RHAN 2Diwygiadau i is-ddeddfwriaeth sy’n dod i rym ar 19 Ionawr 2024
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 19892
Yn rheoliad 3(1) (dehongli) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 19897, yn y diffiniad o “the amount payable”, yn is-baragraff (a), yn lle “paragraphs 1 to 7, and 10 of Schedule 4ZA or paragraphs 1 to 3 of Schedule 4ZB to” rhodder “section 43(4) to (6) or 45(4) to (6) of”.
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 20173
1
Mae Atodlen 1 (materion i’w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu) i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 20178 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Ym mharagraff 4—
a
yn lle “rheoliadau o dan baragraff 1(2)(b) a 3(9) o Atodlen 4ZB i Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fyddant mewn grym” rhodder “gorchymyn o dan adran 45(4A) o Ddeddf 1988 mewn grym neu pan fydd mewn grym”;
b
yn lle “rheoliadau o gymharu â’r swm pe bai paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i” rhodder “gorchymyn o gymharu â’r swm pe bai adran 45(4) o”.
3
Ym mharagraff 5—
a
yn lle “paragraff 2 o Atodlen 4ZB i” rhodder “adran 45A o”;
b
yn lle “paragraff 1(1)(b) o Atodlen 4ZB i” rhodder “adran 45(4) o”.
4
Ym mharagraff 6—
a
yn is-baragraff (a), yn lle “baragraff 2(1) neu 4(1) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 43(4A)(b) neu (5) o”;
b
yn is-baragraff (b), yn lle “baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 44(2) a (2A) o”;
c
yn lle “paragraff 1 o Atodlen 4ZA, heb ei addasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) baragraff 10(2) o Atodlen 4ZA heb ei amnewid” rhodder “adran 43(4), heb ei haddasu, ac (i’r graddau y bo’n berthnasol) adran 44(2) heb ei hamnewid”.
Diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 20174
1
Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 20179 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 2 (dehongli), yn y diffiniad o “hereditament a eithrir”, ym mharagraff (c), yn lle “baragraff 2(2)(a) neu (b) o Atodlen 4ZA i” rhodder “baragraff (a) neu (b) o adran 43(6) o”.
3
Yn erthygl 5 (uchafswm gwerth ardrethol ar gyfer rhyddhad ardrethi), yn lle “paragraff 4(2)(b)(i) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 43(4B)(b)(i) o”.
4
Yn erthygl 6 (amodau rhyddhad), yn lle “paragraff 4(2)(b)(ii) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 43(4B)(b)(ii) o”.
5
Yn erthygl 10 (swm E), yn lle “paragraff 10(6) o Atodlen 4ZA i” rhodder “adran 44(9) o”.
Diwygio Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 20235
1
Mae Rheoliadau Deddf Ardrethu Annomestig 2023 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 202310 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2
Yn rheoliad 2(2) (diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989), hepgorer is-baragraff (a).
3
Yn rheoliad 4 (diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017)—
a
hepgorer paragraff (2);
b
hepgorer paragraff (3);
c
hepgorer is-baragraffau (a), (b) a (d) o baragraff (4).
4
Hepgorer rheoliad 5 (diwygio Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2017).