- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
Ardrethu A Phrisio, Cymru
Gwnaed
21 Chwefror 2024
Yn dod i rym
23 Chwefror 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan baragraff 5(13A) o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(1).
Yn unol â pharagraff 5(13C) o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, gosodwyd fersiwn ddrafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad(2).
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Chwefror 2024.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 1988” yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988.
2. Ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2024—
(a)nid yw paragraff 5(5A) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn gymwys;
(b)at ddiben paragraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988, pennir mai 130.0 yw B.
Rebecca Evans
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
21 Chwefror 2024
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
O ran Cymru, cyfrifir y lluosydd ardrethu annomestig yn unol â’r fformiwla ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 (“Deddf 1988”) ar gyfer pob blwyddyn ariannol pan nad oes rhestrau ardrethu yn cael eu llunio. Nid oes rhestrau ardrethu newydd yn cael eu llunio ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2024 (“y flwyddyn o dan sylw”).
Mae’r fformiwla ym mharagraff 3B o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn cynnwys eitemau B ac C. Eitem B yw’r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw, ac eitem C yw’r mynegai prisiau defnyddwyr ar gyfer mis Medi yn y flwyddyn ariannol sy’n dod cyn y flwyddyn ariannol cyn y flwyddyn o dan sylw. Mae paragraff 5(13A) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988 yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud rheoliadau i ddiwygio, diddymu neu ddatgymhwyso is-baragraffau penodol yn Atodlen 7 i Ddeddf 1988, er mwyn rhoi cyfeiriadau at fynegai arall yn lle cyfeiriadau at y mynegai prisiau defnyddwyr, neu i bennu neu ddisgrifio ffigur ar gyfer eitemau B a/neu C.
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r flwyddyn ariannol sy’n dechrau â 1 Ebrill 2024, ac yn datgymhwyso paragraff 5(5A) o Atodlen 7 i Ddeddf 1988. Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn pennu mai’r ffigur ar gyfer eitem B yw 130.0. Effaith hyn yw bod y lluosydd ardrethu annomestig yn cynyddu gan 5% o’i gymharu â’r ffigur hwnnw a gyfrifwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol flaenorol. Heb y Rheoliadau hyn, byddai’n cynyddu gan 6.7% yn ddiofyn yn unol â’r newid yn y mynegai prisiau defnyddwyr.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: yr Is-adran Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
1988 p. 41. Mewnosodwyd paragraff 5(13A) o Atodlen 7 gan adran 154(2)(f) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1). Diwygiwyd paragraff 5(13A) yn ddiweddarach gan baragraff 64(14) o’r Atodlen i Ddeddf Ardrethu Annomestig 2023 (p. 53) (“Deddf 2023”).
Amnewidiwyd paragraff 5(13C) o Atodlen 7 gan adran 15(3)(d) o Ddeddf 2023.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: