RHAN 1Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024.

2

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

3

Daw Rhannau 1 a 2 i rym ar 19 Ionawr 2024.

4

Daw Rhan 3 i rym ar 1 Ebrill 2024.