywyd” (“approved premises and vehicles”) yw mangreoedd neu gerbydau a gymeradwyir o dan adran 70(1) o’r Ddeddf, mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig, gan yr awdurdod lleol;
ystyr “rhif y drwydded” (“licence number”) yw’r rhif a roddir gan yr awdurdod lleol i’r drwydded triniaeth arbennig sy’n unigryw i’r drwydded honno ac a bennir ynddi.
7.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch yr amodau trwyddedu mandadol sydd i fod yn gymwys i drwyddedau triniaeth arbennig, at ddibenion adran 63 o’r Ddeddf.
(2) Mae trwydded triniaeth arbennig yn ddarostyngedig i’r canlynol—
(a)yr amodau cyffredinol, a
(b)yr amodau triniaeth arbennig cymwys.
(3) Ym mharagraff (2)—
ystyr “yr amodau cyffredinol” (“the general conditions”) yw’r amodau a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn;
ystyr “yr amodau triniaeth arbennig cymwys” (“the applicable special procedure conditions”) yw, mewn perthynas â thrwydded sy’n awdurdodi rhoi triniaeth arbennig a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl ym mharagraff (4), yr amodau a nodir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn a bennir yn y golofn gyfatebol.
Y driniaeth arbennig | Rhif yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn |
---|---|
Aciwbigo | 4 |
Tyllu’r corff | 5 |
Electrolysis | 6 |
Tatŵio | 7 |
8.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol yn pennu swm y ffi am gais at ddibenion paragraff 3(2)(b) o Atodlen 3 i’r Ddeddf.
(2) Mae’r costau y mae rhaid i awdurdod lleol roi sylw iddynt (yn unol â pharagraff 3(3) o Atodlen 3 i’r Ddeddf) wrth bennu swm y ffi am gais yn cynnwys, yn arbennig, gostau y mae’r awdurdod lleol yn mynd iddynt, neu y disgwylir i’r awdurdod lleol fynd iddynt, mewn cysylltiad â cheisiadau a’r gweithgareddau a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—
(a)cael a chofnodi’r cais a chraffu arno,
(b)cynnal cyfweliad ymgeisio,
(c)camau gweithredu dilynol sy’n gysylltiedig â’r cyfweliad ymgeisio,
(d)cymeradwyo neu wrthod y cais, ac
(e)pennu gradd y swyddog a’r amser sy’n gysylltiedig â phob un o’r swyddogaethau hyn.
(3) Rhaid i awdurdod lleol adolygu lefel y ffi—
(a)ar ddiwedd y cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym, a
(b)fesul ysbaid o ddim mwy nag 1 flwyddyn wedi hynny.
(4) Ni chaniateir talu’r ffi am gais mewn rhandaliadau.
(5) Os daw’n amlwg, ar ôl talu’r ffi am gais, y dylid bod wedi talu ffi lai, rhaid ad-dalu’r swm dros ben.
9.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gwneud darpariaeth ynghylch y ffordd y mae awdurdod lleol yn pennu swm y ffi gydymffurfio (os oes un) at ddibenion adran 76(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae’r costau y mae rhaid i awdurdod lleol roi sylw iddynt (yn unol ag adran 76(4) o’r Ddeddf) wrth bennu swm y ffi gydymffurfio yn cynnwys, yn arbennig, gostau y mae’r awdurdod lleol yn mynd iddynt, neu y disgwylir i’r awdurdod lleol fynd iddynt, mewn cysylltiad â’r gweithgareddau a ganlyn (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt)—
(a)cynnal cofnodion ar gronfa ddata yr awdurdod lleol,
(b)cynnal y gofrestr a sefydlwyd o dan adran 75 o’r Ddeddf,
(c)swyddog awdurdodedig yn arfer y pwerau mynediad etc. o dan adran 84 o’r Ddeddf ac yn cynnal ymweliadau dirybudd, a all, mewn rhai achosion, arwain at arfer y pwerau arolygu etc. o dan adran 88 o’r Ddeddf,
(d)cymryd camau gweithredu yn erbyn deiliad y drwydded ac arfer y pŵer i ddirymu trwydded triniaeth arbennig o dan adran 68 o’r Ddeddf, ac
(e)pennu gradd y swyddog a’r amser sy’n gysylltiedig â phob un o’r swyddogaethau hyn.
(3) Rhaid i awdurdod lleol adolygu lefel y ffi—
(a)ar ddiwedd y cyfnod o 1 flwyddyn sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym, a
(b)fesul ysbaid o ddim mwy nag 1 flwyddyn wedi hynny.
(4) Ni chaniateir talu’r ffi gydymffurfio mewn rhandaliadau.
(5) Os daw’n amlwg, ar ôl talu’r ffi gydymffurfio, y dylid bod wedi talu ffi lai, rhaid ad-dalu’r swm dros ben.
(6) Caniateir i unrhyw ffi gydymffurfio sy’n ddyledus i awdurdod lleol ac sy’n parhau i fod heb ei thalu fod yn adenilladwy gan yr awdurdod lleol hwnnw drwy ddyled sifil.
(7) Yn y rheoliad hwn—
ystyr “ffi gydymffurfio” (“compliance fee”) yw ffi y caniateir ei chodi gan yr awdurdod lleol o dan adran 76(1) o’r Ddeddf;
mae i “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yr ystyr a roddir yn adran 83 o’r Ddeddf.
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Tachwedd 2024
Rheoliad 3(1)
Rheoliad 6(1)
Blaen y cerdyn llun
Cefn y cerdyn llun
Rheoliad 7(3)
1.—(1) Ni chaiff deiliad y drwydded ond rhoi triniaeth arbennig y mae wedi ei drwyddedu i’w rhoi yn y fangre neu’r cerbyd a gymeradwywyd a bennir ar ei drwydded (oni bai bod eithriadau’n gymwys).
(2) Ni chaiff deiliad y drwydded roi’r driniaeth arbennig mewn mangre a gymeradwywyd neu mewn cerbyd a gymeradwywyd, nac mewn unrhyw ran ohoni neu ohono, os oes risg, neu os yw’n debygol y bydd risg, o niwed i iechyd dynol.
(3) Ni chaiff deiliad y drwydded ond rhoi’r driniaeth arbennig yn y fath fodd sy’n lleihau’r risg o niwed i iechyd dynol.
(4) Rhaid i ddeiliad y drwydded gyflawni gweithgareddau mewn cysylltiad â rhoi’r driniaeth arbennig mewn ffordd nad yw’n mynd yn groes i’r dystysgrif gymeradwyo (gan gynnwys yr amodau cymeradwyo mandadol) a ddyroddwyd mewn perthynas â’r fangre neu’r cerbyd a nodir yn y drwydded triniaeth arbennig.
2.—(1) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod Rhan 1 neu Ran 2 o’i drwydded triniaeth arbennig yn cael ei harddangos mewn safle sy’n galluogi cleientiaid ac aelodau o’r cyhoedd i’w darllen yn hawdd.
(2) Rhaid i gopi o’r amodau trwyddedu mandadol cymwys fod ar gael yn rhwydd ar gais gan swyddog awdurdodedig neu gleient.
(3) Ni chaniateir addasu’r drwydded triniaeth arbennig mewn unrhyw ffordd a rhaid iddi barhau i fod yn ddarllenadwy.
(4) Mewn achos pan fo’r drwydded triniaeth arbennig wedi mynd ar goll, wedi cael ei dwyn neu wedi cael ei difrodi, rhaid i ddeiliad y drwydded wneud cais, o fewn cyfnod rhesymol, i gael un newydd yn ei lle oddi wrth yr awdurdod lleol sy’n dyroddi.
(5) Os caiff deiliad y drwydded ei euogfarnu o drosedd berthnasol yn ystod cyfnod y drwydded, rhaid i ddeiliad y drwydded hysbysu’r awdurdod lleol sy’n dyroddi ar unwaith am yr euogfarn. Rhaid i’r hysbysiad hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys dyddiad yr euogfarn, manylion y drosedd berthnasol, y ddedfryd neu’r gosb a roddwyd (gan gynnwys hyd unrhyw ddedfryd) ac unrhyw wybodaeth arall sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod lleol sy’n dyroddi.
(6) Pan ddaw’r drwydded triniaeth arbennig i ben, rhaid dychwelyd y drwydded sydd wedi dod i ben i’r awdurdod lleol sy’n dyroddi yn unol â’r cyfarwyddiadau a ddarperir gan yr awdurdod hwnnw.
3.—(1) Ni chaiff deiliad y drwydded roi triniaeth arbennig i gleient os yw’n amau nad yw’r cleient yn ffit ac yn iach.
(2) Ni chaiff deiliad y drwydded roi triniaeth arbennig i unigolyn sy’n feddw, neu yr ymddengys ei fod yn feddw, pa un ai yn rhinwedd diod, cyffuriau neu unrhyw fodd arall.
(3) Rhaid i ddeiliad y drwydded gynnal ymgynghoriad â’r cleient a, phan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, â rhiant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient, cyn rhoi’r driniaeth arbennig. Rhaid i’r ymgynghoriad hwn fod ar ffurf ffurflen ysgrifenedig ar gyfer ymgynghori â chleientiaid a rhaid i’r ffurflen honno gynnwys y canlynol—
(a)enw llawn y cleient,
(b)datganiad sy’n cadarnhau bod deiliad y drwydded wedi gwirio oedran y cleient,
(c)manylion cyswllt y cleient,
(d)esboniad llawn o’r broses, y risgiau a’r gwrtharwyddion sy’n gysylltiedig â’r driniaeth arbennig,
(e)esboniad o effeithiau cymdeithasol triniaeth arbennig a roddir ar wyneb neu wddf y cleient (os yw’n gymwys),
(f)hanes meddygol perthnasol y cleient, gan gynnwys cyflyrau iechyd arwyddocaol neu berthnasol fel clefyd y galon, epilepsi, diabetes, cyflyrau sy’n peryglu imiwnedd, alergeddau, beichiogrwydd a manylion meddyginiaeth ragnodedig gan gynnwys gwrthgeulyddion,
(g)cofnod a yw cleient wedi dodi anesthetig argroenol arno ei hun cyn y driniaeth arbennig (ac, os felly, gadarnhad bod deiliad y drwydded wedi ei fodloni bod yr anesthetig argroenol wedi ei gymeradwyo a’i awdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd(9)), ac
(h)esboniad o’r cyngor ôl-ofal ar gyfer y driniaeth arbennig a roddir.
(4) Rhaid i’r ffurflen ymgynghori â chleientiaid sydd wedi ei llenwi gael ei llofnodi gan ddeiliad y drwydded a’i chydlofnodi gan y cleient neu, pan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, gan riant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient.
(5) Pan nodir unrhyw wrtharwyddion yn ystod yr ymgynghoriad â chleient, ni chaiff deiliad y drwydded roi’r driniaeth arbennig oni bai bod deiliad y drwydded wedi ei fodloni bod modd rhoi’r driniaeth arbennig yn ddiogel o hyd. Os oes gan ddeiliad y drwydded unrhyw bryderon ynghylch iechyd y cleient, ni chaiff deiliad y drwydded roi’r driniaeth arbennig nes ei fod wedi cael cyngor meddygol neu gymeradwyaeth gan ymarferydd cyffredinol neu feddyg ymgynghorol y cleient. Rhaid cynnwys copi o’r wybodaeth hon yng nghofnodion ysgrifenedig deiliad y drwydded mewn perthynas â’r cleient.
(6) Cyn ac ar ôl rhoi’r driniaeth arbennig, rhaid i ddeiliad y drwydded roi cyfle i’r cleient neu, pan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, i riant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient, i ofyn unrhyw gwestiynau sy’n ymwneud â’r driniaeth arbennig a’r cyngor ôl-ofal.
(7) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod cyngor ôl-ofal yn cael ei ddarparu i’r cleient neu, pan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, i riant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient. Rhaid defnyddio iaith glir wrth ddarparu’r cyngor hwn a rhaid iddo fod mewn fformat hawdd ei ddeall. Rhaid ei roi ar lafar ac yn ysgrifenedig i’r cleient neu, pan fo deiliad y drwydded yn ystyried ei bod yn briodol, i riant neu warcheidwad cyfreithiol y cleient, a rhaid iddo gynnwys manylion cyswllt deiliad y drwydded a roddodd y driniaeth arbennig. Rhaid cynnwys copi o’r cyngor yng nghofnodion ysgrifenedig deiliad y drwydded mewn perthynas â’r cleient.
4.—(1) Rhaid i ddeiliad y drwydded ddal gafael ar gofnodion ysgrifenedig mewn perthynas â’r cleient am 3 blynedd gan ddechrau â’r diwrnod y rhoddir y driniaeth arbennig. Rhaid i’r cofnodion hyn gynnwys copi o’r ffurflen ymgynghori â chleientiaid wedi ei llenwi a’i llofnodi.
(2) Rhaid i ddeiliad y drwydded gadw a chynnal cofrestr o ddigwyddiadau sy’n gysylltiedig â rhoi triniaethau arbennig gan ddeiliad y drwydded. Rhaid i’r gofrestr hon gynnwys y canlynol—
(a)dyddiad y digwyddiad,
(b)manylion y digwyddiad,
(c)enw a manylion cyswllt y cleient neu berson arall (a all gynnwys deiliad y drwydded) a roddodd wybod am y digwyddiad, a
(d)unrhyw gamau adfer a gymerwyd gan ddeiliad y drwydded i atal hyn rhag digwydd eto.
(3) Rhaid i ddeiliad y drwydded gofrestru’r digwyddiad a chymryd unrhyw gamau adfer o fewn cyfnod resymol.
(4) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod ganddo sicrwydd yswiriant drwy’r amser yn ystod cyfnod ei drwydded. Rhaid i dystiolaeth o sicrwydd yswiriant dilys fod ar gael yn rhwydd i’w harolygu gan unrhyw swyddog awdurdodedig.
5.—(1) Rhaid i ddeiliad y drwydded barhau i ddatblygu, diweddaru a chynnal ei wybodaeth am atal a rheoli heintiau a’i sgiliau o ran pob triniaeth arbennig y mae wedi ei drwyddedu i’w rhoi. Rhaid i ddeiliad y drwydded gynnal cofnod ysgrifenedig o’r modd y mae wedi bodloni’r gofyniad hwn.
(2) Ni chaiff deiliad y drwydded roi triniaeth arbennig i unigolyn pan fo’r driniaeth wedi ei pheryglu, neu’n debygol o gael ei pheryglu, gan y ffaith ei fod ef ei hun yn feddw yn rhinwedd diod, cyffuriau neu unrhyw fodd arall.
(3) Ni chaiff deiliad y drwydded ysmygu, fepio, bwyta bwyd nac yfed diod yn y man gwaith triniaethau arbennig.
(4) Rhaid i ddeiliad y drwydded arfer hylendid dwylo rheolaidd a thrylwyr.
(5) Rhaid i ewinedd deiliad y drwydded fod yn lân, heb estyniadau ewinedd, farnais nac addurn.
(6) Rhaid i ddeiliad y drwydded orchuddio unrhyw glwyfau agored, briwiau neu gornwydydd ar ran o’i gorff nad yw wedi ei gorchuddio â dresin anathraidd.
(7) Rhaid newid unrhyw gyfarpar diogelu personol untro, tafladwy, rhwng pob cleient neu pan fydd egwyl wrth roi’r driniaeth arbennig.
(8) Os yw’n ofynnol defnyddio rasel yng nghwrs rhoi’r driniaeth arbennig, rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau mai dim ond raseli untro tafladwy a ddefnyddir.
(9) Rhaid i ddeiliad y drwydded gynnal asesiad gweledol o gyflwr croen y cleient lle y mae’r driniaeth arbennig i’w rhoi, a dihalogi’r croen cyn rhoi’r driniaeth arbennig.
(10) Ni chaiff deiliad y drwydded roi triniaeth arbennig ar groen nad yw’n gyflawn neu pan fo tystiolaeth o niwed, crafiad neu haint.
(11) Ni chaiff deiliad y drwydded gyflenwi anesthetigau argroenol i gleient, na’u dodi arno, cyn, yn ystod nac ar ôl triniaeth arbennig.
(12) Ni chaiff deiliad y drwydded roi’r driniaeth arbennig—
(a)os yw deiliad y drwydded wedi cael gwybod bod y cleient wedi dodi anesthetig argroenol arno ei hun cyn y driniaeth arbennig, nad yw wedi ei gymeradwyo na’i awdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd, neu
(b)os yw’r cleient wedi dodi anesthetig argroenol arno ei hun cyn y driniaeth arbennig ac nad yw deiliad y drwydded wedi cael digon o dystiolaeth bod yr anesthetig argroenol wedi ei gymeradwyo a’i awdurdodi gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.
(13) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod ei weithfan yn cael ei glanhau a’i diheintio’n effeithiol rhwng pob cleient pan fo halogiad gan waed neu hylifau corfforol, neu pan fo halogiad o’r fath yn debygol.
(14) Rhaid i bob triniaeth arbennig gael ei rhoi mewn amgylchedd preifat sy’n briodol ar gyfer y driniaeth arbennig a roddir.
(15) Ni chaiff deiliad y drwydded ond caniatáu i gleient ddod ag unigolyn arall gydag ef os nad yw presenoldeb yr unigolyn arall hwnnw yn ystod y driniaeth arbennig yn peri risg uwch o haint.
(16) Ni chaiff deiliad y drwydded ganiatáu i anifeiliaid ddod i’r man gwaith triniaethau arbennig ac eithrio cŵn cymorth cofrestredig sy’n dod gyda chleient.
6.—(1) Mae unrhyw osodiad neu ddodrefnyn a ddefnyddir gan y cleient wrth roi’r driniaeth arbennig iddo i’w orchuddio â dalen bapur dafladwy, lliain neu gyffelyb, sydd i’w newid rhwng pob cleient pan fo halogiad gan waed neu hylifau corfforol yn debygol.
(2) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod yr holl osodiadau, ffitiadau a dodrefn sy’n gysylltiedig â’i weithfan wedi eu gwneud o ddeunydd difandwll a’u bod mewn cyflwr da i alluogi gwaith glanhau effeithiol a, phan fo halogiad gan waed neu hylifau corfforol yn debygol, waith diheintio effeithiol.
7.—(1) Rhaid i’r holl gyfarpar, offerynnau a chynhyrchion a ddefnyddir gan ddeiliad y drwydded—
(a)cael eu defnyddio a’u cynnal yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, a
(b)cael eu gwasanaethu’n a’u dilysu’n briodol yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr, a rhaid cadw a chynnal yr holl gofnodion gwasanaethu a dilysu ar gyfer eu harolygu gan swyddog awdurdodedig.
(2) Rhaid i’r holl offerynnau a chyfarpar a ddefnyddir gan ddeiliad y drwydded fod wedi eu gwneud o ddeunydd difandwll y gellir ei lanhau, ei ddiheintio a, phan fo’n briodol, ei sterileiddio yn hawdd.
(3) Rhaid cadw offerynnau a chyfarpar mewn cyflwr da i alluogi gwaith glanhau effeithiol a rhaid eu defnyddio a’u storio mewn ffordd sy’n lleihau’r risg o halogiad.
(4) Ni chaiff deiliad y drwydded byth ailddefnyddio nac ailbrosesu eitemau untro.
(5) Ni chaiff deiliad y drwydded ond defnyddio nodwyddau di-haint, untro, tafladwy.
(6) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau, o ran unrhyw gyfarpar nad yw’n dafladwy, na ellir ei sterileiddio, ac sy’n debygol o ddod i gysylltiad â hylifau corfforol neu safle’r driniaeth arbennig, nad yw’n dod i gysylltiad o’r fath. Rhaid glanhau a diheintio cyfarpar o’r fath yn drylwyr ar ôl pob defnydd.
(7) Os defnyddir offerynnau nad ydynt yn rhai tafladwy wrth roi triniaeth arbennig a’u bod yn debygol o ddod i gysylltiad â hylifau corfforol neu safle’r driniaeth arbennig, ar ôl eu defnyddio rhaid i ddeiliad y drwydded lanhau a thrin yr offerynnau. Rhaid glanhau a thrin yr offerynnau â chyfarpar glanhau, diheintio a sterileiddio sy’n addas i’r diben megis glanhawyr uwchsain, baddonau offerynnau ac awtoclafau a chydau awtoclaf. Nid yw hyn yn gymwys i nodwyddau (gweler paragraff 7(5)).
(8) Rhaid sterileiddio unrhyw offeryn, unrhyw gyfarpar, unrhyw emwaith, neu unrhyw wrthrych sy’n cael ei atodi i groen neu bilen fwcaidd y cleient neu sy’n cael ei fewnblannu neu ei fewnosod yn ei groen neu ei bilen fwcaidd.
(9) Rhaid sterileiddio unrhyw offeryn neu unrhyw gyfarpar a ddefnyddir i dynnu gemwaith neu wrthrych sydd wedi ei atodi i groen neu bilen fwcaidd y cleient neu sydd wedi ei fewnblannu neu ei fewnosod yn ei groen neu ei bilen fwcaidd.
(10) Rhaid i ddeiliad y drwydded allu cael gafael ar becyn cymorth cyntaf sydd wedi ei stocio’n addas, sydd ar gael yn rhwydd, i ddiwallu anghenion cymorth cyntaf y driniaeth arbennig a roddir.
8.—(1) Rhaid gwaredu pob offeryn miniog mewn bin offer miniog. Rhaid cadw a defnyddio’r bin offer miniog yn y man gwaith triniaethau arbennig.
(2) Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod gwastraff domestig a gwastraff clinigol nad yw’n beryglus yn cael ei wahanu’n briodol a’i roi yn y bagiau lliw cywir. Rhaid i ddeiliad y drwydded wneud trefniadau ar gyfer gwaredu’r bagiau lliw hynny.
9. Yn yr Atodlen hon—
ystyr “amodau cymeradwyo mandadol” (“mandatory approval conditions”) yw’r amodau y mae tystysgrif gymeradwyo yn ddarostyngedig iddynt;
ystyr “bin offer miniog” (“sharps bin”) yw cynhwysydd anhyblyg, arbenigol sy’n cydymffurfio â Chod CGE 20 01 99(10) ac sydd wedi ei gynllunio i waredu’n ddiogel offer miniog sy’n gysylltiedig â rhoi triniaethau arbennig;
ystyr “cleient” (“client”) yw person y rhoddir triniaeth arbennig iddo;
mae i “cyfnod y drwydded” (“licence period”), mewn perthynas â thrwydded triniaeth arbennig, yr ystyr a roddir yn adran 59(8)(a) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
ystyr “gweithfan” (“workstation”) yw’r rhan o’r man gwaith triniaethau arbennig sy’n cynnwys y canlynol—
gwely, cadair neu gyffelyb, y mae cleient yn eistedd neu’n gorwedd arno neu arni i gael triniaeth arbennig a roddir gan ddeiliad trwydded,
cadair neu stôl y mae deiliad y drwydded yn eistedd arni i roi’r driniaeth arbennig (os yw’n gymwys), ac
arwyneb gwaith a ddefnyddir ar gyfer gosod a storio’r offerynnau a’r cynhyrchion a ddefnyddir gan ddeiliad y drwydded i roi’r driniaeth arbennig;
ystyr “man gwaith triniaethau arbennig” (“special procedures work area”) yw ardal neu ystafell ddynodedig a ddefnyddir at ddiben rhoi triniaeth arbennig, ac o ran man gwaith triniaethau arbennig—
rhaid iddo gynnwys o leiaf—
1 weithfan,
1 basn golchi dwylo,
1 bin gwastraff,
1 bin offer miniog (os yw’n gymwys), a
caiff hefyd gynnwys cyfleusterau eraill a chyfarpar arall i gefnogi’r gwaith o roi’r driniaeth arbennig;
ystyr “mangre neu gerbyd a gymeradwywyd” (“approved premises or vehicle”) yw mangre neu gerbyd a gymeradwyir o dan adran 70(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, mewn cysylltiad â thriniaeth arbennig, gan yr awdurdod lleol;
ystyr “offer miniog” (“sharps”) yw gwrthrychau neu offerynnau sy’n gallu torri, crafu, pricio neu achosi anaf i’r croen ac mae’n cynnwys pob math o nodwydd a rasel untro;
ystyr “sicrwydd yswiriant” (“insurance cover”) yw polisi yswiriant dilys a ddyroddwyd gan yswiriwr awdurdodedig i yswirio deiliad y drwydded mewn cysylltiad ag atebolrwyddau, mewn cysylltiad â salwch, haint, anaf ac effeithiau andwyol eraill ar iechyd nad ydynt yn heintus (gan gynnwys adweithiau alergaidd), sy’n codi drwy roi triniaeth arbennig;
mae i “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yr ystyr a roddir yn adran 83 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
ystyr “trosedd berthnasol” (“relevant offence”) yw trosedd a restrir yn adran 66(8) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
mae i “tystysgrif gymeradwyo” (“approval certificate”) yr ystyr a roddir yn adran 70(1) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
ystyr “yswiriwr awdurdodedig” (“authorised insurer”), mewn perthynas â pholisi yswiriant, yw person a gaiff gynnal yn y Deyrnas Unedig y busnes o roi effaith i gontractau yswiriant, neu o gyflawni contractau yswiriant, o’r math a ddarperir o dan y polisi yswiriant.
Rheoliad 7(4)
1. Ni chaiff deiliad trwydded roi triniaeth aciwbigo ar ran bersonol o gorff cleient o dan 18 oed.
2. Rhaid i ddeiliad trwydded olchi a sychu ei ddwylo’n drylwyr yn union cyn ac ar ôl rhoi triniaeth aciwbigo i bob cleient.
3. Rhaid i ddeiliad trwydded wisgo menyg untro sy’n ffitio’n dda pan—
(a)bo’r cleient yn gwaedu neu pan fo ganddo friw agored ar ran o’i gorff nad yw wedi ei gorchuddio,
(b)bo gan ddeiliad y drwydded friw agored, croen wedi torri neu haint ar y croen ar ei law, neu
(c)bo deiliad y drwydded yn trin a thrafod eitemau a allai fod wedi eu halogi â gwaed neu hylifau corfforol eraill.
4. Pan ofynnir i ddeiliad y drwydded roi triniaeth aciwbigo i gleient mewn mangre neu gerbyd a ddefnyddir i unrhyw raddau gan y cleient hwnnw fel annedd, cyn rhoi’r driniaeth arbennig, rhaid i ddeiliad y drwydded—
(a)cynnal a chofnodi asesiad o’r lleoliad lle y mae’r driniaeth aciwbigo i’w rhoi, gan roi sylw dyladwy i unrhyw risgiau a allai achosi niwed i iechyd dynol,
(b)pan fo’r asesiad yn nodi unrhyw risg a allai achosi niwed i iechyd dynol, cymryd camau gweithredu priodol i liniaru’r niwed cyn rhoi’r driniaeth arbennig, ac
(c)cynnwys copi o’r asesiad yng nghofnodion ysgrifenedig deiliad y drwydded mewn perthynas â’r cleient.
5. Pan fo deiliad y drwydded yn rhoi triniaeth aciwbigo i gleient mewn mangre neu gerbyd a ddefnyddir i unrhyw raddau gan y cleient hwnnw fel annedd, os nodir risg o niwed i iechyd dynol wrth roi’r driniaeth arbennig, rhaid i ddeiliad y drwydded—
(a)dileu’r risg o niwed cyn parhau i roi’r driniaeth arbennig, neu
(b)os na ellir dileu’r risg o niwed, peidio â rhoi’r driniaeth arbennig.
6. Yn yr Atodlen hon, ystyr “rhan bersonol o’r corff” yw rhan o’r corff a restrir yn adran 96(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Rheoliad 7(4)
1. Gwaherddir deiliad y drwydded rhag defnyddio sgalpel i dyllu’r corff.
2. Rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo menyg wrth roi’r driniaeth arbennig. O ran y menyg a wisgir gan ddeiliad y drwydded, rhaid iddynt fod y rhai sy’n ffitio orau, sy’n cynnig y deheurwydd gorau ac sy’n teimlo’n fwyaf cyfforddus, a rhaid iddynt gynnig rhwystr amddiffynnol da. Pan fo modd gwisgo menyg latecs, rhaid i’r menyg latecs fod yn rhai protein isel heb eu powdro. Os oes gan y cleient alergedd hysbys i latecs, rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo menyg eraill addas nad ydynt yn cynnwys latecs.
3. Rhaid tynnu menyg a’u gwaredu’n syth ar ôl i’r driniaeth arbennig ddod i ben. Rhaid tynnu menyg, eu gwaredu a gwisgo rhai eraill yn eu lle pan fo egwyl yn ystod y cyfnod o amser pan roddir y driniaeth arbennig.
4. Rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo ffedog untro, dafladwy wrth roi’r driniaeth arbennig pan fo risg o halogiad gan waed neu hylifau corfforol (neu’r ddau). Rhaid tynnu’r ffedog a’i gwaredu’n syth ar ôl i’r driniaeth arbennig ddod i ben. Rhaid tynnu’r ffedog, ei gwaredu a gwisgo un arall yn ei lle pan fydd egwyl wrth roi’r driniaeth arbennig.
5. Rhaid i’r holl emwaith, gwrthrychau neu offerynnau a all ddod i gysylltiad â chroen neu bilen fwcaidd wrth dyllu’r corff, neu sy’n dod i gysylltiad agos â chroen wedi ei dyllu neu bilen fwcaidd wedi ei thyllu ar y cleient, gael eu prynu gan gyflenwyr sydd ag enw da a rhaid iddynt fod yn rhai untro a bod wedi eu sterileiddio.
6. O ran unrhyw nodwydd, canwla, pwnsh biopsi, tapr, pin neu roden gysylltu, tiwb derbyn nodwydd, blanc nodwydd, neu unrhyw offeryn arall a ddefnyddir at ddiben gwneud trydylliad yng nghroen neu ym mhilen fwcaidd y cleient gyda golwg ar alluogi i emwaith neu unrhyw wrthrych gael ei atodi i gorff y cleient, ei fewnblannu yng nghorff y cleient neu ei dynnu o gorff y cleient, rhaid iddynt fod wedi eu prynu gan gyflenwr ag enw da, fod yn rhai untro a bod wedi eu sterileiddio.
