Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon a chanddynt Fuddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015
8. Yn Rhan 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Partïon a chanddynt Fuddiant a Darpariaethau Rhagnodedig Amrywiol) 2015(1)—
(a)hepgorer y cofnod ar gyfer “Historic Environment (Wales) Act 2023” a’r testun yn y golofn gyfatebol;
(b)ar ôl y cofnod ar gyfer “Countryside and Rights of Way Act 2000”, mewnosoder—
“Historic Environment (Wales) Act 2023 | A consent under section 12 and Schedule 3 (authorisation of classes of works) |
A consent under section 13 (authorisation of works by scheduled monument consent)”. |
(1)
O.S. 2015/462, a ddiwygiwyd gan O.S. 2024/924 (Cy. 155); mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.