- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
4.—(1) Mae rheoliad 5 (gwahardd disgyblion: y ddyletswydd i hysbysu’r person perthnasol a’r awdurdod lleol) o Reoliadau UCD 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y pennawd, ar ôl “person perthnasol” mewnosoder “, y pwyllgor rheoli”.
(3) Ym mharagraff (1)—
(a)hepgorer “am gyfnod penodedig”;
(b)yn is-baragraff (a), ar y diwedd mewnosoder “neu, os yw’r disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol, fod y disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol”;
(c)yn is-baragraff (c)—
(i)ar ôl “y caiff” mewnosoder “y person perthnasol”, a
(ii)yn lle “awdurdod lleol”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “pwyllgor rheoli”.
(4) Ar ôl paragraff (1) mewnosoder—
“(1A) Os bydd athro neu athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion yn penderfynu y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol, rhaid i’r athro neu’r athrawes â gofal yn ddi-oed gymryd camau rhesymol i hysbysu’r person perthnasol—
(a)o’r penderfyniad, a
(b)o’r materion a bennir yn is-baragraffau (b) i (ch) o baragraff (1).”
(5) Yn lle paragraffau (2) a (3) rhodder—
“(2) Mae paragraff (3) yn gymwys os bydd yr athro neu’r athrawes â gofal uned cyfeirio disgyblion—
(a)yn gwahardd unrhyw ddisgybl mewn amgylchiadau pan fyddai’r disgybl, yn sgil y gwaharddiad—
(i)yn cael ei wahardd o’r uned cyfeirio disgyblion am gyfanswm o fwy na phum diwrnod ysgol mewn unrhyw dymor unigol, neu
(ii)yn colli cyfle i sefyll unrhyw arholiad cyhoeddus,
(b)yn gwahardd disgybl yn barhaol, neu
(c)yn penderfynu y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl yn waharddiad parhaol.
(3) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys, rhaid i’r athro neu’r athrawes â gofal yn ddi-oed hysbysu’r pwyllgor rheoli a’r awdurdod lleol o’r materion canlynol—
(a)cyfnod y gwaharddiad neu, os yw’r disgybl yn cael ei wahardd yn barhaol, fod y disgybl yn cael ei wahardd felly, neu
(b)penderfyniad yr athro neu’r athrawes â gofal y dylid gwneud unrhyw waharddiad ar ddisgybl am gyfnod penodedig yn waharddiad parhaol,
ac (yn y naill achos neu’r llall) y rhesymau drosto.”
(6) Hepgorer paragraff (4).
(7) Ym mharagraff (5)—
(a)ar ôl “hysbysu’r” mewnosoder “pwyllgor rheoli a’r”;
(b)yn lle “paragraffau (2) neu (3)” rhodder “paragraff (2)”.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: