RHAN 14Gofynion ar unigolion cyfrifol ar gyfer sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei oruchwylio’n effeithiol
Ymgysylltu ag unigolion ac eraill67.
(1)
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol roi trefniadau addas yn eu lle ar gyfer cael safbwyntiau—
(a)
yr unigolion sy’n cael gofal a chymorth,
(b)
rhieni a gofalwyr yr unigolion hynny,
(c)
unrhyw awdurdod lleoli, a
(d)
staff sydd wedi eu cyflogi yn y gwasanaeth,
ar ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir a sut y gellir gwella hyn.
(2)
Rhaid i’r unigolyn cyfrifol adrodd am y safbwyntiau a geir i’r darparwr gwasanaeth er mwyn i’r safbwyntiau hyn allu cael eu hystyried gan y darparwr gwasanaeth wrth wneud unrhyw benderfyniadau ar gynlluniau ar gyfer gwella ansawdd y gofal a’r cymorth a ddarperir gan y gwasanaeth.