- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Rheoliad 4
1. Mae’r Atodlen hon yn gymwys i benodi cadeirydd y cyd-bwyllgor a’r aelodau nad ydynt yn swyddogion ohono.
2. Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod trefniadau priodol yn eu lle ar gyfer penodi’r cadeirydd a’r aelodau nad ydynt yn swyddogion a bod y trefniadau hynny yn ystyried—
(a)yr egwyddorion a osodir o bryd i’w gilydd gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus ynghylch penodiadau gan Weinidogion i gyrff cyhoeddus,
(b)ei bod yn ofynnol i’r penodiad fod yn agored a thryloyw,
(c)ei bod yn ofynnol i’r penodiad gael ei wneud drwy gystadleuaeth deg ac agored,
(d)yr angen i annog amrywiaeth yn yr ystod o bersonau y caniateir eu penodi, ac
(e)yr angen i sicrhau bod ymgeiswyr llwyddiannus yn bodloni’r gofynion cymhwystra a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
Rheoliad 5(1)
1. Nid yw person yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog os oes unrhyw un neu ragor o’r materion a nodir ym mharagraffau 2 i 6 yn gymwys.
2.—(1) Mae’r person, o fewn y pum mlynedd blaenorol, wedi cael ei euogfarnu yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw drosedd ac wedi cael dedfryd o garchar (pa un a yw’n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod nad yw’n llai na thri mis heb yr opsiwn o ddirwy.
(2) At ddibenion y paragraff hwn, bernir mai’r dyddiad euogfarnu yw’r dyddiad y mae’r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais mewn cysylltiad â’r euogfarn yn dod i ben neu, os gwneir apêl neu gais o’r fath, y dyddiad y penderfynir yn derfynol ar yr apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y rhoddir y gorau i’r apêl neu’r cais, neu’r dyddiad y mae’r apêl yn methu am na chafodd ei dwyn yn ei blaen neu’r dyddiad y mae’r cais yn methu am na chafodd ei ddwyn yn ei flaen.
3.—(1) Mae’r person yn ddarostyngedig i orchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn cyfyngu methdaliad interim neu wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr.
(2) Pan fo person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1)—
(a)os diddymir y methdaliad ar y sail na ddylai’r person fod wedi cael ei ddyfarnu’n fethdalwr neu ar y sail bod dyledion y person wedi cael eu talu’n llawn, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog ar ddyddiad y diddymiad,
(b)os caiff y person ei ryddhau o fethdaliad, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog ar ddyddiad y rhyddhau,
(c)os telir dyledion y person yn llawn, ac yntau wedi gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog ar y dyddiad y telir y dyledion hynny yn llawn, a
(d)os yw cyfnod o bum mlynedd, ar ôl gwneud compównd neu drefniant â’i gredydwyr, wedi dod i ben o’r dyddiad y cyflawnwyd telerau’r compównd neu’r trefniant, mae’r person hwnnw yn dod yn gymwys i gael ei benodi’n gadeirydd neu’n aelod nad yw’n swyddog.
4.—(1) Mae’r person wedi ei ddiswyddo fel aelod, heblaw oherwydd bod y swydd wedi ei dileu, neu gontract cyfnod penodol heb ei adnewyddu, o gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd.
(2) Caiff person sydd wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1), ar ôl i gyfnod o ddwy flynedd ddod i ben o ddyddiad y diswyddiad, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu’r anghymhwysiad hwnnw.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i ddileu anghymhwysiad o dan is-baragraff (2), nid yw’r person wedi ei anghymwyso mwyach at ddiben yr Atodlen hon.
(4) Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais person o dan is-baragraff (2), ni chaiff y person wneud cais pellach cyn i gyfnod o ddwy flynedd ddod i ben gan ddechrau â dyddiad cais diwethaf y person.
(5) At ddiben y paragraff hwn, nid yw person i’w drin fel pe bai wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny dim ond oherwydd y bu—
(a)yn achos corff gwasanaeth iechyd nad yw’n Ymddiriedolaeth y GIG neu’n Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG (heblaw Bwrdd Gofal Integredig), yn gadeirydd neu is-gadeirydd y corff neu’n aelod nad yw’n swyddog ohono,
(b)yn achos Ymddiriedolaeth y GIG, yn gadeirydd neu is-gadeirydd yr ymddiriedolaeth neu’n gyfarwyddwr anweithredol iddi,
(c)yn achos Ymddiriedolaeth Sefydledig y GIG, yn gadeirydd yr ymddiriedolaeth neu’n llywodraethwr neu’n gyfarwyddwr anweithredol iddi, neu
(d)yn achos Bwrdd Gofal Integredig, yn gadeirydd y bwrdd neu’n gyfarwyddwr anweithredol iddo.
(6) Yn is-baragraff (5)(a), ystyr “aelod nad yw’n swyddog” yw aelod o gorff gwasanaeth iechyd nad yw wedi ei gyflogi gan y corff.
5.—(1) Mae—
(a)aelodaeth y person fel cadeirydd, is-gadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd wedi ei therfynu, heblaw oherwydd bod y swydd wedi ei dileu, oherwydd ymddiswyddiad gwirfoddol neu ad-drefnu’r corff gwasanaeth iechyd, neu oherwydd bod cyfnod y swydd y penodwyd y person amdano wedi dod i ben, neu
(b)y person wedi ei ddiswyddo fel cadeirydd neu aelod o Fwrdd Gofal Integredig.
(2) Os yw person wedi ei anghymhwyso o dan is-baragraff (1), bydd yr anghymhwysiad yn peidio â chael effaith pan ddaw dwy flynedd i ben gan ddechrau ar y dyddiad y terfynir cyfnod y penodiad neu unrhyw gyfnod hwy a bennwyd gan y corff a derfynodd aelodaeth y person.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais gan y person a anghymhwyswyd, leihau cyfnod yr anghymhwysiad a grybwyllir yn is-baragraff (2).
(4) Pan fydd cyfnod yr anghymhwysiad o dan is-baragraff (2) yn dod i ben, ni fydd y person wedi ei anghymhwyso mwyach at ddiben yr Atodlen hon.
6.—(1) Mae’r person yn cael, neu wedi cael, yn y 12 mis cyn ei benodi, ei gyflogi am dâl gan—
(a)Bwrdd Iechyd Lleol sydd wedi ei sefydlu o dan adran 11 o’r Ddeddf,
(b)ymddiriedolaeth y GIG sydd wedi ei sefydlu o dan adran 18 o’r Ddeddf, neu
(c)Awdurdod Iechyd Arbennig o ran Cymru sydd wedi ei sefydlu gan Weinidogion Cymru o dan adran 22 o’r Ddeddf.
(2) At ddibenion is-baragraff (1), nid yw person i’w drin fel pe bai wedi cael ei gyflogi am dâl a hynny oherwydd ei fod wedi dal swydd cadeirydd neu is-gadeirydd i Fwrdd Iechyd Lleol neu aelod nad yw’n swyddog ohono; cadeirydd, is-gadeirydd neu gyfarwyddwr anweithredol i ymddiriedolaeth y GIG; neu gadeirydd neu is-gadeirydd i Awdurdod Iechyd Arbennig neu aelod nad yw’n swyddog ohono.
(3) Mae person yn peidio â bod yn gymwys i fod yn aelod nad yw’n swyddog os yw’r person hwnnw, yn dilyn ei benodi’n aelod nad yw’n swyddog, yn ymgymryd â chyflogaeth am dâl gydag unrhyw un neu ragor o’r cyrff a restrir yn is-baragraff (1) heblaw o dan yr amgylchiadau a bennir yn is-baragraff (2).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: