xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 390 (Cy. 69)

Amaethyddiaeth, Cymru

Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024

Gwnaed

15 Mawrth 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

19 Mawrth 2024

Yn dod i rym

1 Ebrill 2024

Mae Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru, yn unol â’i swyddogaethau o dan erthygl 3(2)(b) o Orchymyn Panel Cynghori ar Amaethyddiaeth Cymru (Sefydlu) 2016(1), wedi llunio gorchymyn cyflogau amaethyddol ar ffurf ddrafft, wedi ymgynghori ar y gorchymyn ac wedi ei gyflwyno i Weinidogion Cymru i’w gymeradwyo ganddynt.

Mae Gweinidogion Cymru wedi cymeradwyo’r gorchymyn cyflogau amaethyddol drafft yn unol ag adran 4(1)(a) o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014(2).

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 3, 4(1) a 17 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.

RHAN 1Rhagarweiniol

Enwi a chychwyn

1.  Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 ac mae’n dod i rym ar 1 Ebrill 2024.

Dehongli

2.—(1Yn y Gorchymyn hwn—

ystyr “absenoldeb salwch” (“sickness absence”) yw absenoldeb gweithiwr amaethyddol o’r gwaith oherwydd analluedd yn sgil—

(a)

unrhyw salwch a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol,

(b)

salwch neu analluedd a achosir am fod y gweithiwr amaethyddol yn feichiog neu a ddioddefir o ganlyniad i eni plentyn,

(c)

anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol yn ei le gwaith,

(d)

anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith,

(e)

amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth a achoswyd gan salwch, neu

(f)

amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth o ganlyniad i anaf a ddioddefwyd yn ei le gwaith neu anaf a ddioddefwyd wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith,

ond nid yw’n cynnwys unrhyw anaf a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol pan na fo yn ei le gwaith nac unrhyw anaf a ddioddefir pan na fo’r gweithiwr amaethyddol yn teithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith;

mae “amaethyddiaeth” (“agriculture”) yn cynnwys—

(a)

ffermio gwartheg godro;

(b)

cynhyrchu unrhyw gynnyrch defnyddiadwy at ddibenion masnach neu fusnes neu unrhyw fenter arall (pa un a wneir hynny i wneud elw ai peidio);

(c)

defnyddio tir fel tir pori, gweirglodd neu ddoldir;

(d)

defnyddio tir ar gyfer perllannau, tir helyg gwiail neu goetir;

(e)

defnyddio tir ar gyfer gerddi marchnad neu blanhigfeydd;

mae i “amser gweithio” yr ystyr a roddir i “working time” yn rheoliad 2 o Reoliadau Amser Gweithio 1998(3) ac at ddibenion y Gorchymyn hwn mae’n cynnwys—

(a)

unrhyw gyfnod a dreulir gan weithiwr amaethyddol yn teithio at ddibenion ei gyflogaeth ond nad yw’n cynnwys amser a dreulir yn cymudo rhwng ei gartref a’i le gwaith,

(b)

unrhyw gyfnod y mae gweithiwr amaethyddol yn cael ei rwystro rhag cyflawni gweithgareddau neu ddyletswyddau yn unol â’i gontract neu ei brentisiaeth oherwydd tywydd drwg,

ac mae cyfeiriadau at “gwaith” (“work”) i’w dehongli yn unol â hyn.

ystyr “ar alwad” (“on-call”) yw trefniant ffurfiol rhwng y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr pan fo gweithiwr amaethyddol nad yw yn y gwaith yn cytuno â’i gyflogwr y bydd modd cysylltu ag ef drwy gyfrwng y cytunir arno ac y gall gyrraedd y fan lle y gall fod yn ofynnol iddo weithio o fewn amser y cytunir arno;

ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw unigolion sydd wedi eu cymryd ymlaen fel cyflogeion, gweithwyr, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr a gyflogir gan feistri gangiau ac mae “a gyflogir” (“ employed”) a “cyflogwr” (“employer”) i’w dehongli yn unol â hynny;

ystyr “cyflog wythnosol arferol” (“normal weekly pay”) yw—

(a)

taliadau, gan gynnwys taliadau comisiwn, sydd â chysylltiad cynhenid â chyflawni tasgau y mae’n ofynnol i weithiwr amaethyddol eu cyflawni o dan delerau ei gontract;

(b)

taliadau am statws proffesiynol neu bersonol sy’n ymwneud â hyd gwasanaeth, pa mor uchel yw’r safle neu gymwysterau proffesiynol;

