xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Rheoliad 8
1.—(1) Mewn perthynas â throsedd o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn, caiff rheoleiddiwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), drwy hysbysiad osod gofyniad ar berson i—
(a)talu i’r rheoleiddiwr gosb o £200 (“cosb ariannol benodedig”),
(b)talu i’r rheoleiddiwr gosb ariannol o unrhyw swm y mae’r rheoleiddiwr yn ei bennu (“cosb ariannol amrywiadwy”), neu
(c)cymryd unrhyw gamau y mae’r rheoleiddiwr yn eu pennu, o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddo, er mwyn sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau neu nad yw’n digwydd eto, neu i sicrhau bod y sefyllfa, cyn belled ag y bo hynny’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn y byddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni (“hysbysiad cydymffurfio”).
(2) Cyn gosod gofyniad o dan is-baragraff (1) yn y fath fodd, rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.
(3) Pan osodir cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 5 (rhwystro swyddogion gorfodaeth a methu â chydymffurfio â’u ceisiadau), ni chaiff swm y gosb fod yn fwy nag uchafswm y ddirwy y gellid ei gosod ar euogfarn am y drosedd honno.
(4) Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-baragraff (1)(a) pan fo cosb ariannol amrywiadwy wedi ei gosod ar berson, neu pan fo hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop wedi ei gyflwyno i berson, mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
(5) Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-baragraff (1)(b) neu (1)(c) pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar berson mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred, neu pan fo’r person wedi ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
2.—(1) Cyn y caiff rheoleiddiwr osod cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)y sail dros y gosb ariannol benodedig arfaethedig, y gosb ariannol amrywiadwy arfaethedig, neu’r hysbysiad cydymffurfio arfaethedig (yn ôl y digwydd);
(b)yn achos hysbysiad cydymffurfio arfaethedig, ofynion yr hysbysiad;
(c)yn achos cosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy, y swm sydd i’w dalu;
(d)gwybodaeth ynghylch—
(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y daeth yr hysbysiad o fwriad i law;
(ii)ym mha amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb ariannol benodedig arfaethedig, y gosb ariannol amrywiadwy arfaethedig neu’r hysbysiad cydymffurfio arfaethedig.
(3) Rhaid i hysbysiad o fwriad i osod cosb ariannol benodedig hefyd—
(a)cynnig y cyfle i’r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo i’w ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu swm o £100 i’r rheoleiddiwr o fewn 28 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y daw’r hysbysiad i law, a
(b)egluro effaith y rhyddhad hwnnw.
(4) Mae person yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig os yw’r person yn talu swm o £100 i’r rheoleiddiwr o fewn y cyfnod o amser a bennir yn is-baragraff (3)(a).
(5) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r hysbysiad i law, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio.
(6) Nid yw is-baragraff (5) yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad o fwriad i gyflwyno cosb ariannol benodedig os yw’r person yn gwneud taliad yn unol ag is-baragraff (4).
3.—(1) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymgymeriad o ran camau i’w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw drydydd parti yr effeithir arno gan y drosedd (“ymgymeriad trydydd parti”).
(2) Caiff y rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod unrhyw ymgymeriad trydydd parti o’r fath.
4.—(1) Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ym mharagraff 2(5), rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i—
(a)gosod y gofynion yn yr hysbysiad o fwriad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b)gosod unrhyw ofyniad arall y mae gan y rheoleiddiwr y pŵer i’w osod o dan y Rhan hon.
(2) Pan fo’r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i’r hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 5 yn achos cosb ariannol benodedig, â pharagraff 6 yn achos cosb ariannol amrywiadwy, neu â pharagraff 7 yn achos hysbysiad cydymffurfio.
(3) Ni chaiff y rheoleiddiwr osod hysbysiad terfynol ar berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr ystyried unrhyw ymgymeriad trydydd parti y mae wedi ei dderbyn, wrth benderfynu pa un ai i gyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio.
5. Rhaid i hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol benodedig gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y sail dros osod y gosb,
(b)y swm sydd i’w dalu,
(c)sut y mae rhaid talu,
(d)unrhyw ddisgowntiau am daliadau cynnar,
(e)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law,
(f)hawliau apelio, ac
(g)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad (gan gynnwys unrhyw gosbau am daliadau hwyr).
6. Rhaid i hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol amrywiadwy gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y sail dros osod y gosb,
(b)y swm sydd i’w dalu,
(c)sut y mae rhaid talu,
(d)unrhyw ddisgowntiau am daliadau cynnar,
(e)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law,
(f)hawliau apelio, ac
(g)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad (gan gynnwys unrhyw gosbau am daliadau hwyr).
7. Rhaid i hysbysiad terfynol ar gyfer hysbysiad cydymffurfio gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y sail dros osod yr hysbysiad,
(b)pa gamau cydymffurfio sy’n ofynnol a’r cyfnod y mae rhaid eu cwblhau o’i fewn,
(c)hawliau apelio, a
(d)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
8.—(1) Caiff y person sy’n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol,
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith,
(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, fod swm y gosb yn afresymol,
(d)yn achos hysbysiad cydymffurfio, fod natur y gofyniad yn afresymol, neu
(e)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall.
9.—(1) Os cyflwynir hysbysiad o fwriad i osod cosb ariannol benodedig i unrhyw berson—
(a)ni chaniateir cychwyn unrhyw achos troseddol yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn diwedd y cyfnod y caiff y person ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig o’i fewn o dan baragraff 2(3), a
(b)os yw’r person yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd yn unol â pharagraff 2(4), ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd berthnasol mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno.
(2) Os gosodir hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol benodedig ar berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd berthnasol mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.
10.—(1) Os yw—
(a)cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio yn cael ei gyflwyno i unrhyw berson, neu
(b)ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth unrhyw berson,
ni chaniateir i’r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei euogfarnu o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb ariannol amrywiadwy neu’r ymgymeriad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).
(2) Yr achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yw achos—
(a)pan fo hysbysiad cydymffurfio yn cael ei osod ar berson neu ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth berson,
(b)pan na fo cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod ar y person hwnnw, ac
(c)pan fo’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.
11.—(1) Caiff rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (3) neu (4).
(2) “Hysbysiad stop” yw hysbysiad sy’n gwahardd person rhag ymgymryd â gweithgaredd a bennir yn yr hysbysiad hyd nes bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Achos sy’n dod o fewn yr is-baragraff hwn yw achos pan fo—
(a)y person yn cynnal y gweithgaredd;
(b)y rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol fod y gweithgaredd fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw yn achosi, neu’n peri risg sylweddol o achosi, niwed sylweddol i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid); ac
(c)y rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol fod y gweithgaredd fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw yn cynnwys, neu’n debygol o gynnwys, gyflawni trosedd o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn.
(4) Achos sy’n dod o fewn yr is-baragraff hwn yw achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol—
(a)bod y person yn debygol o ymgymryd â’r gweithgaredd,
(b)y bydd y gweithgaredd fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef yn achosi, neu’n peri risg sylweddol o achosi, niwed sylweddol i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid); ac
(c)y bydd y gweithgaredd fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef yn cynnwys, neu y bydd yn debygol o gynnwys, gyflawni trosedd o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn.
(5) Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) fod yn gamau i ddileu neu leihau’r niwed neu’r risg o niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid).
(6) Ni chaniateir cyflwyno hysbysiad stop pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar berson mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred, neu pan fo’r person wedi ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
12. Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y sail dros gyflwyno’r hysbysiad,
(b)y camau y mae rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop,
(c)hawliau apelio, a
(d)canlyniadau peidio â chydymffurfio.
13.—(1) Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(d)bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;
(e)nad yw’r person wedi cyflawni’r drosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;
(f)na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno.
14.—(1) Pan fo’r rheoleiddiwr, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, wedi ei fodloni bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r rheoleiddiwr ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”).
(2) Mae’r hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.
(3) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad stop iddo wneud cais i’r rheoleiddiwr am dystysgrif gwblhau ar unrhyw adeg.
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’i benderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau i gael y cais.
15. Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau, yn dilyn cais a wneir o dan baragraff 14(3), ar y seiliau—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol.
16. Rhaid i’r rheoleiddiwr ddigolledu person am golled a ddioddefir o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop, neu wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau, os—
(a)caiff yr hysbysiad stop wedi hynny ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio gan y rheoleiddiwr am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol, neu am fod unrhyw gam a bennwyd ynddo yn afresymol,
(b)yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol, neu
(c)yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod y gwrthodiad yn afresymol.
17. Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad, neu apelio yn erbyn swm y digollediad a ddyfarnwyd—
(a)ar y sail bod penderfyniad y rheoleiddiwr yn afresymol;
(b)ar y sail bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir.
18. Pan na fo person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio ag ef, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored—
(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cyffredinol mewn llys ynadon, neu’r ddau, neu
(b)ar euogfarn ar dditiad, i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.
19. Caiff rheoleiddiwr dderbyn ymgymeriad gorfodi a roddir gan berson mewn achos pan fo gan y rheoleiddiwr sail resymol dros amau bod y person wedi cyflawni trosedd o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn.
20.—(1) Rhaid i ymgymeriad gorfodi bennu—
(a)camau i sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau neu’n digwydd eto,
(b)camau (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw berson y mae’r drosedd yn effeithio arno,
(c)camau i sicrhau bod y sefyllfa, cyn belled ag y bo hynny’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn y byddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni, neu
(d)camau o ddisgrifiad rhagnodedig.
(2) Rhaid i’r ymgymeriad gorfodi bennu’r cyfnod y mae rhaid cwblhau’r camau gweithredu o’i fewn.
(3) Rhaid i’r ymgymeriad gorfodi gynnwys—
(a)datganiad bod yr ymgymeriad gorfodi wedi ei wneud yn unol â’r Atodlen hon,
(b)telerau’r ymgymeriad gorfodi, ac
(c)ym mha amgylchiadau yr ystyrir bod person wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad gorfodi.
(4) Caniateir amrywio’r ymgymeriad gorfodi, neu estyn y cyfnod y mae rhaid cwblhau’r camau gweithredu o’i fewn, os yw’r ddau barti yn cytuno i hynny yn ysgrifenedig.
21. Os yw rheoleiddiwr wedi derbyn ymgymeriad gorfodi, yna, oni bai bod y person y derbynnir yr ymgymeriad gorfodi oddi wrtho wedi methu â chydymffurfio â’r ymgymeriad gorfodi, neu unrhyw ran ohono—
(a)ni chaniateir euogfarnu’r person hwnnw ar unrhyw adeg o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r ymgymeriad gorfodi yn ymwneud â hi, a
(b)ni chaiff y rheoleiddiwr osod cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio na hysbysiad stop ar y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred honno.
22.—(1) Os yw rheoleiddiwr sydd wedi derbyn ymgymeriad gorfodi wedi ei fodloni y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad, rhaid iddo ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw (“tystysgrif gyflawni”).
(2) Caiff y rheoleiddiwr ei gwneud yn ofynnol i’r person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad gorfodi ddarparu gwybodaeth sy’n ddigonol i benderfynu y cydymffurfiwyd â’r ymgymeriad gorfodi.
(3) Caiff y person sydd wedi rhoi’r ymgymeriad gorfodi wneud cais i’r rheoleiddiwr am dystysgrif gyflawni ar unrhyw adeg.
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gyflawni, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’i benderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau i gael y cais.
23. Caiff y person y rhoddir hysbysiad ysgrifenedig iddo na fydd tystysgrif gyflawni yn cael ei dyroddi, yn dilyn cais a wnaed o dan baragraff 22(3), apelio yn erbyn y penderfyniad hwnnw ar y seiliau—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol.
24.—(1) Mae person sydd wedi rhoi gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn mewn perthynas ag ymgymeriad gorfodi i’w ystyried fel pe na bai wedi cydymffurfio â’r ymgymeriad hwnnw.
(2) Caiff rheoleiddiwr drwy hysbysiad ysgrifenedig ddirymu tystysgrif gyflawni a ddyroddwyd ganddo o dan baragraff 22, os y’i dyroddwyd ar sail gwybodaeth anghywir, gamarweiniol neu anghyflawn.
25.—(1) Os na chydymffurfir ag ymgymeriad gorfodi, caiff y rheoleiddiwr a dderbyniodd yr ymgymeriad gorfodi naill ai—
(a)cyflwyno hysbysiad cosb benodedig, hysbysiad cosb amrywiadwy, hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop, neu
(b)dwyn achos troseddol.
(2) Os yw person wedi cydymffurfio yn rhannol ond nid yn llwyr ag ymgymeriad gorfodi, rhaid ystyried y cydymffurfio rhannol hwnnw wrth osod unrhyw sancsiwn troseddol neu unrhyw sancsiwn sifil arall ar y person.
(3) Caniateir cychwyn achos troseddol am drosedd y mae ymgymeriad gorfodi yn ymwneud â hi ar unrhyw adeg hyd at ddeuddeg mis o’r dyddiad y mae’r rheoleiddiwr yn hysbysu’r person y mae’n ofynnol iddo gydymffurfio â’r ymgymeriad gorfodi hwnnw am fethiant y person hwnnw i wneud hynny.
26.—(1) Os yw person yn methu â chydymffurfio â hysbysiad cydymffurfio neu ymgymeriad trydydd parti, caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i’r person hwnnw sy’n gosod cosb ariannol (“cosb am beidio â chydymffurfio”) mewn cysylltiad â’r un drosedd.
(2) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu swm y gosb, a rhaid i’r swm hwnnw fod yn ganran o gostau bodloni gweddill gofynion yr hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.
(3) Rhaid i’r rheoleiddiwr bennu’r ganran gan roi sylw i holl amgylchiadau’r achos, a chaiff y ganran honno fod yn 100%, os yw’n briodol.
(4) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y sail dros osod y gosb am beidio â chydymffurfio,
(b)y swm sydd i’w dalu,
(c)sut y caniateir talu,
(d)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y daw’r hysbysiad i law,
(e)hawliau apelio,
(f)canlyniadau methu â thalu o fewn y cyfnod penodedig, ac
(g)unrhyw amgylchiadau pan gaiff y rheoleiddiwr leihau swm y gosb.
(5) Nid yw’r gosb am beidio â chydymffurfio yn daladwy os cydymffurfir â gofynion yr hysbysiad cydymffurfio, neu os bodlonir yr ymgymeriad trydydd parti, cyn y terfyn amser a osodir ar gyfer talu’r gosb am beidio â chydymffurfio.
27.—(1) Caiff y person y cyflwynir iddo’r hysbysiad sy’n gosod y gosb am beidio â chydymffurfio apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad i gyflwyno’r hysbysiad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol;
(d)bod swm y gosb yn afresymol.
28. Caiff rheoleiddiwr ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig—
(a)tynnu yn ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu gosb am beidio â chydymffurfio,
(b)gostwng swm unrhyw gosb a bennir yn yr hysbysiad, neu
(c)tynnu yn ôl hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop, neu ddiwygio’r camau a bennir mewn hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop.
29.—(1) Caiff y rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad i berson y mae hysbysiad stop neu hysbysiad cydymffurfio wedi ei gyflwyno iddo, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw dalu’r costau yr aed iddynt gan y rheoleiddiwr mewn perthynas â’r gofyniad a osodwyd gan yr hysbysiad stop neu’r hysbysiad cydymffurfio (“hysbysiad adennill cost gorfodaeth”), hyd at y dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad stop neu’r hysbysiad cydymffurfio.
(2) Mae “costau” yn cynnwys, yn benodol—
(a)costau ymchwilio,
(b)costau gweinyddu, ac
(c)costau cael cyngor arbenigol (gan gynnwys cyngor cyfreithiol).
(3) Rhaid i’r hysbysiad adennill cost gorfodaeth bennu—
(a)sut y caniateir talu,
(b)y swm y mae’n ofynnol ei dalu,
(c)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y daw’r hysbysiad i law,
(d)y sail dros osod yr hysbysiad,
(e)yr hawl i apelio, ac
(f)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad o fewn y cyfnod penodedig.
(4) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad adennill cost gorfodaeth iddo ei gwneud yn ofynnol i’r rheoleiddiwr ddarparu dadansoddiad manwl o’r swm.
(5) Nid yw’r person y mae’n ofynnol iddo dalu costau gan hysbysiad adennill cost gorfodaeth yn agored i dalu unrhyw gostau y mae’r person hwnnw’n dangos yr aeth y rheoleiddiwr iddynt yn ddiangen.
(6) Rhaid i bob rheoleiddiwr gyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o hysbysiadau adennill cost gorfodaeth.
(7) Rhaid i’r rheoleiddiwr ddiwygio’r canllawiau pan fo hynny’n briodol.
(8) Rhaid i’r rheoleiddiwr roi sylw i’w ganllawiau neu ei ganllawiau diwygiedig a gyhoeddir o dan y paragraff hwn wrth arfer ei swyddogaethau.
30. Caiff y person y mae’n ofynnol iddo dalu costau o dan hysbysiad adennill cost gorfodaeth apelio—
(a)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr i osod y gofyniad i dalu costau;
(b)yn erbyn penderfyniad y rheoleiddiwr o ran swm y costau.
31. Caiff rheoleiddiwr adennill unrhyw gosb ariannol benodedig, unrhyw gosb ariannol amrywiadwy, unrhyw gosb am beidio â chydymffurfio neu unrhyw gostau a nodir mewn hysbysiad adennill cost gorfodaeth a osodir o dan yr Atodlen hon, ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.
32.—(1) Mae apêl o dan baragraff 8, 13, 15, 17, 23, 27 neu 30 o’r Atodlen hon yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
(2) Mae pob hysbysiad (ac eithrio hysbysiadau stop) wedi ei atal dros dro wrth aros i apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.
(3) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf, mewn perthynas â gofyniad sancsiwn sifil a osodir o dan yr Atodlen hon, neu gyflwyno hysbysiad o dan yr Atodlen hon—
(a)gosod y gofyniad neu’r hysbysiad o’r neilltu,
(b)cadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad,
(c)amrywio’r gofyniad neu’r hysbysiad neu unrhyw ran ohono,
(d)cymryd y camau hynny y gallai’r rheoleiddiwr fod wedi eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gofyniad neu’r hysbysiad, neu
(e)anfon y penderfyniad o ran pa un ai i gadarnhau’r gofyniad neu’r hysbysiad, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at y rheoleiddiwr.