RHAN 4Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran y camau sydd i’w cymryd wrth gychwyn darparu gofal a chymorth
Adolygu’r cynllun personol12.
(1)
Rhaid i’r cynllun personol gael ei adolygu fel sy’n ofynnol, a phan fo’n ofynnol, ond o leiaf bob tri mis.
(2)
(3)
Rhaid i adolygiadau o gynllun personol gynnwys adolygiad o’r graddau y mae’r unigolyn wedi gallu cyflawni ei ganlyniadau personol.
(4)
Wrth gynnal adolygiad o dan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth gynnwys yr unigolyn, unrhyw awdurdod lleoli a rhiant neu ofalwr yr unigolyn. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys rhiant neu ofalwr yr unigolyn—
(a)
os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r rhiant neu’r gofalwr gael ei gynnwys, neu
(b)
pe byddai cynnwys y rhiant neu’r gofalwr yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(5)
Ar ôl cwblhau unrhyw adolygiad sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn, rhaid i’r darparwr gwasanaeth ystyried a ddylai’r cynllun personol gael ei ddiwygio a diwygio’r cynllun fel y bo angen.