2024 Rhif 238 (Cy. 48)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 1(1), 46A(4) a 54B(5) o Ddeddf Adeiladu 19841, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Yn unol ag adran 14(7)2 o Ddeddf Adeiladu 1984, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Phwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu ac unrhyw berson arall y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.

Enwi, cymhwyso a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Gweithgareddau a Swyddogaethau Cyfyngedig) (Cymru) 2024.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 6 Ebrill 2024.

Dehongli2

1

Yn y Rheoliadau hyn—

  • mae i “adeilad” yr ystyr a roddir i “building” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2010;

  • ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984;

  • mae i “gwaith adeiladu” yr ystyr a roddir i “building work” yn rheoliad 3 o Reoliadau 2010;

  • ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 20103;

  • ystyr “y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” (“the Approved Inspectors Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 20104.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (1), mae i eiriau ac ymadroddion Cymraeg yn y Rheoliadau hyn sy’n cyfateb i eiriau ac ymadroddion Saesneg a ddefnyddir yn Neddf 1984 yr un ystyr â’r geiriau a’r ymadroddion hynny yn y Ddeddf honno.

Awdurdodau rheolaeth adeiladu: gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig3

1

At ddibenion adran 46A(1) o Ddeddf 1984, mae’r gweithgareddau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n weithgaredd cyfyngedig—

a

pan gyflwynir cynlluniau sy’n ymwneud ag unrhyw waith adeiladu i awdurdod lleol o dan unrhyw ddarpariaeth yn Rheoliadau 2010, gwirio bod y cynlluniau hynny yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu5 sy’n gymwys i’r gwaith adeiladu hwnnw;

b

pan fo arolygiad o waith adeiladu i’w gynnal gan awdurdod lleol at ddiben gwirio y cydymffurfir ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy’n gymwys i’r gwaith, cynnal yr arolygiad hwnnw ac amserlennu’r camau neu’r pwyntiau ar gyfer arolygiadau.

2

At ddibenion adran 46A(2) o Ddeddf 1984, mae’r swyddogaethau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n swyddogaeth gyfyngedig—

a

penderfynu cais am gyfarwyddyd o dan adran 8 o Ddeddf 1984 (llacio rheoliadau adeiladu);

b

pasio neu wrthod cynlluniau o dan adran 16 o Ddeddf 1984 (pasio neu wrthod cynlluniau) gan gynnwys arfer, mewn perthynas â’r cynlluniau hynny, bŵer yn—

i

adran 19(1) o Ddeddf 1984 (defnyddio deunyddiau byrhoedlog),

ii

adran 21(4) o Ddeddf 1984 (darparu draenio), neu

iii

adran 25(1) o Ddeddf 1984 (darparu cyflenwad dŵr);

c

pennu cyfnod y mae rhaid cael gwared ar adeilad neu waith adeiladu pan fo’r cyfnod hwnnw yn dod i ben, estyn y cyfnod hwnnw, gosod amodau mewn perthynas ag adeilad neu amrywio’r amodau hynny, o dan adran 19(2) neu (3) o Ddeddf 1984 (defnyddio deunyddiau byrhoedlog);

d

ei gwneud yn ofynnol i adeilad gael ei ddraenio ar y cyd o dan adran 22 o Ddeddf 1984 (draenio adeiladau ar y cyd);

e

rhoi cydsyniad o dan adran 23 o Ddeddf 1984 (darparu cyfleusterau ar gyfer sbwriel);

f

rhoi hysbysiad neu roi tystysgrif o dan adran 25(3) o Ddeddf 1984 (darparu cyflenwad dŵr);

g

arfer unrhyw bŵer o dan adran 33 o Ddeddf 1984 (profion i ganfod a gydymffurfir â rheoliadau adeiladu);

h

penderfynu, at ddibenion adran 35 o Ddeddf 1984 (cosb am dorri rheoliadau adeiladu), a yw darpariaeth sydd wedi ei chynnwys mewn rheoliadau adeiladu wedi ei thorri;

i

rhoi hysbysiad adran 366 neu benderfynu tynnu i lawr neu gael gwared ar waith neu wneud addasiadau iddo fel y’i tybir yn angenrheidiol o dan adran 36(3) o Ddeddf 1984 (cael gwared ar waith tramgwyddus neu ei addasu);

j

penderfynu a ddylid tynnu hysbysiad adran 36 yn ôl pan roddir adroddiad ysgrifenedig o dan adran 37(1)(a) o Ddeddf 1984 (cael adroddiad pan roddir hysbysiad adran 36);

k

rhoi hysbysiad canslo o dan adran 52A(4) o Ddeddf 1984 (canslo hysbysiad cychwynnol pan fo gwaith yn dod yn waith adeilad risg uwch)7;