7. Rhaid i’r holl emwaith neu’r holl wrthrychau a ddefnyddir ar gyfer tyllu’r corff fod o radd addas, gan gynnwys dur gwrthstaen llawfeddygol, aur 9, 14 neu 18 carat, niobiwm, titaniwm, platinwm, neu blastig trwchus â mandylledd isel.
8. Os oes angen marcio’r rhan o’r croen sydd i’w thyllu, rhaid defnyddio pin ysgrifennu dyfrsail untro neu farcwyr untro. Rhaid gwaredu’r teclyn neu’r pin ysgrifennu yn syth ar ôl ei ddefnyddio.
9. Os yw deiliad y drwydded yn defnyddio system cetris ar gyfer tyllu’r corff—
(a)rhaid iddo ddefnyddio cetrisen ddi-haint,
(b)rhaid iddo ddefnyddio gemwaith neu wrthrychau wedi eu sterileiddio a gyflenwir mewn pecynwaith wedi ei selio sy’n dangos ar ba ran o’r corff y bwriedir iddynt gael eu defnyddio,
(c)rhaid iddo gynnal cofnodion i gadarnhau bod y getrisen ddi-haint a’r gemwaith neu’r gwrthrych sydd wedi ei sterileiddio yn gyflawn,
(d)mewn perthynas â thyllu clustiau a’r trwyn, rhaid iddo ddefnyddio cetris sydd wedi eu selio, cyn y dyddiad dod i ben, a rhaid iddynt fod mewn cyflwr da cyn cael eu defnyddio,
(e)rhaid iddo daflu unrhyw getris o becynnau sydd wedi eu difrodi neu sy’n cynnwys pothelli, ac ni chaiff ddefnyddio’r rhain,
(f)ni chaiff ail-lwytho cetrisen dafladwy a’i defnyddio ar gyfer gwneud amryw o dyllau, pa un ai ar yr un cleient ai peidio,
(g)rhaid iddo sicrhau bod offeryn tyllu y gellir ei ailddefnyddio yn cael ei lanhau ac yna ei ddiheintio a’i sterileiddio cyn ac ar ôl pob defnydd, ac
(h)ni chaiff ddefnyddio offerynnau tyllu y gellir eu hailddefnyddio ac eithrio yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr (gan gynnwys y cyfarwyddiadau hynny ynghylch sut i lwytho a dadlwytho’r cetris).
Rheoliad 7(4)
1. Ni chaiff deiliad trwydded roi triniaeth electrolysis ar ran bersonol o gorff cleient o dan 18 oed.
2. Rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo menyg wrth roi’r driniaeth arbennig. O ran y menyg a wisgir gan ddeiliad y drwydded, rhaid iddynt fod y rhai sy’n ffitio orau, sy’n cynnig y deheurwydd gorau ac sy’n teimlo’n fwyaf cyfforddus, a rhaid iddynt gynnig rhwystr amddiffynnol da. Pan fo modd gwisgo menyg latecs, rhaid i’r menyg latecs fod yn rhai protein isel heb eu powdro. Os oes gan y cleient alergedd hysbys i latecs, rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo menyg eraill addas nad ydynt yn cynnwys latecs.
3. Rhaid tynnu menyg a’u gwaredu’n syth ar ôl i’r driniaeth arbennig ddod i ben. Rhaid tynnu menyg, eu gwaredu a gwisgo rhai eraill yn eu lle pan fo egwyl yn ystod y cyfnod o amser pan roddir y driniaeth arbennig.
4. Yn yr Atodlen hon, ystyr “rhan bersonol o’r corff” yw rhan o’r corff a restrir yn adran 96(2) o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017.
Rheoliad 7(4)
1. Gwaherddir deiliad y drwydded rhag rhoi inc neu bigment ym mhelen llygad unrhyw unigolyn.
2. Rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo menyg wrth roi’r driniaeth arbennig. O ran y menyg a wisgir gan ddeiliad y drwydded, rhaid iddynt fod y rhai sy’n ffitio orau, sy’n cynnig y deheurwydd gorau ac sy’n teimlo’n fwyaf cyfforddus, a rhaid iddynt gynnig rhwystr amddiffynnol da. Pan fo modd gwisgo menyg latecs, rhaid i’r menyg latecs fod yn rhai protein isel heb eu powdro. Os oes gan y cleient alergedd hysbys i latecs, rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo menyg eraill addas nad ydynt yn cynnwys latecs.
3. Rhaid tynnu menyg a’u gwaredu’n syth ar ôl i’r driniaeth arbennig ddod i ben. Rhaid tynnu menyg, eu gwaredu a gwisgo rhai eraill yn eu lle pan fo egwyl yn ystod y cyfnod o amser pan roddir y driniaeth arbennig.
4. Rhaid i ddeiliad y drwydded wisgo ffedog untro, dafladwy wrth roi’r driniaeth arbennig. Rhaid tynnu’r ffedog a’i gwaredu’n syth ar ôl i’r driniaeth arbennig ddod i ben. Rhaid tynnu’r ffedog, ei gwaredu a gwisgo un arall yn ei lle pan fydd egwyl wrth roi’r driniaeth arbennig.
5. Rhaid i’r holl gynhyrchion a ddefnyddir yng nghwrs rhoi’r driniaeth arbennig (er enghraifft, jeli petroliwm, jel iro a stensiliau tatŵio) fod yn rhai untro neu rhaid eu rhoi mewn daliedyddion glân, untro gan ddefnyddio offerynnau glân, untro.
6. Rhaid labelu cynhyrchion a ddefnyddir yng nghwrs rhoi’r driniaeth arbennig gyda’r dyddiad y cawsant eu hagor a’u gwaredu yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.
7. Rhaid i inciau a phigmentau fod wedi eu sterileiddio. Rhaid i unrhyw ddeunydd neu sylwedd a ychwanegir at yr inc neu’r pigment fod wedi ei sterileiddio hefyd.
8. Rhaid rhoi inciau a phigmentau a ddefnyddir yng nghwrs rhoi’r driniaeth arbennig mewn daliedyddion glân, untro neu rhaid iddynt fod wedi eu pacio ymlaen llaw mewn ffiolau untro, a rhaid eu defnyddio a’u gwaredu yn unol â chyfarwyddiadau’r gwneuthurwr.
9. Dim ond dŵr di-haint y caniateir ei ddefnyddio i wanhau inciau a phigmentau ac i rinsio offerynnau a chyfarpar wrth roi triniaeth tatŵio.
10. Rhaid i ddeiliad y drwydded sicrhau bod cyfarpar sydd â cheudodau gwag ynddo, cyfarpar sydd wedi ei lapio neu ei amgáu mewn cydau, neu lwythi mân-dyllog, yn cael eu sterileiddio gan ddefnyddio awtoclaf gwactod priodol y bernir ei fod yn briodol at y diben hwnnw gan y gwneuthurwr.
11. Rhaid cofnodi brand, cod lliw a chod swp pob inc neu bigment a ddefnyddir ar gleient yng nghofnodion ysgrifenedig deiliad y drwydded mewn perthynas â’r cleient ar yr adeg y rhoddir y driniaeth arbennig.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rhan 4 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (“y Ddeddf”) yn darparu bod rhaid i unigolion penodol sy’n rhoi triniaethau arbennig (fel y’u rhestrir yn adran 57 o’r Ddeddf) yng Nghymru gael eu trwyddedu gan awdurdod lleol.
Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch ceisiadau am drwyddedau triniaeth arbennig, gan gynnwys y meini prawf y mae rhaid eu bodloni er mwyn i gais am drwydded triniaeth arbennig gael ei ganiatáu. Mae Rhan 2 hefyd yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys ffurflen gais.
Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch ffurf a chynnwys trwydded triniaeth arbennig (fel y’i nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn).
Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn nodi’r amodau trwyddedu mandadol sy’n gymwys i drwydded triniaeth arbennig.
Mae Rhan 5 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch ffioedd mewn perthynas â thrwyddedau triniaeth arbennig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru.
2017 dccc 2 (“y Ddeddf”). Gweler adran 124(1) o’r Ddeddf am y diffiniad o “rheoliadau”.
Mae’r cyfeiriad yn adran 123 o’r Ddeddf at Gynulliad Cenedlaethol Cymru bellach yn cael effaith fel cyfeiriad at Senedd Cymru yn rhinwedd adran 150A(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32). Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.
2000 p. 7; diwygiwyd adran 15(1) gan Ddeddf Cyfathrebiadau 2003 (p. 21).
Sefydlwyd Cymwysterau Cymru o dan adran 2 o Ddeddf Cymwysterau Cymru 2015 (dccc 5).
Y corff corfforedig a sefydlwyd gan adran 87(1) o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 (p. 9).
1997 p. 50. Mewnosodwyd adran 113A gan Ddeddf Troseddu Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005 (p. 15).
Mae’r broses o wneud cais am wiriadau cofnodion troseddol ar gyfer ceisydd o dramor yn amrywio o wlad i wlad. Gweler https:www.gov.uk/government/publications/criminal-records-checks-for-overseas-applicants am ganllawiau pellach.
Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd yn un o Asiantaethau Gweithredol yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Cod chwe digid yw Cod Catalog Gwastraff Ewropeaidd (“CGE”) a ddefnyddir i nodi gwastraff (gwastraff peryglus a gwastraff nad yw’n beryglus) fel y’i rhestrir yn y Catalog Gwastraff Ewropeaidd. Mae Cod CGE yn nodi (ymhlith pethau eraill) y rheolaethau sy’n gymwys i symud a rheoli’r gwastraff. Mae Cod CGE 20 01 99 yn ymwneud â gwastraff clinigol heintus a pheryglus fel y nodir ar dudalen 47, paragraff 4.99 o Femorandwm Technegol Iechyd Cymru. Gwelerhttps://nwssp.nhs.wales/ourservices/specialist-estates-services/specialist-estates-services-documents/whtms-library/whtm-07-01-safe-management-of-healthcare-waste-pdf/ (ar gael yn Saesneg yn unig).