RHAN 1CYFFREDINOL
Enwi, dod i rym, cymhwyso a dirymu1.
(1)
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Safonau Ysgolion Annibynnol (Cymru) 2024, a deuant i rym ar 14 Chwefror 2024.
(2)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3)
Dehongli2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
mae i “addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education” yn adran 2(3) o Ddeddf 1996;
mae i “addysg uwchradd” yr ystyr a roddir i “secondary education” yn adran 2(2) o Ddeddf 1996;
mae “cadeirydd” (“chair”), fel cyfeiriad at gadeirydd yr ysgol annibynnol, yn gyfeiriad at unigolyn sy’n gadeirydd corff o bersonau corfforedig neu anghorfforedig sydd wedi ei enwi fel perchennog yr ysgol annibynnol yn y gofrestr neu mewn cais i gynnwys yr ysgol annibynnol yn y gofrestr, ac mae’n cynnwys cyfeiriad at swyddog tebyg;
mae i “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yr ystyr a roddir yn adran 10 o Ddeddf 2018;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002;
mae i “disgybl cofrestredig” yr ystyr a roddir i “registered pupil” yn adran 434(5) o Ddeddf 1996;
ystyr “disgybl sy’n byrddio” (“boarder”) yw disgybl y mae ysgol annibynnol yn darparu llety ar ei gyfer, pa un a yw’r disgybl yn ddisgybl cofrestredig yn yr ysgol annibynnol honno ai peidio;
ystyr “gorchymyn atal dros dro” (“suspension order”) yw gorchymyn a wneir gan Gyngor y Gweithlu Addysg o dan adran 26(5) o Ddeddf 2014 ac sy’n cael yr effaith a ddisgrifir yn adran 30(2) a (3) o’r Ddeddf honno;
mae i “llesiant” (“well-being”) yr ystyr a roddir yn adran 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
ystyr “llety byrddio” (“boarding accommodation”) yw llety dros nos a drefnir neu a ddarperir gan yr ysgol annibynnol yn yr ysgol annibynnol neu yn rhywle arall, ac eithrio llety ar gyfer disgyblion sy’n cael eu lletya i ffwrdd o fangre’r ysgol annibynnol yn ystod trip ysgol;
ystyr “staff” (“staff”) yw unrhyw berson sy’n gweithio yn yr ysgol annibynnol pa un ai o dan gontract cyflogaeth, o dan gontract am wasanaethau neu o dan gontract fel arall, ond nid yw’n cynnwys staff cyflenwi na gwirfoddolwyr;
ystyr “staff cyflenwi” (“supply staff”) yw unrhyw berson sy’n gweithio yn yr ysgol annibynnol, a gyflenwir gan fusnes cyflogi;
ystyr “ysgol annibynnol gofrestredig” (“registered independent school”) yw ysgol annibynnol y mae ei henw wedi ei gofnodi yn y gofrestr.
(2)
Yn y Rheoliadau hyn, pan fo “rhoi ar gael” wybodaeth neu ddogfen yn elfen o safon, mae’r elfen honno o’r safon wedi ei chyrraedd—
(a)
mewn achos pan fo gan yr ysgol annibynnol wefan—
(i)
os yw’r wybodaeth neu gopi o’r ddogfen ar gael ar y wefan ar ffurf sy’n hygyrch i ddisgyblion, rhieni disgyblion a rhieni darpar ddisgyblion a bod yr wybodaeth neu’r copi o’r ddogfen ar gael ym mangre’r ysgol annibynnol er mwyn iddynt edrych ar yr wybodaeth neu’r copi o’r ddogfen yn ystod y diwrnod ysgol, a
(ii)
os yw’r perchennog yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod disgyblion, rhieni disgyblion a rhieni darpar ddisgyblion yn ymwybodol bod yr wybodaeth neu gopi o’r ddogfen ar gael ac ar ba ffurf y mae’r wybodaeth neu’r copi ar gael,
(b)
mewn achos pan fo gan yr ysgol annibynnol wefan ond nad yw’r wybodaeth na chopi o’r ddogfen ar gael ar y wefan, neu pan na fo gan yr ysgol annibynnol wefan—
(i)
os yw’r perchennog yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod disgyblion, rhieni disgyblion a rhieni darpar ddisgyblion yn cael gwybod y cânt ofyn am yr wybodaeth neu am gopi o’r ddogfen, a
(ii)
os anfonir yr wybodaeth neu gopi o’r ddogfen am ddim at ddisgyblion neu rieni o’r fath, neu os rhoddir yr wybodaeth neu gopi o’r ddogfen am ddim iddynt, a hynny mewn ymateb i gais am yr wybodaeth neu gopi o’r ddogfen.
(3)
Yn y Rheoliadau hyn, pan fo “darparu” gwybodaeth neu ddogfen i berson yn elfen o safon, mae’r elfen honno o’r safon wedi ei chyrraedd—
(a)
pan fo’r person wedi rhoi cyfeiriad e-bost i’r ysgol annibynnol, drwy anfon i’r cyfeiriad hwnnw—
(i)
yr wybodaeth neu gopi o’r ddogfen ar ffurf electronig, neu
(ii)
cyfeiriad gwefan lle y gall y person lawrlwytho’r wybodaeth neu gopi o’r ddogfen,
ac yn yr achos hwn rhaid i’r wybodaeth neu gopi o’r ddogfen fod ar gael ym mangre’r ysgol annibynnol er mwyn i’r person edrych ar yr wybodaeth neu’r copi o’r ddogfen yn ystod y diwrnod ysgol, neu
(b)
drwy anfon yr wybodaeth neu gopi o’r ddogfen at y person neu drwy roi’r wybodaeth neu gopi o’r ddogfen iddo.
(4)
At ddibenion paragraffau 20(2)(e), 21(2)(a)(i)(bb), 22(3)(b), (5)(b) a (6)(b)(i) o’r Atodlen, nid yw tystysgrif GDG neu wiriad gwasanaeth diweddaru’r GDG ond yn berthnasol pan fo unigolyn yn cymryd rhan, neu pan fydd yn cymryd rhan, mewn—
(a)
gweithgaredd rheoleiddiedig o fewn yr ystyr a roddir i “regulated activity” yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 2006, neu
(b)
gweithgaredd rheoleiddiedig sy’n ymwneud â phlant o fewn yr ystyr a roddir i “regulated activity” yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 2006 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn i adran 64 o Ddeddf Diogelu Rhyddidau 2012 ddod i rym.
Safonau Ysgolion Annibynnol3.
Mae’r darpariaethau sydd wedi eu cynnwys yn yr Atodlen wedi eu rhagnodi fel y safonau ysgolion annibynnol at ddibenion Pennod 1 o Ran 10 o Ddeddf 2002.