xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3Gorfodi, pwerau ymchwilio a sancsiynau sifil

Gorfodi

7.—(1Caiff rheoleiddiwr awdurdodi unrhyw berson yn swyddog gorfodaeth i arfer, at ddiben awdurdodedig ac yn unol â thelerau’r awdurdodiad, unrhyw un neu ragor o’r pwerau a bennir yn rheoliad 10 (pŵer mynediad, ymchwilio ac archwilio etc.) os ymddengys i’r rheoleiddiwr fod y person hwnnw yn addas i’w arfer neu i’w harfer.

(2Rhaid i awdurdodiad o dan baragraff (1) fod yn ysgrifenedig.

(3Yn y Rhan hon, ystyr “diben awdurdodedig” yw’r diben o benderfynu a yw trosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei chyflawni neu’n cael ei chyflawni, neu a yw unrhyw ofyniad cosb sifil a osodwyd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei dorri neu’n cael ei dorri.

Sancsiynau sifil

8.  Mae’r Atodlen yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi trosedd, drwy sancsiynau sifil, o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn.

Pwerau mynediad

9.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff swyddog gorfodaeth, ar unrhyw adeg resymol a heb rybudd ymlaen llaw, fynd i fangre y mae gan y swyddog gorfodaeth reswm dros amau ei bod yn angenrheidiol mynd iddi at ddiben awdurdodedig.

(2Pan fo unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (3) yn gymwys, ni chaniateir mynd i’r fangre honno yn rhinwedd paragraff (1) ond o dan awdurdod gwarant a roddwyd gan ynad heddwch.

(3Os yw ynad heddwch, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw, wedi ei fodloni—

(a)bod sail resymol dros fynd i unrhyw fangre wrth arfer y pŵer ym mharagraff (1), a

(b)bod unrhyw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (4) wedi ei fodloni neu wedi eu bodloni,

caiff yr ynad heddwch drwy warant awdurdodi swyddog gorfodaeth i fynd i’r fangre, drwy rym rhesymol, os oes angen.

(4Yr amodau a grybwyllir ym mharagraff (3) yw—

(a)bod mynediad wedi ei wrthod,

(b)bod y swyddog gorfodaeth yn dirnad ar sail resymol bod mynediad yn debygol o gael ei wrthod,

(c)nad yw’r fangre wedi ei meddiannu,

(d)bod y meddiannydd yn absennol o’r fangre dros dro a bod yr achos yn achos brys, neu

(e)y byddai cais i fynd i’r fangre yn tanseilio diben y mynediad arfaethedig.

(5Mae gwarant a roddir o dan baragraff (3) yn parhau i fod mewn grym tan ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y’i dyroddwyd.

(6Rhaid i swyddog gorfodaeth, os yw’n ymadael â’r fangre ar adeg pan nad oes perchennog neu feddiannydd yn bresennol, ei gadael wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag tresmaswyr ag yr oedd pan aeth y swyddog gorfodaeth iddi.

(7Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i fangre breswyl.

(8At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “mangre breswyl” yw mangre, neu unrhyw ran o fangre, a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf fel annedd.

Pŵer mynediad, ymchwilio ac archwilio etc.

10.—(1Caiff swyddog gorfodaeth sy’n mynd i fangre o dan neu yn rhinwedd reoliad 9 (pwerau mynediad)—

(a)mynd yng nghwmni swyddog gorfodaeth arall, ac os oes gan y swyddog gorfodaeth achos rhesymol dros ddirnad unrhyw rwystr difrifol wrth arfer ei ddyletswydd, yng nghwmni cwnstabl;

(b)dod ag unrhyw gyfarpar neu ddeunyddiau at y diben awdurdodedig y mae’r pŵer mynediad yn cael ei arfer ar ei gyfer;

(c)cynnal yr archwiliadau a’r ymchwiliadau hynny sy’n angenrheidiol mewn unrhyw amgylchiadau;

(d)yn ddarostyngedig i baragraff (2), chwilio’r fangre honno ac ymafael mewn unrhyw ddogfennau a symud ymaith unrhyw ddogfennau (ac eithrio fêps untro, neu gydrannau fêps untro) sydd yn neu ar y fangre, at ddiben unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);

