20.—(1) Nifer y disgyblion yn yr ysgol annibynnol—
(a)y mae awdurdod lleol yn cynnal cynllun datblygu unigol mewn cysylltiad â hwy;
(b)y mae awdurdod lleol yn cynnal datganiad anghenion addysgol arbennig mewn cysylltiad â hwy o dan adran 324 o Ddeddf 1996.
(2) Nifer y disgyblion yn yr ysgol annibynnol nad ydynt yn dod o fewn is-baragraff (1), ond y nodwyd bod ganddynt anghenion dysgu ychwanegol neu anghenion addysgol arbennig.