- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
30.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau ar bob adeg fod nifer digonol o staff sydd â’r cymwysterau, yr hyfforddiant, y sgiliau, y cymhwysedd a’r profiad addas wedi eu defnyddio i weithio yn y gwasanaeth, gan roi sylw—
(a)i’r datganiad o ddiben ar gyfer y gwasanaeth;
(b)i anghenion gofal a chymorth yr unigolion;
(c)i gefnogi unigolion i gyflawni eu canlyniadau personol;
(d)i ofynion y rheoliadau yn Rhannau 2 i 12.
(2) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth allu dangos y ffordd y mae’r penderfyniad wedi ei wneud o ran—
(a)y mathau o staff a ddefnyddir, a
(b)niferoedd y staff o bob math a ddefnyddir.
(3) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer cefnogi a datblygu staff.
(4) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau nad yw cyflogi neu gymryd ymlaen unrhyw bersonau ar sail dros dro neu ar gontract oriau heb eu gwarantu yn atal unigolion rhag cael y parhad gofal y mae’r darparwr wedi penderfynu yn unol â rheoliad 18 ei fod yn rhesymol i ddiwallu eu hanghenion am ofal a chymorth.
(5) Ym mharagraff (4), ystyr “contract oriau heb eu gwarantu” yw contract cyflogaeth neu gontract gweithiwr arall—
(a)y mae’r ymgymeriad i wneud gwaith neu i gyflawni gwasanaethau odano yn ymgymeriad i wneud hynny ar yr amod bod y cyflogwr yn gwneud gwaith neu wasanaethau ar gael i’r gweithiwr, a
(b)nad oes unrhyw sicrwydd odano y bydd unrhyw waith o’r fath neu unrhyw wasanaethau o’r fath yn cael eu gwneud ar gael i’r gweithiwr.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: