- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
11.—(1) Caiff rheoleiddiwr gyflwyno hysbysiad stop i unrhyw berson mewn achos sy’n dod o fewn is-baragraff (3) neu (4).
(2) “Hysbysiad stop” yw hysbysiad sy’n gwahardd person rhag ymgymryd â gweithgaredd a bennir yn yr hysbysiad hyd nes bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad.
(3) Achos sy’n dod o fewn yr is-baragraff hwn yw achos pan fo—
(a)y person yn cynnal y gweithgaredd;
(b)y rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol fod y gweithgaredd fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw yn achosi, neu’n peri risg sylweddol o achosi, niwed sylweddol i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid); ac
(c)y rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol fod y gweithgaredd fel yr ymgymerir ag ef gan y person hwnnw yn cynnwys, neu’n debygol o gynnwys, gyflawni trosedd o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn.
(4) Achos sy’n dod o fewn yr is-baragraff hwn yw achos pan fo’r rheoleiddiwr yn credu’n rhesymol—
(a)bod y person yn debygol o ymgymryd â’r gweithgaredd,
(b)y bydd y gweithgaredd fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef yn achosi, neu’n peri risg sylweddol o achosi, niwed sylweddol i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid); ac
(c)y bydd y gweithgaredd fel y mae’n debygol y bydd y person hwnnw yn ymgymryd ag ef yn cynnwys, neu y bydd yn debygol o gynnwys, gyflawni trosedd o dan Ran 2 o’r Rheoliadau hyn.
(5) Rhaid i’r camau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (2) fod yn gamau i ddileu neu leihau’r niwed neu’r risg o niwed i’r amgylchedd (gan gynnwys iechyd anifeiliaid).
(6) Ni chaniateir cyflwyno hysbysiad stop pan fo cosb ariannol benodedig wedi ei gosod ar berson mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred, neu pan fo’r person wedi ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd am gosb ariannol benodedig mewn perthynas â’r un weithred neu anweithred.
12. Rhaid i hysbysiad stop gynnwys gwybodaeth ynghylch—
(a)y sail dros gyflwyno’r hysbysiad,
(b)y camau y mae rhaid i’r person eu cymryd i gydymffurfio â’r hysbysiad stop,
(c)hawliau apelio, a
(d)canlyniadau peidio â chydymffurfio.
13.—(1) Caiff y person y cyflwynir hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn y penderfyniad i’w gyflwyno.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn afresymol;
(d)bod unrhyw gam a bennir yn yr hysbysiad yn afresymol;
(e)nad yw’r person wedi cyflawni’r drosedd ac na fyddai wedi ei chyflawni pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno;
(f)na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, wedi bod yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd pe na bai’r hysbysiad stop wedi ei gyflwyno.
14.—(1) Pan fo’r rheoleiddiwr, ar ôl cyflwyno hysbysiad stop, wedi ei fodloni bod y person wedi cymryd y camau a bennir yn yr hysbysiad, rhaid i’r rheoleiddiwr ddyroddi tystysgrif i’r perwyl hwnnw (“tystysgrif gwblhau”).
(2) Mae’r hysbysiad stop yn peidio â chael effaith pan ddyroddir tystysgrif gwblhau.
(3) Caiff y person y cyflwynir yr hysbysiad stop iddo wneud cais i’r rheoleiddiwr am dystysgrif gwblhau ar unrhyw adeg.
(4) Rhaid i’r rheoleiddiwr benderfynu pa un ai i ddyroddi tystysgrif gwblhau, a rhoi hysbysiad ysgrifenedig o’i benderfyniad i’r ceisydd, o fewn 14 o ddiwrnodau i gael y cais.
15. Caiff y person y cyflwynwyd yr hysbysiad stop iddo apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyroddi tystysgrif gwblhau, yn dilyn cais a wneir o dan baragraff 14(3), ar y seiliau—
(a)bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b)bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c)bod y penderfyniad yn annheg neu’n afresymol.
16. Rhaid i’r rheoleiddiwr ddigolledu person am golled a ddioddefir o ganlyniad i gyflwyno hysbysiad stop, neu wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau, os—
(a)caiff yr hysbysiad stop wedi hynny ei dynnu’n ôl neu ei ddiwygio gan y rheoleiddiwr am fod y penderfyniad i’w gyflwyno yn afresymol, neu am fod unrhyw gam a bennwyd ynddo yn afresymol,
(b)yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn yr hysbysiad stop a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod cyflwyno’r hysbysiad yn afresymol, neu
(c)yw’r person yn apelio’n llwyddiannus yn erbyn y penderfyniad i wrthod dyroddi tystysgrif gwblhau a bod y Tribiwnlys Haen Gyntaf yn dyfarnu bod y gwrthodiad yn afresymol.
17. Caiff person apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu digollediad, neu apelio yn erbyn swm y digollediad a ddyfarnwyd—
(a)ar y sail bod penderfyniad y rheoleiddiwr yn afresymol;
(b)ar y sail bod y swm a gynigiwyd yn seiliedig ar ffeithiau anghywir.
18. Pan na fo person y cyflwynir hysbysiad stop iddo yn cydymffurfio ag ef, mae’r person yn euog o drosedd ac yn agored—
(a)ar euogfarn ddiannod, i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na’r terfyn cyffredinol mewn llys ynadon, neu’r ddau, neu
(b)ar euogfarn ar dditiad, i’w garcharu am gyfnod nad yw’n hwy na dwy flynedd, neu i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu’r ddau.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: