xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
1.—(1) Mewn perthynas â throsedd o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn, caiff rheoleiddiwr, yn ddarostyngedig i is-baragraff (2), drwy hysbysiad osod gofyniad ar berson i—
(a)talu i’r rheoleiddiwr gosb o £200 (“cosb ariannol benodedig”),
(b)talu i’r rheoleiddiwr gosb ariannol o unrhyw swm y mae’r rheoleiddiwr yn ei bennu (“cosb ariannol amrywiadwy”), neu
(c)cymryd unrhyw gamau y mae’r rheoleiddiwr yn eu pennu, o fewn unrhyw gyfnod a bennir ganddo, er mwyn sicrhau nad yw’r drosedd yn parhau neu nad yw’n digwydd eto, neu i sicrhau bod y sefyllfa, cyn belled ag y bo hynny’n bosibl, yn cael ei hadfer i’r hyn y byddai wedi bod pe na bai’r drosedd wedi ei chyflawni (“hysbysiad cydymffurfio”).
(2) Cyn gosod gofyniad o dan is-baragraff (1) yn y fath fodd, rhaid i’r rheoleiddiwr fod wedi ei fodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol fod y person wedi cyflawni’r drosedd.
(3) Pan osodir cosb ariannol amrywiadwy mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 5 (rhwystro swyddogion gorfodaeth a methu â chydymffurfio â’u ceisiadau), ni chaiff swm y gosb fod yn fwy nag uchafswm y ddirwy y gellid ei gosod ar euogfarn am y drosedd honno.
(4) Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-baragraff (1)(a) pan fo cosb ariannol amrywiadwy wedi ei gosod ar berson, neu pan fo hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad stop wedi ei gyflwyno i berson, mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
(5) Ni chaniateir gosod gofyniad o dan is-baragraff (1)(b) neu (1)(c) pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar berson mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred, neu pan fo’r person wedi ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
2.—(1) Cyn y caiff rheoleiddiwr osod cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio ar berson, rhaid i’r rheoleiddiwr gyflwyno i’r person hwnnw hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”).
(2) Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a)y sail dros y gosb ariannol benodedig arfaethedig, y gosb ariannol amrywiadwy arfaethedig, neu’r hysbysiad cydymffurfio arfaethedig (yn ôl y digwydd);
(b)yn achos hysbysiad cydymffurfio arfaethedig, ofynion yr hysbysiad;
(c)yn achos cosb ariannol benodedig neu gosb ariannol amrywiadwy, y swm sydd i’w dalu;
(d)gwybodaeth ynghylch—
(i)yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y daeth yr hysbysiad o fwriad i law;
(ii)ym mha amgylchiadau na chaiff y rheoleiddiwr osod y gosb ariannol benodedig arfaethedig, y gosb ariannol amrywiadwy arfaethedig neu’r hysbysiad cydymffurfio arfaethedig.
(3) Rhaid i hysbysiad o fwriad i osod cosb ariannol benodedig hefyd—
(a)cynnig y cyfle i’r person y cyflwynir yr hysbysiad iddo i’w ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu swm o £100 i’r rheoleiddiwr o fewn 28 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod y daw’r hysbysiad i law, a
(b)egluro effaith y rhyddhad hwnnw.
(4) Mae person yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig os yw’r person yn talu swm o £100 i’r rheoleiddiwr o fewn y cyfnod o amser a bennir yn is-baragraff (3)(a).
(5) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r hysbysiad i law, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau i’r rheoleiddiwr mewn perthynas â’r cynnig i osod cosb ariannol benodedig, cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio.
(6) Nid yw is-baragraff (5) yn gymwys mewn perthynas â hysbysiad o fwriad i gyflwyno cosb ariannol benodedig os yw’r person yn gwneud taliad yn unol ag is-baragraff (4).
3.—(1) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo gynnig ymgymeriad o ran camau i’w cymryd gan y person hwnnw (gan gynnwys talu swm o arian) er budd unrhyw drydydd parti yr effeithir arno gan y drosedd (“ymgymeriad trydydd parti”).
(2) Caiff y rheoleiddiwr dderbyn neu wrthod unrhyw ymgymeriad trydydd parti o’r fath.
4.—(1) Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ym mharagraff 2(5), rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i—
(a)gosod y gofynion yn yr hysbysiad o fwriad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b)gosod unrhyw ofyniad arall y mae gan y rheoleiddiwr y pŵer i’w osod o dan y Rhan hon.
(2) Pan fo’r rheoleiddiwr yn penderfynu gosod gofyniad, rhaid i’r hysbysiad sy’n ei osod (yr “hysbysiad terfynol”) gydymffurfio â pharagraff 5 yn achos cosb ariannol benodedig, â pharagraff 6 yn achos cosb ariannol amrywiadwy, neu â pharagraff 7 yn achos hysbysiad cydymffurfio.
(3) Ni chaiff y rheoleiddiwr osod hysbysiad terfynol ar berson pan fo’r rheoleiddiwr wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr ystyried unrhyw ymgymeriad trydydd parti y mae wedi ei dderbyn, wrth benderfynu pa un ai i gyflwyno hysbysiad terfynol ai peidio.
5. Rhaid i hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol benodedig gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y sail dros osod y gosb,
(b)y swm sydd i’w dalu,
(c)sut y mae rhaid talu,
(d)unrhyw ddisgowntiau am daliadau cynnar,
(e)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law,
(f)hawliau apelio, ac
(g)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad (gan gynnwys unrhyw gosbau am daliadau hwyr).
6. Rhaid i hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol amrywiadwy gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y sail dros osod y gosb,
(b)y swm sydd i’w dalu,
(c)sut y mae rhaid talu,
(d)unrhyw ddisgowntiau am daliadau cynnar,
(e)y cyfnod y mae rhaid talu o’i fewn, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y daeth yr hysbysiad terfynol i law,
(f)hawliau apelio, ac
(g)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad (gan gynnwys unrhyw gosbau am daliadau hwyr).
7. Rhaid i hysbysiad terfynol ar gyfer hysbysiad cydymffurfio gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y sail dros osod yr hysbysiad,
(b)pa gamau cydymffurfio sy’n ofynnol a’r cyfnod y mae rhaid eu cwblhau o’i fewn,
(c)hawliau apelio, a
(d)canlyniadau methu â chydymffurfio â’r hysbysiad.
8.—(1) Caiff y person sy’n cael yr hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol,
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith,
(c)yn achos cosb ariannol amrywiadwy, fod swm y gosb yn afresymol,
(d)yn achos hysbysiad cydymffurfio, fod natur y gofyniad yn afresymol, neu
(e)bod y penderfyniad yn afresymol am unrhyw reswm arall.
9.—(1) Os cyflwynir hysbysiad o fwriad i osod cosb ariannol benodedig i unrhyw berson—
(a)ni chaniateir cychwyn unrhyw achos troseddol yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn diwedd y cyfnod y caiff y person ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig o’i fewn o dan baragraff 2(3), a
(b)os yw’r person yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd yn y fath fodd yn unol â pharagraff 2(4), ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd berthnasol mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno.
(2) Os gosodir hysbysiad terfynol ar gyfer cosb ariannol benodedig ar berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd berthnasol mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.
10.—(1) Os yw—
(a)cosb ariannol amrywiadwy neu hysbysiad cydymffurfio yn cael ei gyflwyno i unrhyw berson, neu
(b)ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth unrhyw berson,
ni chaniateir i’r person hwnnw ar unrhyw adeg gael ei euogfarnu o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb ariannol amrywiadwy neu’r ymgymeriad trydydd parti ac eithrio mewn achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (2).
(2) Yr achos y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) yw achos—
(a)pan fo hysbysiad cydymffurfio yn cael ei osod ar berson neu ymgymeriad trydydd parti yn cael ei dderbyn oddi wrth berson,
(b)pan na fo cosb ariannol amrywiadwy yn cael ei gosod ar y person hwnnw, ac
(c)pan fo’r person hwnnw yn methu â chydymffurfio â’r hysbysiad cydymffurfio neu’r ymgymeriad trydydd parti.