(e)cymryd unrhyw fesuriadau, tynnu unrhyw ffotograffau a gwneud unrhyw recordiadau y mae’r swyddog gorfodaeth yn ystyried eu bod yn angenrheidiol at ddiben unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);

(f)ei gwneud yn ofynnol dangos unrhyw ddogfennau, neu pan fo’r wybodaeth wedi ei chofnodi ar ffurf gyfrifiadurol, gyflwyno detholiadau o unrhyw ddogfennau, y mae’n angenrheidiol i’r swyddog gorfodaeth eu gweld at ddibenion unrhyw archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c) ac edrych ar y dogfennau a chymryd copïau ohonynt, neu o unrhyw gofnod ynddynt;

(g)ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson roi i’r swyddog gorfodaeth y cyfleusterau hynny a’r cymorth hwnnw mewn cysylltiad ag unrhyw faterion neu bethau sydd o dan reolaeth y person, neu y mae gan y person hwnnw gyfrifoldebau mewn perthynas â hwy, ag sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi’r swyddog gorfodaeth i arfer unrhyw un neu ragor o’r pwerau a roddir iddo gan y rheoliad hwn;

(h)cyfarwyddo bod y fangre honno neu unrhyw ran ohoni, neu unrhyw beth sydd ynddi, yn cael ei gadael heb aflonyddu arni neu ei adael heb aflonyddu arno (pa un ai’n gyffredinol neu o ran agweddau penodol) am gyhyd ag y bo’n rhesymol angenrheidiol at ddibenion archwiliad neu ymchwiliad o dan is-baragraff (c);

(i)cymryd unrhyw samplau, neu beri i samplau gael eu cymryd, o unrhyw fêps untro, neu unrhyw gydrannau o fêps untro, a geir yn neu ar y fangre honno, a pheri i’r fêps untro hynny neu’r cydrannau hynny gael eu dadansoddi neu eu profi;

(j)yn achos unrhyw fêp untro, neu unrhyw gydran o fêp untro, a geir yn neu ar y fangre honno, gymryd meddiant ohono neu ohoni, a’i gadw neu ei chadw am gyhyd ag y bo’n angenrheidiol at y cyfan neu unrhyw un neu ragor o’r dibenion a ganlyn—

(i)ei ddatgymalu neu ei datgymalu neu beri iddo gael ei ddatgymalu neu beri iddi gael ei datgymalu (ond nid er mwyn ei ddifrodi neu ei difrodi neu ei ddinistrio neu ei dinistrio, oni bai bod hynny’n angenrheidiol);

(ii)ei archwilio neu ei harchwilio, a chynnal unrhyw broses neu brofion arno neu arni, neu beri iddo gael ei archwilio neu beri iddi gael ei harchwilio;

(iii)sicrhau nad ymyrrir ag ef neu hi cyn i’r archwiliad gael ei gwblhau;

(iv)sicrhau ei fod ar gael i’w ddefnyddio neu ei bod ar gael i’w defnyddio fel tystiolaeth mewn unrhyw achos am drosedd o dan y Rheoliadau hyn;

(k)unwaith y mae yn neu ar y fangre honno, brynu fêp untro, neu ymrwymo i gytundeb i sicrhau y darperir fêp untro, heb roi rhybudd yn gyntaf, neu gael gwarant i wneud hynny.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), ni chaiff swyddog gorfodaeth arfer y pŵer ym mharagraff (1)(d) heb—

(a)cydsyniad person sydd â hawlogaeth i roi mynediad i ddeunydd sydd yn y fangre neu’n hygyrch ohoni, neu

(b)awdurdod gwarant a roddir o dan baragraff (3).

(3Caiff ynad heddwch drwy warrant awdurdodi swyddog gorfodaeth i arfer y pwerau ym mharagraff (1)(d) yn unol â’r warant ac, os oes angen, drwy rym, os yw’r ynad heddwch wedi ei fodloni bod sail resymol dros gredu—

(a)bod dogfennau yn y fangre o dan sylw neu sy’n hygyrch ohoni sy’n debygol o fod o werth sylweddol (ar eu pennau eu hunain neu ynghyd â deunydd arall) i archwiliad neu ymchwiliad o dan baragraff (1)(c), a

(b)ei bod yn anymarferol cyfathrebu â pherson sydd â hawlogaeth i roi mynediad i’r dogfennau, neu ei bod yn annhebygol y bydd mynediad iddynt yn cael ei roi oni bai bod gwarant yn cael ei dangos.

(4Caiff swyddog gorfodaeth arfer y pŵer ym mharagraff (1)(d) heb gydsyniad neu awdurdod gwarant os oes gan y swyddog gorfodaeth sail resymol dros gredu bod arfer y pŵer yn angenrheidiol er mwyn atal y dogfennau rhag cael eu cuddio, eu colli, eu newid neu eu dinistrio.

(5Pan fo swyddog gorfodaeth yn symud dogfen ymaith o dan y pŵer ym mharagraff (1)(d) sy’n “deunydd gwarchodedig”—

(a)ni chaniateir defnyddio’r deunydd at y diben awdurdodedig, a

(b)rhaid dychwelyd y deunydd i’r fangre y’i symudwyd ymaith ohoni, neu i’r person a oedd â meddiant ohono neu reolaeth drosto yn union cyn iddo gael ei symud ymaith, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol (ond caiff y swyddog gorfodaeth gadw unrhyw wybodaeth, neu gymryd copïau o unrhyw wybodaeth, sydd wedi ei chynnwys yn y ddogfen nad oes hawlogaeth o’r fath yn bodoli mewn perthynas â hi).

(6At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “deunydd gwarchodedig” yw—

(a)deunydd sy’n ddarostyngedig i fraint broffesiynol gyfreithiol,

(b)deunydd eithriedig o fewn ystyr a roddir i “excluded material” yn adran 11 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(1), neu

(c)deunydd newyddiadurol, o fewn yr ystyr a roddir i “journalistic material” yn adran 13 o Ddeddf yr Heddlu a Thystiolaeth Droseddol 1984(2), nad yw’n ddeunydd eithriedig.

(7Nid oes dim ym mharagraff (1)(f) sy’n gorfodi person i ddangos unrhyw ddogfennau y byddai gan y person hwnnw hawlogaeth, ar sail braint broffesiynol gyfreithiol, i ymatal rhag eu dangos ar orchymyn datgelu mewn achos yn y Llys Sirol neu’r Uchel Lys.

(8Rhaid i swyddog gorfodaeth sy’n ceisio arfer pŵer o dan baragraff (1) ddangos tystiolaeth o bwy ydyw a thystiolaeth o’i awdurdod os gofynnir iddo gan berson sydd, neu yr ymddengys ei fod, yn—

(a)cyflenwr fêps untro;

(b)cyflogai i gyflenwr y cyfeirir ato yn is-baragraff (a);

(c)perchennog neu feddiannydd ar unrhyw fangre y mae’r swyddog gorfodaeth yn ceisio arfer y pŵer o dan sylw ynddi.

Digollediad am ddifrod a achosir drwy arfer pwerau mynediad, ymchwilio ac archwilio etc.

11.—(1Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw bŵer i gael mynediad o dan reoliad 9, neu i wneud unrhyw beth o dan reoliad 10.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i’r rheoleiddiwr y mae’r swyddog gorfodaeth yn gweithredu o dan ei awdurdodiad ddigolledu unrhyw berson sydd wedi dioddef colled neu ddifrod oherwydd—

(a)arfer y pŵer hwnnw gan y swyddog gorfodaeth, neu

(b)cyflawni, neu fethu â chyflawni, y ddyletswydd a osodir gan reoliad 9(6).

(3Ni fydd digollediad yn daladwy mewn cysylltiad ag unrhyw golled neu ddifrod—

(a)sydd i’w briodoli i ddiffyg y person a’i dioddefodd, neu

(b)sy’n golled neu’n ddifrod y mae digollediad yn daladwy mewn cysylltiad â hi neu ag ef yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth arall mewn deddfiad rheoli llygredd (fel y diffinnir “pollution control enactments” o dan adran 108(15) o Ddeddf yr Amgylchedd 1995(3)).

(4Atgyfeirir unrhyw anghydfod o ran hawlogaeth person i ddigollediad o dan y rheoliad hwn, neu o ran swm unrhyw ddigollediad sy’n ddyledus, i’w gymrodeddu gan un cymrodeddwr.

