- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
2. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth wedi ei ddarparu â gofal, cymhwysedd a sgìl digonol, gan roi sylw i’r datganiad o ddiben.
3.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth yn unol â’r datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)cadw’r datganiad o ddiben o dan adolygiad, a
(b)pan fo’n briodol, ddiwygio’r datganiad o ddiben.
(3) Oni bai bod paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad sydd i’w wneud i’r datganiad o ddiben o leiaf 28 o ddiwrnodau cyn y mae i gymryd effaith.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’n angenrheidiol diwygio’r datganiad o ddiben gydag effaith ar unwaith.
(5) Os yw paragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r darparwr gwasanaeth, yn ddi-oed, hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff (6) am unrhyw ddiwygiad a wneir i’r datganiad o ddiben.
(6) Y personau y mae rhaid iddynt gael eu hysbysu am unrhyw ddiwygiad i’r datganiad o ddiben yn unol â pharagraff (3) neu (5) yw—
(a)y rheoleiddiwr gwasanaethau,
(b)yr unigolion,
(c)unrhyw awdurdod lleoli, a
(d)unrhyw riant neu ofalwr i unigolyn oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(7) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r datganiad o ddiben cyfredol i unrhyw berson ar gais, oni bai nad yw’n briodol gwneud hynny neu y byddai gwneud hynny yn anghyson â llesiant unigolyn.
4.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau effeithiol yn eu lle ar gyfer monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.
(2) Rhaid i’r trefniadau hynny gynnwys trefniadau ar gyfer ceisio safbwyntiau—
(a)unigolion,
(b)unrhyw riant neu ofalwr, oni bai nad yw hyn yn briodol neu y byddai’n anghyson â llesiant yr unigolyn,
(c)unrhyw awdurdod lleoli, a
(d)staff,
ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth a sut y gellir gwella hyn.
(3) Wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)ystyried safbwyntiau’r personau hynny yr ymgynghorir â hwy yn unol â pharagraff (2), a
(b)rhoi sylw i’r adroddiad ar ansawdd y gofal a lunnir gan yr unigolyn cyfrifol yn unol â rheoliad 71(4).
5.—(1) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth sy’n unigolyn.
(2) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddo sicrhau bod y person sydd wedi ei ddynodi fel yr unigolyn cyfrifol—
(a)yn cael cymorth i gyflawni ei ddyletswyddau’n effeithiol, a
(b)yn ymgymryd â hyfforddiant priodol.
(3) Os bydd gan y darparwr gwasanaeth reswm dros gredu nad yw’r unigolyn cyfrifol wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau yn Rhannau 13 i 17, rhaid i’r darparwr—
(a)cymryd unrhyw gamau gweithredu sy’n angenrheidiol i sicrhau y cydymffurfir â’r gofyniad, a
(b)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau.
(4) Yn ystod unrhyw adeg pan nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—
(a)rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,
(b)goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,
(c)cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 2 i 12, a
(d)monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.
(5) Os nad yw’r unigolyn cyfrifol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
(b)rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.
6.—(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r darparwr gwasanaeth yn unigolyn.
(2) Os yw’r rheoliad hwn yn gymwys, rhaid i’r unigolyn ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau’n briodol fel yr unigolyn cyfrifol.
(3) Yn ystod unrhyw adeg pan yw’r unigolyn yn absennol, rhaid iddo sicrhau bod trefniadau yn eu lle ar gyfer—
(a)rheoli’r gwasanaeth yn effeithiol,
(b)goruchwylio’r gwasanaeth yn effeithiol,
(c)cydymffurfedd y gwasanaeth â gofynion y rheoliadau yn Rhannau 2 i 12, a
(d)monitro, adolygu a gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.
(4) Os nad yw’r unigolyn yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau fel unigolyn cyfrifol a hynny am gyfnod o fwy nag 28 o ddiwrnodau, rhaid iddo—
(a)hysbysu’r rheoleiddiwr gwasanaethau, a
(b)rhoi gwybod i’r rheoleiddiwr gwasanaethau am y trefniadau interim.
7.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y gwasanaeth yn gynaliadwy yn ariannol at ddiben cyflawni’r nodau a’r amcanion a nodir yn y datganiad o ddiben.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnal cyfrifon priodol a chyfredol ar gyfer y gwasanaeth.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu copïau o’r cyfrifon i’r rheoleiddiwr gwasanaethau o fewn 28 o ddiwrnodau i gael cais i wneud hynny.
(4) Caiff y rheoleiddiwr gwasanaethau ei gwneud yn ofynnol i gyfrifon gael eu hardystio gan gyfrifydd.
8.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau a ganlyn yn eu lle ar gyfer y gwasanaeth—
Derbyniadau a chychwyn y gwasanaeth (gweler Rhan 3, rheoliad 10)
Diogelu (gweler Rhan 7, rheoliad 24)
Cefnogi unigolion i reoli eu harian (gweler Rhan 7, rheoliad 25)
Defnyddio rheolaeth neu ataliaeth (gweler Rhan 7, rheoliad 26)
Cefnogi a datblygu staff (gweler Rhan 8, rheoliad 32)
Disgyblu staff (gweler Rhan 8, rheoliad 35)
Rheoli heintiau (gweler Rhan 11, rheoliad 48)
Meddyginiaeth (gweler Rhan 11, rheoliad 50)
Cwynion (gweler Rhan 12, rheoliad 55)
Chwythu’r chwiban (gweler Rhan 12,rheoliad 56).
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi yn ei le ar atal bwlio, gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â honiad o fwlio a gweithdrefn sydd i’w dilyn pan yw unrhyw unigolyn yn absennol heb ganiatâd.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael unrhyw bolisïau a gweithdrefnau eraill yn eu lle sy’n rhesymol angenrheidiol i gefnogi nodau ac amcanion y gwasanaeth a nodir yn y datganiad o ddiben.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod cynnwys y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol iddynt fod yn eu lle yn rhinwedd paragraffau (1) i (3)—
(a)yn briodol i anghenion unigolion y darperir gofal a chymorth ar eu cyfer,
(b)yn gyson âʼr datganiad o ddiben, ac
(c)yn cael ei gadw’n gyfredol.
(5) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ddarparu yn unol â’r polisïau a’r gweithdrefnau hynny.
9. Rhaid i’r darparwr gwasanaeth weithredu mewn ffordd agored a thryloyw—
(a)ag unigolion sy’n cael gofal a chymorth,
(b)ag unrhyw riant neu ofalwr i’r unigolion hynny, ac
(c)ag unrhyw awdurdod lleoli.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: