Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024

Y darpariaethau sy’n dod i rym ar 6 Ebrill 2024

2.  Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2022 i rym ar 6 Ebrill 2024—

(a)adran 32(3) (awdurdodau rheolaeth adeiladu) at yr holl ddibenion sy’n weddill, i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 91ZD o Ddeddf 1984(1);

(b)adran 42 (rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu), i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod adran 58Z2 yn Neddf 1984(2);

(c)paragraff 56 o Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â Rhan 3 o Ddeddf 2022);

(d)o ran Cymru—

(i)adran 40 (atebolrwydd swyddogion corff corfforedig);

(ii)adran 42 (rheoleiddio’r proffesiwn rheolaeth adeiladu) at yr holl ddibenion sy’n weddill, ac eithrio i’r graddau y mae’n ymwneud ag adrannau 58Z7 a 58Z10 o Ddeddf 1984 a mewnosod adran 58Z2 yn Neddf 1984;

(iii)adran 43 (trosglwyddo swyddogaethau arolygwyr cymeradwy i gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu);

(iv)adran 44 (swyddogaethau nad ydynt yn arferadwy ond drwy arolygwyr cofrestredig adeiladu, neu gyda eu cyngor) at yr holl ddibenion sy’n weddill;

(v)adran 46 (gwaith adeilad risg uwch: cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu) at yr holl ddibenion sy’n weddill;

(vi)adran 50 (canslo hysbysiad cychwynnol) at yr holl ddibenion sy’n weddill;

(vii)adran 51 (hysbysiadau cychwynnol newydd) at yr holl ddibenion sy’n weddill;

(viii)adran 52 (casglu gwybodaeth) at yr holl ddibenion sy’n weddill;

(ix)adran 53(2) a (3)(a)(ii) a (iii) a (3)(b) (gwybodaeth);

(x)Atodlen 4 (trosglwyddo swyddogaethau arolygwyr cymeradwy i gymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu);

(xi)Atodlen 5 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol mewn cysylltiad â Rhan 3 o Ddeddf 2022) ac eithrio’r paragraffau a restrir yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 170(4)(b)(viii)(A) a (B) o Ddeddf 2022;

(xii)Atodlen 6 (apelau a phenderfyniadau eraill) at yr holl ddibenion sy’n weddill, yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 170(4)(b)(ix) o Ddeddf 2022.

(1)

I’r graddau y mae adran 32(2) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn ymwneud ag adran newydd 91ZD o Ddeddf Adeiladu 1984, nid yw pŵer Gweinidogion Cymru i benodi diwrnod ar gyfer dod i rym wedi ei gyfyngu i fod o ran Cymru yn unig.

(2)

I’r graddau y mae adran 42 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 yn ymwneud ag adran 58Z2 newydd o Ddeddf Adeiladu 1984, nid yw pŵer Gweinidogion Cymru i benodi diwrnod ar gyfer dod i rym wedi ei gyfyngu i fod o ran Cymru yn unig.