xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
2.—(1) Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “adeilad” yr ystyr a roddir i “building” gan reoliad 2(1) o Reoliadau 2010;
ystyr “adeilad GDT” (“FSO building”) yw adeilad neu unrhyw ran ohono y mae Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 yn gymwys iddo, neu a fydd yn gymwys iddo ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu;
mae i “addasiad sylweddol” yr ystyr a roddir i “material alteration” gan reoliad 3(2) o Reoliadau 2010;
ystyr “adroddiad trosglwyddo” (“transfer report”) yw adroddiad a roddir yn unol ag adran 53B o Ddeddf 1984;
mae i “annedd” yr ystyr a roddir i “dwelling” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2010;
ystyr “arolygydd cofrestredig adeiladu” (“registered building inspector”) yw unigolyn sydd wedi ei gofrestru yn arolygydd adeiladu yn unol â Rhan 2A o Ddeddf 1984(1);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol;
ystyr “awdurdod tân ac achub” yw’r awdurdod gorfodi o fewn yr ystyr a roddir i “fire and rescue authority” gan erthygl 25 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005(2);
mae i “codi” yr un ystyr ag a roddir i “erection” yn adran 123 o Ddeddf 1984;
mae i “corff cyhoeddus” yr ystyr a roddir i “public body” gan adran 54(1) o Ddeddf 1984;
ystyr “cymeradwywr” (“approver”) yw cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu o fewn ystyr adran 58N o Ddeddf 1984(3);
ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984;
mae i “gwaith adeiladu” yr ystyr a roddir i “building work” gan reoliad 3(1) o Reoliadau 2010;
ystyr “hysbysiad corff cyhoeddus” (“public body’s notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 54(1)(c) o Ddeddf 1984;
mae i “hysbysiad cychwynnol” yr ystyr a roddir i “initial notice” gan adran 47(1)(a) o Ddeddf 1984;
mae i “hysbysiad diwygio” yr ystyr a roddir i “amendment notice” gan adran 51A o Ddeddf 1984;
mae i “newid defnydd sylweddol” yr ystyr a roddir i “material change of use” gan reoliad 5 o Reoliadau 2010;
ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 2010(4);
mae i “rheoliadau adeiladu” yr ystyr a roddir i “building regulations” gan adran 122 o Ddeddf 1984;
mae i “tystysgrif blaniau” yr ystyr a roddir i “plans certificate” gan adran 50(1) o Ddeddf 1984;
ystyr “tystysgrif blaniau corff cyhoeddus” (“public body’s plans certificate”) yw tystysgrif a roddir o dan baragraff 2 o Atodlen 4 i Ddeddf 1984;
ystyr “tystysgrif derfynol corff cyhoeddus” (“public body’s final certificate”) yw tystysgrif a roddir o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i Ddeddf 1984;
ystyr “tystysgrif drosglwyddo” (“transfer certificate”) yw tystysgrif a roddir yn unol ag adran 53B o Ddeddf 1984;
ystyr “ymgymerwr carthffosiaeth” (“sewerage undertaker”) yw person a benodir o dan adran 6 o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991(5) ar gyfer yr ardal y mae’r adeilad wedi ei leoli ynddi, neu y mae i gael ei leoli ynddi.
(2) Pan fo unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio ffurflen wedi ei rhifo yn Atodlen 1, caniateir defnyddio ffurflen y mae ei heffaith yn sylweddol debyg iddi.
(3) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at gynnal gwaith yn cynnwys cyfeiriad at wneud newid defnydd sylweddol.
(4) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at hysbysiad cychwynnol (pa un a yw wedi ei gyfuno â thystysgrif blaniau ai peidio) i’w ddehongli fel cyfeiriad at yr hysbysiad cychwynnol hwnnw fel y’i diwygiwyd gan hysbysiad diwygio sydd wedi ei dderbyn gan awdurdod lleol.
Mewnosodwyd Rhan 2A o Ddeddf 1984 gan adran 42 o Ddeddf 2022.
O.S. 2005/1541, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
Mewnosodwyd adran 58N gan adran 42 o Ddeddf 2022.
O.S. 2010/2214, fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2012/3119, 2013/1959, 2014/110 (Cy. 10), 2015/767, 2016/285, a 2018/1230. Mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.