RHAN 6Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran safon y gofal a’r cymorth sydd i’w darparu ac o ran cael gafael ar wasanaethau iechyd

Cael gafael ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau eraill

22.—(1Rhaid i’r darparwr gwasanaeth roi trefniadau yn eu lle er mwyn i unigolion—

(a)gallu cael gafael ar driniaeth, cyngor a gwasanaethau eraill gan unrhyw broffesiynolyn gofal iechyd fel y bo angen, a

(b)cael eu cefnogi i gael gafael ar wasanaethau o’r fath.

Yn y rheoliad hwn, ystyr “proffesiynolyn gofal iechyd” yw person sydd wedi ei gofrestru’n aelod o unrhyw broffesiwn y mae adran 60(2) o Ddeddf Iechyd 1999(1) yn gymwys iddo.