Y seiliau y caniateir ceisio amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd adran 167A arnynt5

1

Y seiliau rhagnodedig y caiff person sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd adran 167A geisio ei gael wedi ei amrywio neu wedi ei ddirymu arnynt yw—

a

bod euogfarn, rhybuddiad neu ganfyddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd ar ei sail wedi ei diddymu neu wedi ei ddiddymu,

b

bod euogfarn neu rybuddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd ar ei sail, ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi, wedi ei disbyddu neu wedi ei ddisbyddu o fewn yr ystyr a roddir i “spent conviction” neu “spent caution” yn Neddf Adsefydlu Troseddwyr 1974,

c

bod euogfarn neu rybuddiad y rhoddwyd y cyfarwyddyd ar ei sail, ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi, wedi dod yn euogfarn warchodedig neu’n rhybuddiad gwarchodedig o fewn yr ystyr a roddir i “protected conviction” neu “protected caution” yng Ngorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 19758,

d

yn achos cyfarwyddyd a roddir ar sail canfyddiad perthnasol, fod o leiaf bum mlynedd wedi mynd heibio ers i’r canfyddiad gael ei wneud,

e

bod y person y rhoddwyd y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef yn gallu darparu gwybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad i roi’r cyfarwyddyd cynharach nad oedd gan yr awdurdod priodol ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad, neu

f

bod y person y rhoddwyd y cyfarwyddyd mewn cysylltiad ag ef yn gallu darparu tystiolaeth o newid perthnasol mewn amgylchiadau sy’n digwydd ers i’r cyfarwyddyd gael ei roi.

2

At ddibenion paragraff (1)(e) ac (f), ni chaiff person geisio cael cyfarwyddyd adran 167A wedi ei amrywio na wedi ei ddirymu i’r graddau y mae achos y person yn anghyson â bod y person wedi ei euogfarnu o drosedd, neu wedi cael rhybuddiad mewn cysylltiad â throsedd.

3

At ddibenion y rheoliad hwn, rhoddir cyfarwyddyd adran 167A ar sail euogfarn, rhybuddiad, canfyddiad neu ymddygiad os bodlonir y sail yn rheoliad 2(1) yn rhinwedd yr euogfarn, y rhybuddiad, y canfyddiad neu’r ymddygiad (yn ôl y digwydd).