Search Legislation

Gorchymyn Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 1) 2024

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening OptionsExpand opening options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 1 Ionawr 2025

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2025—

(a)adran 1 (Bwrdd Rheoli Etholiadol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru);

(b)adran 2 a Rhan 1 o Atodlen 1 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);

(c)adran 26 (platfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig);

(d)adran 28 (cynlluniau cymorth ariannol i hybu amrywiaeth ymhlith personau sy’n ceisio swydd etholedig);

(e)adran 29 (personau a eithrir);

(f)adran 31 (dehongli Pennod 4 o Ran 1);

(g)adran 32 (gwariant tybiannol: ymgeiswyr mewn etholiadau llywodraeth leol);

(h)adran 33 (gwariant tybiannol a gwariant gan drydydd parti: etholiadau Senedd Cymru);

(i)adran 34 (codau ymarfer ar dreuliau);

(j)adran 35 (personau awdurdodedig nad yw’n ofynnol iddynt dalu drwy asiant etholiad);

(k)adran 36 (cyfyngu ar ba drydydd partïon a gaiff fynd i wariant a reolir);

(l)adran 37 (trydydd partïon sy’n gallu rhoi hysbysiad);

(m)adran 38 (cod ymarfer ar reolaethau sy’n ymwneud â thrydydd partïon);

(n)adran 39 a Rhan 3 o Atodlen 1 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol);

(o)adran 67 (Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: pwyllgor llywodraethu ac archwilio);

(p)adran 68 (Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru: pŵer i godi tâl).

Back to top

Options/Help