RHAN 9Gofynion ar ddarparwyr gwasanaethau o ran mangreoedd, cyfleusterau a chyfarpar
Ystafelloedd meddiannaeth sengl ac ystafelloedd a rennir38.
(1)
Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) i (5), rhaid i’r darparwr gwasanaeth sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei letya mewn ystafelloedd sengl ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.
(2)
Yr amodau yw—
(a)
bod unigolyn yn rhannu ystafell â dim mwy nag un unigolyn arall;
(b)
nad yw’r unigolyn arall o’r rhyw arall nac o oedran sylweddol wahanol;
(c)
y bydd rhannu ystafell yn hybu llesiant yr unigolion, y darperir ar ei gyfer yng nghynlluniau personol yr unigolion ac y cytunir arno â’r unigolion a’u rhieni neu eu gofalwyr. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys rhiant neu ofalwr unigolyn—
(i)
os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r rhiant neu’r gofalwr gael ei gynnwys, neu
(ii)
pe byddai cynnwys y rhiant neu’r gofalwr yn anghyson â llesiant yr unigolyn.
(3)
Mae paragraff (4) yn gymwys i ddarparwr gwasanaeth a oedd yn cael ei ddarparu yn union cyn y dyddiad y daeth Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Gwasanaethau Preswyl Ysgolion Arbennig) (Cymru) 2023 i rym ac sydd wedi ei ddarparu’n ddi-dor ers y dyddiad hwnnw.
(4)
Rhaid i ddarparwr gwasanaeth y mae paragraff (3) yn gymwys iddo sicrhau bod pob unigolyn yn cael ei letya mewn ystafelloedd sengl ond nid yw’r gofyniad hwn yn gymwys os yw’r amodau ym mharagraff (5) wedi eu bodloni.
(5)
Yr amodau yw—
(a)
bod unigolyn yn rhannu ystafell â dim mwy na thri unigolyn arall;
(b)
bod yr unigolion o’r un rhyw ac nad ydynt o oedrannau sylweddol wahanol;
(c)
y bydd rhannu ystafell yn hybu llesiant yr unigolion, y darperir ar ei gyfer yng nghynlluniau personol yr unigolion, ac y cytunir arno â’r unigolion a’u rhieni neu eu gofalwyr. Ond nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth gynnwys rhiant neu ofalwr unigolyn—
(i)
os yw’r unigolyn yn oedolyn neu’n blentyn 16 oed neu drosodd ac nad yw’r unigolyn yn dymuno i’r rhiant neu’r gofalwr gael ei gynnwys, neu
(ii)
pe byddai cynnwys y rhiant neu’r gofalwr yn anghyson â llesiant yr unigolyn.