
Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Deiliadaeth swydd cadeirydd
6.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd y cyd-bwyllgor yn unol â rheoliad 4.
(2) Yn ddarostyngedig i’r Rheoliadau hyn, mae cadeirydd yn dal ac yn gadael y swydd yn unol â thelerau penodiad y person hwnnw.
(3) Caniateir i gadeirydd gael ei benodi am gyfnod nad yw’n hwy na phedair blynedd.
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caniateir i gadeirydd, pan fydd ei gyfnod yn ei swydd wedi dod i ben, gael ei ailbenodi yn unol â rheoliad 4.
(5) Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd i’r cyd-bwyllgor am gyfnod cyfan o fwy nag wyth mlynedd.
Back to top