RHAN 1CYFFREDINOL

Cais i gofrestru ysgol annibynnol3

Rhaid i bob cais—

a

bod ar ffurf cais ar-lein a gyrchir ar dudalennau’r wefan a gynhelir gan Lywodraeth Cymru ac sydd wedi eu sefydlu at ddiben hysbysu ceiswyr ynghylch y weithdrefn ar gyfer cofrestru o dan adran 158(1) a (3) o Ddeddf 2002,

b

datgan y dyddiad cyntaf y mae’r perchennog yn bwriadu i’r ysgol annibynnol dderbyn disgyblion arno,

c

cynnwys yr wybodaeth a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen, a

d

cynnwys tystysgrif wedi ei llofnodi gan y perchennog neu gan berson sydd wedi ei awdurdodi gan y perchennog i roi’r dystysgrif ar ran y perchennog, bod y datganiadau a wneir yn y cais yn gywir hyd eithaf ei wybodaeth a’i gred.