l

rhoi tystysgrif gwblhau o dan reoliad 17 o Reoliadau 2010 (tystysgrifau cwblhau);

m

rhoi tystysgrif gwblhau o dan reoliad 17A o Reoliadau 2010 (tystysgrif ar gyfer adeilad a feddiennir cyn cwblhau’r gwaith)8;

n

penderfynu, pan fo rheoliad 18 o Reoliadau 2010 (gwaith adeiladu anawdurdodedig) yn gymwys—

i

a ganiateir rhoi tystysgrif unioni o dan reoliad 18 o Reoliadau 2010;

ii

a oes angen cymryd unrhyw gamau rhesymol o dan reoliad 18(3) o Reoliadau 2010;

o

penderfynu, pan fo rheoliad 19(1) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy (gwaith sydd wedi ei gwblhau yn rhannol) yn gymwys—

i

a yw cynlluniau a roddwyd o dan reoliad 19(2)(a) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn ddigonol i ddangos na fyddai’r gwaith a fwriedir yn torri unrhyw ofyniad yn Rheoliadau 2010;

ii

a ddylai fod yn ofynnol i berchennog, mewn perthynas ag unrhyw ran o’r gwaith, dorri i mewn iddo, ei agor neu ei dynnu i lawr o dan reoliad 19(2)(b) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy.

Cymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu: gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig4

1

At ddibenion adran 54B(2) o Ddeddf 1984, mae’r gweithgareddau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n weithgaredd cyfyngedig—

a

pan fo hysbysiad cychwynnol9, hysbysiad diwygio10 neu dystysgrif cynlluniau11 i’w roi neu i’w rhoi mewn perthynas ag unrhyw waith adeiladu, gwirio bod cynlluniau y mae’r hysbysiad neu’r dystysgrif yn ymwneud â hwy yn cydymffurfio ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy’n gymwys i’r gwaith;

b

pan fo arolygiad o waith adeiladu i’w gynnal gan y cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu at ddiben gwirio y cydymffurfir ag unrhyw ofyniad yn y rheoliadau adeiladu sy’n gymwys i’r gwaith, cynnal yr arolygiad hwnnw (gan gynnwys amserlennu’r camau neu’r pwyntiau ar gyfer arolygiadau).

2

At ddibenion adran 54B(3) o Ddeddf 1984, mae’r swyddogaethau a ganlyn wedi eu rhagnodi’n swyddogaeth gyfyngedig—

a

rhoi hysbysiad cychwynnol i awdurdod lleol o dan adran 47 o Ddeddf 1984 (hysbysiadau cychwynnol) gan gynnwys hysbysiad cychwynnol wedi ei gyfuno â thystysgrif cynlluniau neu hysbysiad cychwynnol newydd o dan adran 53(7) o Ddeddf 1984 (hysbysiadau cychwynnol newydd);

b

rhoi tystysgrif cynlluniau i awdurdod lleol o dan adran 50 o Ddeddf 1984 (tystysgrifau cynlluniau);

c

rhoi tystysgrif derfynol i awdurdod lleol o dan adran 51 o Ddeddf 1984 (tystysgrifau terfynol);

d

rhoi hysbysiad diwygio i awdurdod lleol o dan adran 51A o Ddeddf 1984 (amrywio gwaith y mae hysbysiad cychwynnol yn ymwneud ag ef);

e

rhoi hysbysiad i awdurdod lleol o dan adran 52(1)(c) neu 52A(1) o Ddeddf 1984 (canslo hysbysiad cychwynnol);

f

rhoi tystysgrif drosglwyddo ac adroddiad trosglwyddo i awdurdod lleol o dan adran 53B(3) o Ddeddf 1984 (hysbysiad cychwynnol newydd: newid cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu).

Julie JamesY Gweinidog Newid Hinsawdd, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi gweithgareddau a swyddogaethau awdurdodau rheolaeth adeiladu a chymeradwywyr cofrestredig rheolaeth adeiladu sydd wedi eu cyfyngu o dan adrannau 46A a 54B o Ddeddf Adeiladu 1984 (p. 55) (“Deddf 1984”).

Mae rheoliad 3 yn rhagnodi gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig awdurdod rheolaeth adeiladu at ddibenion adran 46A o Ddeddf 1984.

Mae rheoliad 4 yn rhagnodi gweithgareddau a swyddogaethau cyfyngedig cymeradwywr cofrestredig rheolaeth adeiladu at ddibenion adran 54B o Ddeddf 1984.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac mae wedi ei gyhoeddi ar www.llyw.cymru .