2024 Rhif 316 (Cy. 56)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2024

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 52(3), (4)(b), (c) a (d) a (5)(b), 210(7) a 214(1) a (2) o Ddeddf Addysg 20021, ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) (Diwygio) 2024.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Ebrill 2024.

3

Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Rheoliadau UCD 2003” yw Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 20033.

Gwaharddiadau y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt2

1

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i waharddiadau sy’n digwydd ar neu ar ôl 8 Ebrill 2024.

2

Mae Rheoliadau UCD 2003, fel yr oeddent cyn eu diwygio gan y Rheoliadau hyn, yn parhau i fod yn gymwys i waharddiadau sy’n digwydd cyn 8 Ebrill 2024.

Diwygio rheoliad 3 o Reoliadau UCD 20033

1

Mae rheoliad 3 (y corff cyfrifol) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn lle “yr awdurdod lleol sy’n cynnal” rhodder “pwyllgor rheoli”.

3

Hepgorer “am gyfnod penodedig”.

Diwygio rheoliad 5 o Reoliadau UCD 20034

1

Mae rheoliad 5 (gwahardd disgyblion: y ddyletswydd i hysbysu’r person perthnasol a’r awdurdod lleol) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn y pennawd, ar ôl “person perthnasol” mewnosoder “, y pwyllgor rheoli”.

3

Ym mharagraff (1)—

a

hepgorer “am gyfnod penodedig”;

b

yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “neu, os yw’r disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol, fod y disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol”;

c

yn is-baragraff (c)—

i

ar ôl “y caiff” mewnosoder “y person perthnasol”, a

ii

yn lle “awdurdod lleol”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “pwyllgor rheoli”.

4

Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

1A

Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn penderfynu y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol, rhaid i’r athro neu’r athrawes â gofal yn ddi-oed gymryd camau rhesymol i hysbysu’r person perthnasol—

a

o’r penderfyniad, a

b

o’r materion a bennir yn is-baragraffau (b) i (ch) o baragraff (1).

5

Yn lle paragraffau (2) a (3) rhodder—

2

Mae paragraff (3) yn gymwys os bydd yr athro neu’r athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion—

a

yn gwahardd unrhyw ddisgybl mewn amgylchiadau pan fyddai’r disgybl, yn sgil y gwaharddiad—

i

yn cael ei wahardd o’r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na phum diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu

ii

yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus,

b

yn gwahardd disgybl yn barhaol, neu

c

yn penderfynu y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl yn waharddiad parhaol.

3

Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r athro neu’r athrawes â gofal yn ddi-oed hysbysu’r pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol o’r materion canlynol—

a

cyfnod y gwaharddiad neu, os yw’r disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol, fod y disgybl yn cael ei wahardd felly, neu

b

penderfyniad yr athro neu’r athrawes â gofal y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol,

ac (yn y naill achos neu’r llall) y rhesymau drosto.

6

Hepgorer paragraff (4).

7

Ym mharagraff (5)—

a

ar ôl “hysbysu’r” mewnosoder “pwyllgor rheoli a’r”;

b

yn lle “paragraffau (2) neu (3)” rhodder “paragraff (2)”.

Diwygio rheoliad 6 o Reoliadau UCD 20035

1

Mae rheoliad 6 (gwahardd disgyblion: darparu gwybodaeth i’r awdurdod lleol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn y pennawd, yn lle “Chynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Gweinidogion Cymru”.

3

Ym mharagraff (1)—

a

yn lle “athro neu’r athrawes â gofal” rhodder “pwyllgor rheoli”;

b

ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

ba

pan fo gan y disgybl sydd wedi’i wahardd anghenion dysgu ychwanegol, neu y gall fod ganddo anghenion dysgu ychwanegol, a yw’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol, neu a oedd ar adeg y gwaharddiad—

i

yn penderfynu a oes gan y disgybl anghenion dysgu ychwanegol,

ii

yn llunio cynllun datblygu unigol ar gyfer y disgybl, neu

iii

yn cynnal cynllun datblygu unigol ar gyfer y disgybl,

yn unol â Rhan 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 20184;

4

Yn lle paragraff (2) rhodder—

2

Rhaid i awdurdod lleol ddarparu i Weinidogion Cymru unrhyw wybodaeth, os byddant yn gofyn amdani, y mae’r awdurdod lleol wedi’i chael oddi wrth athro neu athrawes â gofal o dan reoliad 5(3) neu 5(5) neu oddi wrth bwyllgor rheoli o dan reoliad 6(1).

Diwygio rheoliad 7 o Reoliadau UCD 20036

1

Mae rheoliad 7 (swyddogaethau awdurdod lleol mewn perthynas â disgyblion wedi’u gwahardd am gyfnod penodedig) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Yn y pennawd—

a

yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;

b

yn lle “wedi’u gwahardd am gyfnod penodedig” rhodder “sydd wedi’u gwahardd”.

3

Yn lle paragraff (1) rhodder—

1

Mae paragraffau (2) i (6) yn gymwys pan hysbysir y pwyllgor rheoli o’r canlynol o dan reoliad 5(3)—

a

gwahardd disgybl yn barhaol,

b

penderfyniad y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl yn waharddiad parhaol, neu

c

gwahardd unrhyw ddisgybl, a’r amgylchiadau yw y byddai’r disgybl, yn sgil y gwaharddiad—

i

yn cael ei wahardd o’r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na 15 diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu

ii

yn colli cyfle i sefyll arholiad cyhoeddus.

4

Ym mharagraff (2)—

a

yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;

b

yn is-baragraff (b)—

i

yn y geiriau o flaen is-baragraff (b)(i), yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;

ii

ar ddiwedd paragraff (ii) hepgorer “a”;

iii

ar ddiwedd paragraff (iii), yn lle “;” rhodder “, a”;

iv

ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

iv

gan yr awdurdod lleol;

c

yn is-baragraff (c)—

i

yn lle “caniatáu” rhodder “cynnull cyfarfod a chaniatáu”;

ii

ar ddiwedd paragraff (ii) hepgorer “a”;

iii

ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—

a

iv

un o swyddogion yr awdurdod lleol, a enwebwyd gan yr awdurdod,

iv

yn lle “i gyfarfod â’r awdurdod lleol” rhodder “i’r cyfarfod hwnnw”.

5

Ym mharagraff (3)—

a

yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;

b

yn y testun Saesneg, yn lle “he or she” rhodder “the pupil”.

6

Ym mharagraff (4)—

a

yn y geiriau o flaen is-baragraff (a), yn lle “yr awdurdod lleol” rhodder “y pwyllgor rheoli”;

b

yn is-baragraff (b), ar ôl “person perthnasol” mewnosoder “a’r awdurdod lleol”.

7

Ym mharagraff (5), yn lle “yr awdurdod lleol” rhodder “y pwyllgor rheoli”.

8

Ym mharagraff (6)—

a

yn lle “yr awdurdod lleol” rhodder “y pwyllgor rheoli”;

b

yn lle’r geiriau o “hysbysu’r person perthnasol” hyd at y diwedd rhodder—

yn ddi-oed—

a

hysbysu’r person perthnasol, yr athro neu’r athrawes â gofal a’r awdurdod lleol o’i benderfyniad, a

b

yn ychwanegol, yn achos disgybl sydd wedi’i wahardd yn barhaol, roi hysbysiad ysgrifenedig i’r person perthnasol, sy’n cyfeirio at y penderfyniad hwnnw ac sy’n datgan y materion a ganlyn—

i

y rhesymau dros y penderfyniad,

ii

hawl y person perthnasol i apelio yn erbyn y penderfyniad,

iii

y person y dylai’r person perthnasol roi unrhyw hysbysiad o apêl iddo,

iv

bod rhaid i unrhyw hysbysiad o apêl gynnwys y sail dros yr apêl, a

v

y dyddiad olaf y caniateir i apêl gael ei gwneud.

9

Ym mharagraff (7)(b), yn lle “yr awdurdod lleol” rhodder “y pwyllgor rheoli”.

10

Ym mharagraff (8)—

a

yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”;

b

yn is-baragraff (b), ar ôl “yn achos gwaharddiad” mewnosoder “parhaol neu waharddiad”;

c

yn y geiriau ar ôl is-baragraff (c), yn lle “5(2)” rhodder “5(3)”.

11

Ym mharagraff (9)—

a

hepgorer “am gyfnod penodedig”;

b

yn y testun Saesneg, yn lle “he or she” rhodder “the pupil”;

c

yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli”.

12

Ym mharagraff (10), yn lle “corff llywodraethu” rhodder “pwyllgor rheoli”.

13

Ar ôl paragraff (10) mewnosoder—

11

Caniateir rhoi’r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (6)(b) naill ai—

a

drwy ei draddodi â llaw i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol, neu

b

drwy ei anfon drwy’r post dosbarth cyntaf, mewn amlen wedi’i chyfeirio’n briodol a’i rhagdalu, i gyfeiriad hysbys diwethaf y person perthnasol.

Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau UCD 20037

1

Mae rheoliad 8 (apelau yn erbyn gwahardd disgyblion yn barhaol) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (1), yn lle “yr athro neu’r athrawes â gofal o dan adran 52(2) i wahardd disgybl yn barhaol” rhodder “y pwyllgor rheoli o dan reoliad 7 i beidio â derbyn yn ôl ddisgybl sydd wedi’i wahardd yn barhaol”.

3

Ym mharagraff (3)—

a

yn lle “adran 52(2) o Ddeddf 2002” rhodder “reoliad 7”;

b

yn y testun Cymraeg, yn lle “herbyn” rhodder “erbyn”;

c

ar y diwedd mewnosoder “, neu’r gwaharddiad neu’r penderfyniad gan yr athro neu’r athrawes â gofal yr oedd y penderfyniad hwnnw yn ymwneud ag ef”.

4

Ym mharagraff (4), ar ôl “yr athro neu’r athrawes â gofal” mewnosoder “, y pwyllgor rheoli”.

5

Ym mharagraff (5)(c), yn lle “i’w dderbyn” rhodder “i dderbyn y disgybl”.

Diwygio rheoliad 9 o Reoliadau UCD 20038

1

Mae rheoliad 9 (gwahardd disgyblion: canllawiau) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

2

Ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—

aa

y pwyllgor rheoli,

3

Ym mharagraff (2), yn lle “Gynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Weinidogion Cymru”.

Diwygio rheoliad 9A o Reoliadau UCD 20039

Yn is-baragraff (b) o reoliad 9A (gwaharddiadau — safon y prawf) o Reoliadau UCD 2003, yn lle “awdurdod lleol” rhodder “pwyllgor rheoli.

Diwygio’r Atodlen i Reoliadau UCD 200310

1

Mae’r Atodlen (addasiadau i’r Atodlen i Reoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003) i Reoliadau UCD 2003 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

2

Hepgorer paragraff 1.

3

Ar y dechrau, mewnosoder paragraff 1A—

1A

Ym mharagraff 1(1)—

a

yn lle “6(1)” rhoddir “8(1)”;

b

yn lle “6(6)(b)” rhoddir “7(6)(b)”.

4

Hepgorer paragraff 2.

5

Ym mharagraff 4—

a

ym mharagraff (a) o’r addasiad i baragraff 2(7), hepgorer “(os oes un)”;

b

ym mharagraff (ch)(ii) o’r addasiad i baragraff 2(7), yn lle “ei wahardd” rhodder “wahardd y disgybl”;

c

yn y geiriau ar ôl paragraff (ch)(ii) o’r addasiad i baragraff 2(7), yn lle “ei allu” rhodder “allu’r person”.

6

Ym mharagraff 5—

a

ar ddiwedd yr addasiad i baragraff 10(2)(a) hepgorer “a”;

b

ar ôl yr addasiad i baragraff 10(2)(a) mewnosoder—

aa

i’r pwyllgor rheoli roi sylwadau ysgrifenedig, i gael ei gynrychioli ac i ymddangos a rhoi sylwadau llafar, a

c

ym mharagraff (b) o’r addasiad i baragraff 10(2), hepgorer “yn ychwanegol at y datganiad y mae’n ofynnol i’r awdurdod ei gyflwyno i’r panel o dan is-baragraff (1),”.

7

Yn lle paragraff 6 rhodder—

6

Ym mharagraff 14(a), yn lle “y corff llywodraethu a’r pennaeth” rhodder “y pwyllgor rheoli a’r athro neu’r athrawes â gofal”.

Jeremy MilesGweinidog y Gymraeg ac Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Unedau Cyfeirio Disgyblion) (Cymru) 2003 (“Rheoliadau UCD 2003”).

Mae rheoliad 2 yn darparu bod y Rheoliadau hyn yn gymwys i waharddiadau sy’n digwydd ar neu ar ôl 8 Ebrill 2024.

Mae rheoliad 3 o Reoliadau UCD 2003 yn rhagnodi mai’r awdurdod lleol yw’r corff cyfrifol o dan adran 52(5) o Ddeddf Addysg 2002 ar gyfer ystyried a ddylid derbyn disgybl yn ôl mewn perthynas â gwaharddiad am gyfnod penodedig o uned cyfeirio disgyblion (“UCD”). Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 3 o Reoliadau UCD 2003 i ragnodi yn lle hynny mai pwyllgor rheoli UCD yw’r corff cyfrifol, ac yn gwneud hyn mewn perthynas â gwaharddiadau am gyfnod penodedig a gwaharddiadau parhaol.

Mae rheoliad 4 yn diwygio rheoliad 5 o Reoliadau UCD 2003. Mae’n darparu bod dyletswydd hefyd bellach ar yr athro neu’r athrawes â gofal i roi gwybod i’r person perthnasol y caniateir i’r person perthnasol (a’r disgybl sydd wedi ei wahardd, pan nad y disgybl sydd wedi ei wahardd yw’r person perthnasol) gyflwyno sylwadau i’r pwyllgor rheoli pan fo disgybl wedi ei wahardd yn barhaol. Mae’n hepgor y gofyniad i’r athro neu’r athrawes â gofal hysbysu’r person perthnasol am ei hawl i apelio yn erbyn penderfyniad i wahardd disgybl yn barhaol, gan fod y Rheoliadau hyn bellach yn darparu mai hawl i apelio yn erbyn penderfyniad y pwyllgor rheoli i beidio â derbyn disgybl yn ôl o dan reoliad 7 o Reoliadau UCD 2003 yw’r hawl. Mae rheoliad 4 yn darparu ymhellach fod rhaid i’r athro neu’r athrawes â gofal roi gwybod i’r pwyllgor rheoli yn ogystal â’r awdurdod lleol os yw’r gwaharddiad yn barhaol, os bydd yn golygu y bydd y disgybl yn colli arholiad cyhoeddus neu os bydd yn mynd â chyfanswm y gwaharddiadau ar gyfer y disgybl hwnnw i dros bum niwrnod mewn tymor.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 6 o Reoliadau UCD 2003 i’w gwneud yn ddyletswydd ar y pwyllgor rheoli i ddarparu ystod o wybodaeth sy’n ymwneud â gwaharddiadau i’r awdurdod lleol bob tymor.

Mae rheoliad 6 yn diwygio rheoliad 7 o Reoliadau UCD 2003 i adlewyrchu mai rôl y pwyllgor rheoli yn hytrach na’r awdurdod lleol yw ystyried a ddylid derbyn disgybl yn ôl. Mae hefyd yn estyn yr achosion pan fo’n ofynnol i’r pwyllgor rheoli ystyried a ddylid derbyn disgybl yn ôl i gynnwys achosion pan fo disgybl wedi ei wahardd yn barhaol. Os bydd yn penderfynu na ddylid derbyn y disgybl yn ôl neu’n penderfynu peidio â rhoi cyfarwyddyd i’r athro neu’r athrawes â gofal sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r disgybl gael ei dderbyn yn ôl, rhaid i’r pwyllgor rheoli roi hysbysiad i’r person perthnasol, sy’n rhoi manylion ynghylch ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad.

Mae rheoliad 8 o Reoliadau UCD 2003 yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol wneud trefniadau i’r person perthnasol apelio yn erbyn penderfyniad gan yr athro neu’r athrawes â gofal i wahardd disgybl yn barhaol. Mae rheoliad 7 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau UCD 2003 fel bod yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd yn lle hynny i wneud trefniadau i’r person perthnasol apelio yn erbyn penderfyniad gan y pwyllgor rheoli i beidio â derbyn disgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol yn ôl.

Mae rheoliad 8 yn ychwanegu pwyllgorau rheoli at y rhestr o’r rhai y mae’n ofynnol iddynt roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru wrth gyflawni eu swyddogaethau.

Mae rheoliad 9 yn darparu bod rhaid i’r pwyllgor rheoli sefydlu ffeithiau yn ôl pwysau tebygolrwydd.

Mae rheoliad 10 yn diwygio’r Atodlen i Reoliadau UCD 2003 i adlewyrchu mai yn erbyn penderfyniad y pwyllgor rheoli i beidio â derbyn yn ôl ddisgybl sydd wedi ei wahardd yn barhaol y mae’r apêl, yn hytrach nag yn erbyn penderfyniad yr athro neu’r athrawes â gofal i wahardd y disgybl yn barhaol. Mae’r Atodlen hefyd wedi ei diwygio i ddarparu bod gan y pwyllgor rheoli hawl i gyflwyno sylwadau ysgrifenedig, i gael ei gynrychioli ac i ymddangos a chyflwyno sylwadau llafar gerbron y panel apêl, a hawl i gael gwybod am benderfyniad y panel.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.