- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
Offerynnau Statudol Cymru
Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cymru
Gwnaed
12 Mawrth 2024
Yn dod i rym
1 Ebrill 2024
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 18(1), 203 a 204(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006(1), a pharagraff 5(1)(a) o Atodlen 3 iddi, ar ôl cwblhau’r ymgynghoriad a ragnodir o dan adran 18(3) o’r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) (Diwygio) 2024 a daw i rym ar 1 Ebrill 2024.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998(2).
2. Yn erthygl 1(2) o’r prif Orchymyn, yn y diffiniad o “the trust”, yn lle “Welsh Ambulance Services National Health Service Trust” rhodder “Welsh Ambulance Services University National Health Service Trust”.
3. Yn lle erthygl 2 o’r prif Orchymyn rhodder—
There is hereby established an NHS trust which shall be called Welsh Ambulance Services University National Health Service Trust or Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.”
4. Nid yw’r newid enw y rhoddir effaith iddo gan erthygl 3—
(a)yn effeithio ar unrhyw hawl sydd gan unrhyw berson, nac ar unrhyw rwymedigaeth sydd ar unrhyw berson, na
(b)yn annilysu unrhyw offeryn (pa un a’i gwnaed cyn, ar neu ar ôl y diwrnod y daw’r Gorchymyn hwn i rym) sy’n cyfeirio at Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a rhaid dehongli pob offeryn neu ddogfen arall sy’n cyfeirio at yr enw hwnnw fel pe bai’n cyfeirio at yr ymddiriedolaeth.
Julie Morgan
Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol o dan awdurdod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2024
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998 (“y prif Orchymyn”) er mwyn newid enw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
O.S. 1998/678 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2009/201 (Cy. 26); O.S. 2013/2729 (Cy. 263) ac O.S. 2016/483 (Cy. 154).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: