- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
53.—(1) Rhaid i’r darparwr gwasanaeth hysbysu, yn ddi-oed, yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r gwasanaeth ynddi, am bob unigolyn sy’n cael ei dderbyn i’r gwasanaeth ac am bob unigolyn sy’n cael ei ryddhau o’r gwasanaeth.
(2) Nid yw’n ofynnol i’r darparwr gwasanaeth hysbysu’r awdurdod lleol ym mharagraff (1) os yw’r unigolyn yn blentyn ac os yr awdurdod lleol hwnnw yw’r awdurdod lleoli ar gyfer y plentyn hefyd.
(3) Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo ddatgan enw a dyddiad geni’r unigolyn.
(4) Pan fo’r unigolyn yn blentyn rhaid i’r hysbysiad hefyd ddatgan—
(a)pa un a yw llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn o dan adran 76 neu 77 o Ddeddf 2014 neu, yn achos plentyn a leolir gan awdurdod lleol yn Lloegr, pa un a yw llety yn cael ei ddarparu i’r plentyn o dan adran 20 neu 21 o Ddeddf Plant 1989(1),
(b)pa un a yw’r plentyn yn ddarostyngedig i orchymyn gofal neu orchymyn goruchwylio o dan adran 31 o Ddeddf Plant 1989,
(c)manylion cyswllt—
(i)unrhyw awdurdod lleoli, a
(ii)unrhyw swyddog adolygu annibynnol a benodir ar gyfer achos y plentyn, a
(d)pa un a oes gan y plentyn ddatganiad anghenion addysgol arbennig, cynllun datblygu unigol neu gynllun addysg, iechyd a gofal ac, os felly, fanylion yr awdurdod lleol a chanddo gyfrifoldeb am gynnal y datganiad anghenion addysgol arbennig, y cynllun datblygu unigol neu’r cynllun addysg, iechyd a gofal.
(5) Yn y rheoliad hwn—
mae i “cynllun addysg, iechyd a gofal” yr ystyr a roddir i “EHC plan” yn adran 37(2) (cynlluniau addysg, iechyd a gofal) o Ddeddf Plant a Theuluoedd 2014(2);
mae i “cynllun datblygu unigol” (“individual development plan”) yr ystyr a roddir yn adran 10 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018(3);
mae i “datganiad anghenion addysgol arbennig” yr un ystyr â “statement of special educational needs” yn adran 324 o Ddeddf Addysg 1996(4).
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: