Apelau: pwerau’r Tribiwnlys Haen Gyntaf7

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys—

a

pan fo apêl wedi ei gwneud i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf o dan adran 167B(1) o Ddeddf 2002 mewn cysylltiad â phenderfyniad i roi cyfarwyddyd adran 167A, neu benderfyniad i beidio ag amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd adran 167A, a

b

pan fo’r Tribiwnlys Haen Gyntaf yn ystyried nad yw’r penderfyniad yn briodol.

2

Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf orchymyn i’r awdurdod priodol amrywio neu ddirymu’r cyfarwyddyd.

3

Oni bai bod y partïon i apêl yn cytuno fel arall, rhaid i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf, drwy arfer ei bwerau o dan y rheoliad hwn, beidio ag ystyried—

a

unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad i roi cyfarwyddyd, neu i beidio ag amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd, nad oedd gan yr awdurdod priodol ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad;

b

unrhyw dystiolaeth o newid perthnasol yn amgylchiadau’r person o dan sylw sy’n digwydd ers i’r penderfyniad i roi cyfarwyddyd neu i beidio ag amrywio neu ddirymu cyfarwyddyd gael ei wneud.