(5Ni fydd swyddog gorfodaeth yn atebol mewn unrhyw achos sifil na throseddol am unrhyw beth a wneir wrth honni arfer unrhyw bŵer perthnasol os yw’r llys wedi ei fodloni bod y weithred wedi ei gwneud yn ddidwyll a bod sail resymol dros ei gwneud.

Gwaredu fêps untro

12.—(1Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod fêps untro o ddisgrifiad a bennir ym mharagraff (2) i’w trin fel gwastraff ac i’w gwaredu neu eu trin fel arall fel y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn angenrheidiol.

(2Y fêps untro y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn unrhyw fêps untro sydd wedi eu cyflenwi, eu cynnig ar gyfer eu cyflenwi, neu eu dal ym meddiant person i’w cyflenwi yn groes i Ran 2, ac maent yn cynnwys fêps untro y mae rheoleiddiwr wedi gosod sancsiynau sifil mewn cysylltiad â hwy o dan y Rheoliadau hyn.

(3O ran cyfarwyddyd o dan baragraff (1)—

(a)caniateir ei roi i unrhyw un neu ragor o reoleiddwyr mewn cysylltiad ag unrhyw gamau gorfodi a gymerir gan reoleiddiwr o dan y Rheoliadau hyn;

(b)caiff fod yn gymwys mewn cysylltiad â fêps untro a gedwir gan unrhyw swyddog gorfodaeth sydd—

(i)wedi ei awdurdodi gan y rheoleiddiwr o dan sylw, a

(ii)yn gweithredu at ddiben awdurdodedig;

(c)ni chaniateir i’r rheoleiddiwr o dan sylw (neu i berson sy’n gweithredu ar ran y rheoleiddiwr) ei weithredu hyd nes y bydd unrhyw hawl i apelio mewn perthynas â’r drosedd o dan y Rheoliadau hyn wedi ei disbyddu, neu hyd nes y bydd y cyfnod ar gyfer dwyn yr apêl honno wedi dod i ben heb i apêl gael ei dwyn.

Cyhoeddi gwybodaeth am gamau gorfodi

13.—(1Pa fo rheoleiddiwr yn gosod sancsiynau sifil o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i’r rheoleiddiwr o bryd i’w gilydd gyhoeddi—

(a)yr achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt,

(b)pan fo’r sancsiwn sifil yn gosb ariannol benodedig, yn gosb ariannol amrywiadwy neu’n hysbysiad cydymffurfio, yr achosion y derbyniwyd ymgymeriad trydydd parti ynddynt, ac

(c)yr achosion yr ymrwymwyd i ymgymeriad gorfodi ynddynt.

(2Ym mharagraff (1)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd y sancsiwn sifil ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r sancsiwn wedi ei osod ond wedi ei wrthdroi ar apêl.

(3Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’r rheoleiddiwr yn ystyried y byddai cyhoeddi yn amhriodol.

Canllawiau

14.—(1Rhaid i’r rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o sancsiynau sifil o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â throsedd o dan Ran 2.

(2Mewn perthynas â chanllawiau sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio, cosb am beidio â chydymffurfio neu hysbysiad stop, rhaid i’r canllawiau gynnwys yr wybodaeth berthnasol a nodir ym mharagraff (3).

(3Yr wybodaeth berthnasol y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw gwybodaeth ynghylch—

(a)ym mha amgylchiadau y mae’r gosb neu’r hysbysiad yn debygol o gael ei gosod neu ei osod,

(b)ym mha amgylchiadau na chaniateir gosod y gosb neu’r hysbysiad,

(c)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, a hawliau i apelio,

(d)yn achos cosb ariannol benodedig, swm y gosb, sut y caniateir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb, ac effaith y rhyddhad, ac

(e)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, y materion y mae’r rheoleiddiwr yn debygol o’u hystyried wrth bennu swm y gosb (gan gynnwys unrhyw ddisgowntiau am adrodd yn wirfoddol am beidio â chydymffurfio gan unrhyw berson amdano’i hun).

(4Rhaid i’r rheoleiddiwr ddiwygio’r canllawiau pan fo hynny’n briodol.

(5Rhaid i’r rheoleiddiwr ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig o dan y rheoliad hwn.

(6Rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i’w ganllawiau neu ei ganllawiau diwygiedig a gyhoeddir o dan y rheoliad hwn wrth arfer ei swyddogaethau.