RHAN 7Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau – diogelu
Diogelu – gofyniad cyffredinol23.
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth ddarparu’r gwasanaeth mewn ffordd sy’n sicrhau bod unigolion yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol.
Polisïau a gweithdrefnau diogelu24.
(1)
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisïau a gweithdrefnau yn eu lle—
(a)
ar gyfer atal camdriniaeth, esgeulustod a thriniaeth amhriodol, a
(b)
ar gyfer ymateb i unrhyw honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol.
(2)
Yn y rheoliad hwn, cyfeirir at bolisïau a gweithdrefnau oʼr fath fel polisïau a gweithdrefnau diogelu.
(3)
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod ei bolisïau a’i weithdrefnau diogelu yn cael eu gweithredu’n effeithiol.
(4)
Yn benodol, pan fo honiad neu dystiolaeth o gamdriniaeth, esgeulustod neu driniaeth amhriodol, rhaid i’r darparwr gwasanaeth—
(a)
gweithredu yn unol âʼi bolisïau aʼi weithdrefnau diogelu,
(b)
cymryd camau gweithredu ar unwaith i sicrhau diogelwch pob unigolyn y darperir gofal a chymorth ar ei gyfer,
(c)
gwneud atgyfeiriadau priodol i asiantaethau eraill, a
(d)
cadw cofnod o unrhyw dystiolaeth neu sylwedd unrhyw honiad, unrhyw gamau gweithredu a gymerir ac unrhyw atgyfeiriadau a wneir.
Cefnogi unigolion i reoli eu harian25.
(1)
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi a gweithdrefnau yn eu lle ynghylch cefnogi unigolion i reoli eu harian a rhaid iddo sicrhau y darperir y gwasanaeth yn unol â’r polisi hwnnw a’r gweithdrefnau hynny.
(2)
Rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau y mae’n ofynnol gan y rheoliad hwn iddynt fod yn eu lle nodi’r camau sydd i’w cymryd—
(a)
i alluogi a chefnogi unigolion i reoli eu harian eu hunain ac i amddiffyn unigolion rhag cam-driniaeth ariannol;
(b)
i sicrhau y caiff cynilion a wneir gan neu ar ran unigolion eu goruchwylio a’u monitro’n ddigonol, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cadw cofnodion o gynilion a throsglwyddo’r cofnodion hyn pan yw’r darparwr gwasanaeth yn peidio â darparu llety a gofal a chymorth i’r unigolyn.
(3)
Pan fo arian unigolyn yn cael ei ddal gan y darparwr gwasanaeth at unrhyw ddiben (ac eithrio arian a ddelir at ddiben talu ffioedd sy’n daladwy gan yr unigolyn yn unol ag unrhyw gytundeb â’r darparwr gwasanaeth), rhaid i’r polisi a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn ddarparu—
(a)
bod yr arian yn cael ei ddal mewn cyfrif yn enw’r unigolyn neu mewn cyfrif sy’n golygu bod modd gwahaniaethu’n glir rhwng arian pob unigolyn;
(b)
nad yw unrhyw gyfrif o’r fath yn cael ei ddefnyddio mewn cysylltiad â rheoli’r gwasanaeth.
(4)
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau cyn belled ag y bo’n ymarferol nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn gweithredu fel asiant i unigolyn.
Defnyddio rheolaeth ac ataliaeth yn briodol26.
(1)
Ni chaniateir darparu gofal a chymorth mewn ffordd sy’n cynnwys gweithredoedd y bwriedir iddynt reoli neu atal unigolyn oni bai bod y gweithredoedd hynny—
(a)
yn angenrheidiol i atal risg o niwed a berir i’r unigolyn neu i unigolyn arall, a
(b)
yn ymateb cymesur i risg oʼr fath.
(2)
Ni chaniateir defnyddio rheolaeth neu ataliaeth oni bai ei bod yn cael ei chyflawni gan staff sydd wedi eu hyfforddi yn y dull rheolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir.
(3)
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth gael polisi ar ddefnyddio rheolaeth neu ataliaeth a sicrhau bod unrhyw reolaeth neu ataliaeth a ddefnyddir yn cael ei chyflawni yn unol â’r polisi hwn.
(4)
Rhaid i gofnod o unrhyw ddigwyddiad y defnyddir rheolaeth neu ataliaeth ynddo gael ei wneud o fewn 24 awr.
(5)
At ddibenion y rheoliad hwn, mae person yn rheoli neu’n atal unigolyn os yw’r person hwnnw—
(a)
yn defnyddio, neu’n bygwth defnyddio, grym i sicrhau bod gweithred yn cael ei gwneud y mae’r unigolyn yn ei gwrthsefyll, neu
(b)
yn cyfyngu ar ryddid symud yr unigolyn, pa un a yw’r unigolyn yn gwrthsefyll ai peidio, gan gynnwys defnyddio dulliau corfforol, mecanyddol neu gemegol.
Gwaharddiad ar ddefnyddio cosb gorfforol27.
Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw personau sy’n gweithio yn y gwasanaeth yn defnyddio unrhyw fath o gosb gorfforol ar unrhyw adeg yn erbyn unrhyw unigolyn y darperir llety iddo.
Amddifadu o ryddid28.
Ni chaniateir amddifadu unigolyn o’i ryddid at ddiben cael gofal a chymorth heb awdurdod cyfreithlon.
Dehongli Rhan 729.
Yn y Rhan hon—
mae i “esgeulustod” (“neglect”) yr un ystyr ag yn adran 197(1) o Ddeddf 2014;