xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
71.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle i sefydlu a chynnal system ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.
(2) Rhaid i’r system a sefydlir o dan baragraff (1) wneud darpariaeth i adolygu ansawdd y gofal a’r cymorth mor aml ag sy’n ofynnol ond o leiaf bob chwe mis.
(3) Fel rhan o unrhyw adolygiad a gynhelir, rhaid i’r unigolyn cyfrifol wneud trefniadau ar gyfer—
(a)ystyried canlyniad yr ymgysylltiad ag unigolion ac eraill, fel sy’n ofynnol gan reoliad 67;
(b)dadansoddi’r data cyfanredol ar ddigwyddiadau, digwyddiadau hysbysadwy o dan y Rheoliadau hyn, materion diogelu, chwythu’r chwiban, pryderon a chwynion;
(c)adolygu unrhyw gamau gweithredu a gymerir mewn perthynas â chwynion;
(d)ystyried canlyniad unrhyw archwiliad o gywirdeb a chyflawnrwydd cofnodion.
(4) Ar ôl cwblhau adolygiad o ansawdd y gofal a’r cymorth yn unol â’r rheoliad hwn, rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio adroddiad i’r darparwr gwasanaeth y mae rhaid iddo gynnwys—
(a)asesiad o safon y gofal a’r cymorth a ddarperir, a
(b)argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth.
(5) Ond nid yw’r gofyniad ym mharagraff (4) yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
72.—(1) Rhaid i’r unigolyn cyfrifol lunio’r datganiad y mae’n ofynnol iddo gael ei gynnwys yn y datganiad blynyddol o dan adran 10(2)(b) o’r Ddeddf, i’r graddau y mae’n ymwneud â’r man neu’r mannau y mae’r unigolyn cyfrifol wedi ei ddynodi mewn cysylltiad ag ef neu â hwy.
(2) Wrth lunio’r datganiad, rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi sylw i’r asesiad o safon y gofal a’r cymorth a gynhwysir mewn adroddiad a lunnir yn unol â rheoliad 71(4).