(c)

taliadau eraill, fel taliadau goramser, sydd wedi eu talu’n rheolaidd i weithiwr yn y 52 o wythnosau cyn y dyddiad cyfrifo;

ystyr “cynnyrch defnyddiadwy” (“consumable produce”) yw cynnyrch a dyfir i’w fwyta ac i’w yfed neu i’w ddefnyddio fel arall ar ôl iddo adael y tir lle cafodd ei dyfu;

ystyr “diwrnodau cymwys” (“qualifying days”) yw diwrnodau pan fyddai’n ofynnol fel arfer i’r gweithiwr amaethyddol fod ar gael i weithio gan gynnwys diwrnodau pan oedd y gweithiwr amaethyddol—

(a)

yn cymryd gwyliau blynyddol,

(b)

yn cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth,

(c)

yn cymryd absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant a rennir neu fabwysiadu statudol, neu

(d)

ar gyfnod o absenoldeb salwch;

ystyr “fframwaith prentisiaethau” (“apprenticeship framework”) yw unrhyw un neu ragor o’r Fframweithiau Prentisiaethau cyfredol ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lantra(4) ar y dyddiad neu cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym, neu fersiynau blaenorol o’r Fframweithiau Prentisiaethau ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lantra;

ystyr “goramser” (“overtime”) yw—

(a)

mewn perthynas â gweithiwr amaethyddol a ddechreuodd ei gyflogaeth cyn 1 Hydref 2006, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—

(i)

yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr,

(ii)

yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract,

(iii)

ar ŵyl gyhoeddus,

(iv)

ar ddydd Sul, neu

(v)

mewn unrhyw gyfnod sy’n cychwyn ar ddydd Sul ac yn parhau hyd y dydd Llun canlynol hyd at yr amser y byddai’r gweithiwr hwnnw yn cychwyn ei ddiwrnod gwaith fel arfer;

(b)

mewn perthynas â phob gweithiwr amaethyddol arall, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—

(i)

yn ychwanegol at ddiwrnod gwaith 8 awr,

(ii)

yn ychwanegol at yr oriau gwaith y cytunwyd arnynt yn ei gontract, neu

(iii)

ar ŵyl gyhoeddus;

ystyr “goramser gwarantedig” (“guaranteed overtime”) yw goramser y mae’n ofynnol i weithiwr amaethyddol ei weithio o dan naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth ac y mae cyflogwr y gweithiwr amaethyddol yn gwarantu taliad ar ei gyfer, pa un a oes gwaith i’r gweithiwr amaethyddol ei wneud ai peidio;

ystyr “grant geni a mabwysiadu” (“birth and adoption grant”) yw taliad y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael oddi wrth ei gyflogwr pan enir plentyn iddo neu pan fydd yn mabwysiadu plentyn ac mae’n daladwy—

(a)

pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi rhoi copi i’w gyflogwr o Dystysgrif Geni’r plentyn neu ei Orchymyn Mabwysiadu (sy’n enwi’r gweithiwr fel rhiant y plentyn neu ei riant mabwysiadol) o fewn 3 mis ar ôl geni neu fabwysiadu’r plentyn, a

(b)

o dan amgylchiadau pan fo’r ddau riant neu’r ddau riant mabwysiadol yn weithwyr amaethyddol gyda’r un cyflogwr, i’r ddau weithiwr amaethyddol;

ystyr “gwaith allbwn”(“output work”) yw gwaith sydd, at ddibenion tâl, yn cael ei fesur yn ôl nifer y darnau a wneir neu a brosesir neu nifer y tasgau a gyflawnir gan weithiwr amaethyddol;

ystyr “gwaith nos” (“night work”) yw gwaith (heblaw oriau goramser) a wneir gan weithiwr amaethyddol rhwng 7 p.m. un noson a 6 a.m. fore trannoeth, ond heb gynnwys y ddwy awr gyntaf o waith y mae gweithiwr amaethyddol yn ei wneud yn y cyfnod hwnnw;

ystyr “gweithiwr amaethyddol” (“agricultural worker”) yw person a gyflogir ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, p’un a yw’r holl waith yr ymgymerir ag ef yn rhinwedd y gyflogaeth honno yn cael ei gwneud yng Nghymru ai peidio;

mae i’r “isafswm cyflog cenedlaethol” (“the national minimum wage”) yr ystyr a roddir iddo gan adran 10 o Ddeddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014;

mae “oriau” (“hours”) yn cynnwys ffracsiwn o awr;

ystyr “oriau sylfaenol” (“basic hours”) yw 39 awr o waith yr wythnos, heb gynnwys goramser, a weithir yn unol â naill ai contract gweithiwr amaethyddol neu brentisiaeth;

mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 80EA o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(5). Bydd plentyn yn blentyn gweithiwr amaethyddol os yw’r gweithiwr amaethyddol yn bodloni’r amodau a bennir yn rheoliad 4(2) o Reoliadau Absenoldeb Profedigaeth Rhiant 2020.

ystyr “teithio” (“travelling”) yw siwrnai drwy gyfrwng dull teithio neu siwrnai ar droed yn cynnwys—

(a)

aros wrth fan ymadael i gychwyn siwrnai drwy gyfrwng dull teithio,

(b)

aros wrth fan ymadael i siwrnai ailgychwyn naill ai drwy gyfrwng yr un dull teithio neu drwy gyfrwng un arall, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys, ac

(c)

aros ar ddiwedd siwrnai i gyflawni dyletswyddau, neu i dderbyn hyfforddiant, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys.

(2Yn yr erthygl hon mae’r cyfeiriad at weithwyr amaethyddol a ddechreuodd eu cyflogaeth cyn 1 Hydref 2006 yn cynnwys gweithwyr amaethyddol—

(a)y mae telerau eu contract wedi bod yn destun unrhyw amrywiad ers hynny; neu

(b)sydd wedi eu cyflogi gan gyflogwr newydd ers hynny yn unol â Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006(6).

(3Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at gyfnod o gyflogaeth ddi-dor i’w dehongli fel cyfnod o gyflogaeth ddi-dor a gyfrifir yn unol ag adrannau 210 i 219 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996(7).

RHAN 2 Gweithwyr amaethyddol

Telerau ac amodau cyflogaeth

3.  Mae cyflogaeth gweithiwr amaethyddol yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a nodir yn y Rhan hon ac yn Rhannau 3, 4 a 5 o’r Gorchymyn hwn.

Graddau a chategorïau gweithiwr amaethyddol

4.  Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei gyflogi fel gweithiwr ar un o’r Graddau a bennir yn erthyglau 5 i 9 neu fel prentis yn unol â’r darpariaethau yn erthygl 10.

Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A

5.  Rhaid i weithiwr amaethyddol—

(a)sydd â llai na 3 blynedd o brofiad ymarferol sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, a

(b)na all ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 2 sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 2 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth,

gael ei gyflogi fel Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A.

Gweithiwr Amaethyddol Gradd B

6.  Rhaid i weithiwr amaethyddol—

(a)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 2, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 2 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, neu

(b)sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth fel Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A,

gael ei gyflogi fel Gweithiwr Amaethyddol Gradd B.

Gweithiwr Amaethyddol Uwch Gradd C

7.—(1Rhaid i weithiwr amaethyddol—

(a)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 3, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 3 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth,

(b)sydd ag o leiaf 2 flynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth fel Gweithiwr Amaethyddol Gradd B, neu

(c)sydd wedi ei gyflogi fel arweinydd tîm,

gael ei gyflogi fel Gweithiwr Amaethyddol Uwch Gradd C.

(2At ddibenion yr erthygl hon, mae “arweinydd tîm” yn gyfrifol am arwain tîm o weithwyr amaethyddol ac am fonitro sut mae’r tîm yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan neu ar ran eu cyflogwr ond nid yw’n gyfrifol am faterion disgyblu.

Uwch-weithiwr Amaethyddol Gradd D

8.  Rhaid i weithiwr amaethyddol—

(a)sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 4, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 4 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, neu

(b)sydd â chyfrifoldebau sy’n cynnwys gweithredu penderfyniadau rheoli yn annibynnol neu oruchwylio staff,

gael ei gyflogi fel Uwch-weithiwr Amaethyddol Gradd D.

Rheolwr Amaethyddol Gradd E

9.  Rhaid i weithiwr amaethyddol y mae’n ofynnol iddo ysgwyddo cyfrifoldeb o ddydd i ddydd, gan gynnwys hurio a rheoli staff pan fo’n berthnasol—

(a)dros ddaliad cyfan y cyflogwr, neu

(b)dros ran o ddaliad y cyflogwr a redir fel gweithrediad neu fusnes ar wahân,

gael ei gyflogi fel Rheolwr Amaethyddol Gradd E.

Prentisiaid

10.—(1Mae gweithiwr amaethyddol yn brentis sydd wedi ei gyflogi o dan brentisiaeth os yw’n cael ei gyflogi o dan naill ai contract prentisiaeth neu gytundeb prentisiaeth o fewn ystyr “apprenticeship agreement” yn adran 32 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009(8), neu’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth.

(2Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth os yw wedi ei gymryd ymlaen yng Nghymru o dan drefniadau Llywodraeth o’r enw Prentisiaethau Sylfaen, Prentisiaethau neu Brentisiaethau Uwch.

(3Yn yr erthygl hon ystyr “trefniadau Llywodraeth” yw trefniadau a wnaed o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973(9) neu o dan adran 17B o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995(10).

RHAN 3Yr isafswm cyflog amaethyddol

Cyfraddau tâl isaf

11.—(1Yn ddarostyngedig i weithrediad adran 1 o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998(11), rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â’u gwaith yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol.

(2Yr isafswm cyflog amaethyddol yw’r gyfradd isaf fesul awr a bennir yn y Tabl yn Atodlen 1 fel y gyfradd sy’n gymwys i bob gradd o weithiwr amaethyddol ac i brentisiaid.

Cyfraddau tâl isaf am oramser

12.  Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â goramser a weithir yn ôl cyfradd sy’n cyfateb i o leiaf 1.5 gwaith eu cyfradd tâl sylfaenol fesul awr o dan eu contract neu brentisiaeth.

Cyfraddau tâl isaf am waith allbwn

13.  Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â gwaith allbwn yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 11 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 1 iddo sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.

Diogelu tâl

14.  Rhaid i dâl gweithwyr amaethyddol a gyflogwyd cyn 22 Ebrill 2022 a ddioddefodd ostyngiad yn eu cyfradd isaf fesul awr o ganlyniad i’w cymathu i radd neu gategori is neu gyfradd tâl isaf is fel y’u pennir yn y Tabl yn Atodlen 1 i Orchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022 barhau i gael ei ddiogelu fel bod eu cyfradd tâl o leiaf yn gyfwerth â’r gyfradd tâl yr oeddent yn ei chael ar 21 Ebrill 2022.

Lwfans gwrthbwyso llety

15.—(1Pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu tŷ i weithiwr amaethyddol am y cyfan o’r wythnos honno, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £1.79 yr wythnos oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy ar gyfer yr wythnos honno.

(2Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu llety arall i weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £5.74 y dydd oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy am bob diwrnod yn yr wythnos y darperir y llety arall i’r gweithiwr.

(3At ddibenion paragraffau (1) a (4), ystyr “tŷ” yw tŷ annedd cyfan neu lety hunangynhwysol (gan gynnwys unrhyw ardd o fewn cwrtil y tŷ annedd neu’r llety hunangynhwysol hwnnw) y mae’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol fyw ynddo yn rhinwedd contract y gweithiwr amaethyddol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau mewn modd priodol neu well.

(4At ddibenion paragraff (2) ystyr “llety arall” yw unrhyw lety byw heblaw tŷ—

(a)sy’n addas i bobl fyw ynddo,

(b)sy’n ddiogel ac yn ddiddos,

(c)sy’n darparu gwely i’w ddefnyddio gan bob gweithiwr amaethyddol unigol yn unig, a

(d)sy’n darparu dŵr yfed glân, cyfleusterau glanweithdra addas a digonol a chyfleusterau ymolchi i weithwyr amaethyddol yn unol â rheoliadau 20 i 22 o Reoliadau Gweithleoedd (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992(12) fel pe bai’r llety’n weithle yr oedd rheoliadau 20 i 22 o’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddo.

(5Dim ond pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi gweithio o leiaf 15 awr yn ystod yr wythnos honno y caniateir i’r didyniad ym mharagraff (2) gael ei wneud.

(6Rhaid i unrhyw amser yn ystod yr wythnos honno pan fo’r gweithiwr amaethyddol ar wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth gyfrif tuag at y 15 awr hynny.

Taliadau nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol

16.  Nid yw’r lwfansau a’r taliadau a ganlyn yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol—

(a)lwfans cŵn o £10.16 y ci i’w dalu’n wythnosol pan fo’i gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gadw un neu ragor o gŵn,

(b)lwfans ar alwad o swm sy’n cyfateb i dair gwaith cyfradd fesul awr y gweithiwr amaethyddol yn ôl ei radd. Mae’r lwfans ar alwad yn daladwy mewn cysylltiad â phob cyfnod y mae’r gweithiwr amaethyddol ar alwad. Ni chaiff cyfnod trefniant ar alwad fod yn hwy na 24 awr,

(c)lwfans gwaith nos o £1.93 am bob awr o waith nos, a

(d)grant geni a mabwysiadu o £79.86 am bob plentyn.

Costau hyfforddi

17.—(1Pan fo gweithiwr amaethyddol yn mynd ar gwrs hyfforddi gyda chytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw, rhaid i’r cyflogwr dalu—

(a)unrhyw ffioedd am y cwrs, a

(b)unrhyw gostau teithio a llety a ysgwyddir gan y gweithiwr amaethyddol wrth fynd ar y cwrs.

(2Bernir bod gweithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi’n ddi-dor ar Radd A gan yr un cyflogwr am ddim llai na 30 wythnos wedi cael cymeradwyaeth ei gyflogwr i ymgymryd â hyfforddiant gyda golwg ar sicrhau’r cymwysterau angenrheidiol y mae’n ofynnol i weithiwr Radd B feddu arnynt.

(3Y cyflogwr sydd i dalu am unrhyw hyfforddiant y mae gweithiwr amaethyddol yn ymgymryd ag ef yn unol â pharagraff (2).

RHAN 4Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol

Yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol

18.  Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn y Rhan hon, mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol gan ei gyflogwr mewn cysylltiad â’i absenoldeb salwch.

Amodau cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol

19.  Mae gweithiwr amaethyddol yn cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn ar yr amod bod y gweithiwr amaethyddol—

(a)wedi cael ei gyflogi’n ddi-dor gan ei gyflogwr am gyfnod o 52 o wythnosau o leiaf cyn yr absenoldeb salwch;

(b)wedi hysbysu ei gyflogwr am yr absenoldeb salwch mewn ffordd a gytunwyd yn flaenorol gyda’i gyflogwr neu, yn niffyg unrhyw gytundeb o’r fath, drwy unrhyw ddull rhesymol;

(c)o dan amgylchiadau pan fo’r absenoldeb salwch wedi parhau am gyfnod o 8 diwrnod yn olynol neu ragor, wedi darparu tystysgrif i’w gyflogwr gan ymarferydd meddygol cofrestredig sy’n datgelu’r diagnosis ynghylch anhwylder meddygol y gweithiwr ac sy’n datgan mai’r anhwylder sydd wedi achosi absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol.

Cyfnodau absenoldeb salwch

20.  Rhaid i unrhyw 2 gyfnod o salwch sydd â chyfnod o ddim mwy na 14 o ddiwrnodau rhyngddynt gael eu trin fel un cyfnod o absenoldeb salwch.

Cyfyngiadau ar yr hawl i dâl salwch amaethyddol

21.—(1Ni fydd tâl salwch amaethyddol yn daladwy am y 3 diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch o dan amgylchiadau pan fo hyd yr absenoldeb salwch yn llai na 14 o ddiwrnodau.

(2Yn ystod pob cyfnod hawl, uchafswm nifer yr wythnosau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol ar eu cyfer yw—

(a)13 o wythnosau yn ail flwyddyn y gyflogaeth;

(b)16 o wythnosau yn nhrydedd flwyddyn y gyflogaeth;

(c)19 o wythnosau ym mhedwaredd flwyddyn y gyflogaeth;

(d)22 o wythnosau ym mhumed flwyddyn y gyflogaeth;

(e)26 o wythnosau yn chweched flwyddyn a phob blwyddyn olynol y gyflogaeth.

(3Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer penodedig o ddiwrnodau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr amaethyddol â nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos.

(4Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr hwnnw â nifer y diwrnodau perthnasol.

(5Cyfrifir nifer y diwrnodau perthnasol drwy rannu nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd yn ystod y cyfnod o 12 mis yn arwain at gyfnod yr absenoldeb salwch â 52.

(6Mae uchafswm hawl gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn gymwys pa faint bynnag o gyfnodau o absenoldeb salwch a geir yn ystod unrhyw gyfnod hawl.

(7Yn ddarostyngedig i baragraff (8), yn yr erthygl hon, “cyfnod hawl” yw cyfnod sy’n dechrau â chychwyn absenoldeb salwch ac sy’n dod i ben 12 mis yn ddiweddarach.

(8Os yw’r gweithiwr amaethyddol yn cael cyfnod o absenoldeb salwch sy’n cychwyn unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hawl a ddisgrifir ym mharagraff (7), ond sy’n parhau y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hawl hwnnw, rhaid estyn y cyfnod hawl fel y bo’n dod i ben â pha un bynnag o’r canlynol sy’n digwydd gyntaf—

(a)y dyddiad y mae absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben ac y mae’r gweithiwr amaethyddol yn dychwelyd i’r gwaith, neu

(b)y diwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cyrraedd uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol sy’n gymwys i’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato ym mharagraff (7) (pe na bai hwnnw wedi ei estyn).

Pennu swm tâl salwch amaethyddol

22.—(1Mae tâl salwch amaethyddol yn daladwy yn ôl cyfradd sy’n cyfateb i o leiaf y gyfradd tâl isaf fesul awr a ragnodir yn erthygl 11 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 1 iddo fel y gyfradd sy’n gymwys i’r radd honno neu’r categori hwnnw o weithiwr amaethyddol.

(2Pennir swm y tâl salwch amaethyddol sy’n daladwy i weithiwr amaethyddol drwy gyfrifo nifer yr oriau contract dyddiol a fyddai wedi cael eu gweithio yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch.

(3Pennir nifer yr oriau contract dyddiol—

(a)o dan amgylchiadau pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer penodedig o oriau bob wythnos drwy rannu cyfanswm nifer yr oriau a weithiwyd yn ystod unrhyw wythnos â nifer y diwrnodau a weithiwyd yn yr wythnos honno;

(b)o dan amgylchiadau pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer amrywiol o oriau bob wythnos, drwy ddefnyddio’r fformwla—

Fformiwla
  • pan fo, at ddibenion yr erthygl hon—

  • QH yn gyfanswm nifer yr oriau cymwys yn y cyfnod, a

  • DWEW yn nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol o’u cymryd ar gyfartaledd yn ystod cyfnod o 8 wythnos yn union cyn i’r absenoldeb salwch gychwyn.

(4Yn yr erthygl hon “oriau cymwys” yw oriau—

(a)pan fu’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu oramser gwarantedig,

(b)pan gymerodd y gweithiwr amaethyddol wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth,

(c)pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch a oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn, neu

(d)pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch nad oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn, a

“diwrnodau cymwys” yw unrhyw ddiwrnodau o fewn y cyfnod y cafwyd ynddynt oriau cymwys mewn perthynas â’r gweithiwr amaethyddol.

(5At ddibenion cyfrifiadau o dan yr erthygl hon, pan fo gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr am lai nag 8 wythnos, rhaid ystyried yr oriau cymwys a’r diwrnodau cymwys yn ystod y gwir nifer o wythnosau y mae’r gweithiwr amaethyddol wedi ei gyflogi gan ei gyflogwr.

Tâl salwch amaethyddol i gymryd tâl salwch statudol i ystyriaeth

23.  Caniateir i swm sy’n hafal i unrhyw daliad tâl salwch statudol a wneir yn unol â Rhan XI o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992(13) mewn cysylltiad â chyfnod absenoldeb salwch gweithiwr amaethyddol gael ei dynnu oddi ar dâl salwch amaethyddol y gweithiwr hwnnw.

Talu tâl salwch amaethyddol

24.  Rhaid i dâl salwch amaethyddol gael ei dalu i’r gweithiwr amaethyddol ar ei ddiwrnod cyflog arferol yn unol â naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth.

Cyflogaeth yn dod i ben yn ystod absenoldeb salwch

25.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os terfynir naill ai contract gweithiwr amaethyddol neu ei brentisiaeth yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch neu os rhoddir hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth i gael ei derfynu neu ei therfynu, mae unrhyw hawl sydd gan y gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn parhau ar ôl i’r contract hwnnw ddod i ben fel pe bai’r gweithiwr amaethyddol yn dal yn cael ei gyflogi gan ei gyflogwr, hyd nes i un o’r canlynol ddigwydd—

(a)bod absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben,

(b)bod y gweithiwr amaethyddol yn dechrau gweithio i gyflogwr arall, neu

(c)bod uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn unol ag erthygl 21 yn cael ei ddihysbyddu.

(2Nid oes gan weithiwr amaethyddol y terfynwyd ei gontract hawl i gael unrhyw dâl salwch amaethyddol ar ôl diwedd ei gyflogaeth yn unol â pharagraff (1) os rhoddwyd hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod ei gyflogwr yn bwriadu terfynu ei gontract neu ei brentisiaeth cyn i’r cyfnod o absenoldeb salwch gychwyn.

Gordalu tâl salwch amaethyddol

26.—(1Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2), os caiff gweithiwr amaethyddol sydd â hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan y Rhan hon daliad am fwy o dâl salwch amaethyddol na’i hawl, gall ei gyflogwr adennill gordaliad y tâl salwch amaethyddol hwnnw drwy ei dynnu oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol hwnnw.

(2Os tynnir gordaliad tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn fel y’i crybwyllir ym mharagraff (1), ni chaiff y cyflogwr dynnu mwy nag 20% o gyflog gros y gweithiwr amaethyddol oni bai bod hysbysiad wedi ei roi i derfynu’r gyflogaeth neu fod y gyflogaeth eisoes wedi ei therfynu pryd y caniateir i fwy nag 20% o gyflog gros y gweithiwr amaethyddol gael ei dynnu gan y cyflogwr oddi ar daliad cyflog olaf y gweithiwr.

Iawndal a adenillir yn sgil colli enillion

27.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys i weithiwr amaethyddol y mae ei hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn codi oherwydd gweithred neu anweithred person heblaw ei gyflogwr ac mae’r iawndal yn cael ei adennill gan y gweithiwr amaethyddol mewn cysylltiad â cholled enillion a ddioddefir yn ystod y cyfnod y cafodd y gweithiwr amaethyddol dâl salwch amaethyddol gan ei gyflogwr ar ei gyfer.

(2Pan fo paragraff (1) yn gymwys—

(a)rhaid i’r gweithiwr amaethyddol roi gwybod ar unwaith i’w gyflogwr am yr holl amgylchiadau perthnasol ac am unrhyw hawliad ac am unrhyw iawndal a adenillwyd o dan unrhyw gyfaddawd, setliad neu ddyfarniad,

(b)rhaid i’r holl dâl salwch amaethyddol a dalwyd gan y cyflogwr i’r gweithiwr amaethyddol hwnnw mewn cysylltiad â’r absenoldeb salwch yr adenillir iawndal am golli enillion ar ei gyfer fod yn gyfystyr â benthyciad i’r gweithiwr, ac

(c)rhaid i’r gweithiwr amaethyddol ad-dalu i’w gyflogwr swm nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r canlynol—

(i)swm yr iawndal a adenillwyd am golli enillion yn y cyfnod y talwyd tâl salwch amaethyddol ar ei gyfer, a

(ii)y symiau a roddwyd i’r gweithiwr amaethyddol gan ei gyflogwr o dan y Rhan hon ar ffurf tâl salwch amaethyddol.

RHAN 5Yr hawl i gael amser i ffwrdd

Seibiannau gorffwys

28.  Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i seibiannau gorffwys yn unol â rheoliadau 12, 20, 21 a 24 o Reoliadau Amser Gweithio 1998.

Gorffwys dyddiol

29.  Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gyfnod gorffwys dyddiol yn unol â rheoliadau 10, 20, 21 a 24 o Reoliadau Amser Gweithio 1998.

Cyfnod gorffwys wythnosol

30.  Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gyfnod gorffwys wythnosol yn unol â rheoliadau 11, 20, 21 a 24 o Reoliadau Amser Gweithio 1998.

Y flwyddyn gwyliau blynyddol

31.  Y flwyddyn gwyliau blynyddol i bob gweithiwr amaethyddol yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Hydref ac sy’n dod i ben ar 30 Medi, oni bai bod y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr yn cytuno rhyngddynt ar flwyddyn gwyliau wahanol.

Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio penodedig a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau

32.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un cyflogwr drwy gydol y flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gael y swm gwyliau blynyddol a ragnodir yn y Tabl yn Atodlen 2.

(2Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ac unrhyw oramser gwarantedig, pan fo hynny’n berthnasol, ar nifer penodedig o ddiwrnodau cymwys bob wythnos, nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2 yw’r nifer penodedig hwnnw o ddiwrnodau.

Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a chanddynt ddiwrnodau gweithio amrywiol a gyflogir drwy gydol y flwyddyn gwyliau

33.—(1Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cymerir mai nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos, at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2, yw cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 o wythnosau yn union cyn i wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol gychwyn a rhaid i’r nifer cyfartalog hwnnw o ddiwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.

(2Ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol rhaid i’r cyflogwr gyfrifo hawl wirioneddol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2, ar sail nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos, wedi ei gymryd fel cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y flwyddyn gwyliau blynyddol (h.y. dros gyfnod o 52 o wythnosau) a rhaid i nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.

(3Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cronni hawl i wyliau ond heb eu cymryd, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i ddwyn ymlaen unrhyw wyliau a gronnwyd ond nas cymerwyd i’r flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol yn unol ag erthygl 35(3) o’r Gorchymyn hwn neu caiff y gweithiwr amaethyddol a’r cyflogwr gytuno i daliad yn lle unrhyw wyliau a gronnwyd ond nas cymerwyd yn unol ag erthygl 38 o’r Gorchymyn hwn.

(4Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cymryd mwy o ddiwrnodau gwyliau nag yr oedd ganddo hawl iddynt o dan y Gorchymyn hwn, ar sail nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos (wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (2)), mae gan y cyflogwr hawl i ddidynnu unrhyw dâl am ddiwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol neu, fel arall, ddidynnu’r diwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol o’i hawl ar gyfer y flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol (ar yr amod nad yw didyniad o’r fath yn peri bod y gweithiwr amaethyddol yn cael llai na’i hawl gwyliau blynyddol statudol llawn o dan Reoliadau Amser Gweithio 1998).

Swm gwyliau blynyddol gweithwyr amaethyddol a gyflogir am ran o’r flwyddyn gwyliau

34.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un cyflogwr am ran o’r flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gronni gwyliau blynyddol yn ôl cyfradd o 1/52 o’r hawl i gael gwyliau blynyddol a bennir yn y Tabl yn Atodlen 2 am bob wythnos orffenedig o wasanaeth gyda’r un cyflogwr.

(2Pan fo swm y gwyliau blynyddol a gronnwyd mewn achos penodol yn cynnwys ffracsiwn o ddiwrnod heblaw hanner diwrnod, mae’r ffracsiwn hwnnw—

(a)i’w dalgrynnu i lawr i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n llai na hanner diwrnod, a

(b)i’w dalgrynnu i fyny i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n fwy na hanner diwrnod.

Amseru gwyliau blynyddol

35.—(1Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd gwyliau blynyddol y mae ganddo hawl i’w cymryd o dan y Gorchymyn hwn unrhyw bryd o fewn y flwyddyn gwyliau blynyddol yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ei gyflogwr.

(2Nid oes gan weithiwr amaethyddol hawl i gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas cymerwyd ymlaen o’r naill flwyddyn gwyliau i’r flwyddyn gwyliau nesaf heb gymeradwyaeth ei gyflogwr.

(3Pan fo cyflogwr wedi cytuno y caiff gweithiwr amaethyddol gario unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas cymerwyd ymlaen, dim ond yn ystod y flwyddyn gwyliau y mae’n cael ei gario ymlaen iddi y caniateir i’r balans gael ei gymryd.

(4Yn ystod y 6 mis cyntaf mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol caiff cyflogwr ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gymryd hyd at 2 wythnos o’i hawl gwyliau blynyddol o dan y Gorchymyn hwn a chaiff gyfarwyddo i’r gweithiwr gymryd un o’r 2 wythnos hynny o wyliau blynyddol ar ddiwrnodau yn yr un wythnos.

(5Yn ystod yr ail 6 mis mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol, rhaid i gyflogwr ganiatáu i weithiwr amaethyddol gymryd 2 wythnos o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr o dan y Gorchymyn hwn mewn wythnosau olynol.

(6At ddibenion yr erthygl hon, mae 1 wythnos o wyliau blynyddol gweithiwr amaethyddol yn cyfateb i nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol fel y’i pennir yn unol ag erthyglau 32 a 33.

Tâl gwyliau

36.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael ei dalu mewn cysylltiad â phob diwrnod o wyliau blynyddol y mae’n ei gymryd yn seiliedig ar gyflog wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol.

(2Mae swm y tâl gwyliau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl iddo o dan baragraff (1) i’w bennu yn unol â rheoliad 16 o Reoliadau Amser Gweithio 1998.

(3Rhaid i unrhyw dâl sy’n ddyledus i weithiwr amaethyddol o dan yr erthygl hon gael ei dalu heb fod yn hwyrach na diwrnod gwaith olaf y gweithiwr amaethyddol cyn i’r cyfnod o wyliau blynyddol y mae’r taliad yn ymwneud ag ef gychwyn.

Gwyliau cyhoeddus a gwyliau banc

37.—(1Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo gŵyl gyhoeddus neu ŵyl banc yng Nghymru yn syrthio ar ddiwrnod pan fo’n ofynnol fel arfer i weithiwr amaethyddol weithio o dan naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth.

(2Mae gan weithiwr amaethyddol y mae ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc hawl i gael tâl nad yw’n llai na’r gyfradd goramser a bennir yn erthygl 12.

(3Mae balans y gwyliau blynyddol sydd wedi eu cronni ar gyfer y flwyddyn gwyliau honno o dan y Gorchymyn hwn gan weithiwr amaethyddol nad yw ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc i gael ei leihau o 1 diwrnod mewn cysylltiad â’r ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc nad yw’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio arni.

Taliad yn lle gwyliau blynyddol

38.—(1Yn ddarostyngedig i’r amodau ym mharagraff (2), caiff gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr gytuno bod y gweithiwr amaethyddol i gael taliad yn lle diwrnod o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.

(2Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—

(a)bod uchafswm nifer y diwrnodau y caiff gweithiwr amaethyddol gael taliad yn lle gwyliau blynyddol ar eu cyfer yn ystod unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol wedi ei ragnodi yn y Tabl yn Atodlen 3;

(b)bod cofnod ysgrifenedig i’w gadw gan y cyflogwr ynglŷn ag unrhyw gytundeb y caiff gweithiwr amaethyddol daliad yn lle diwrnod o wyliau blynyddol am o leiaf 3 blynedd gan gychwyn ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau honno;

(c)o dan amgylchiadau pan nad yw’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ar ddiwrnod fel y cytunir yn unol â pharagraff (1), bod y diwrnod hwnnw i barhau’n rhan o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol;

(d)bod taliad yn lle gwyliau blynyddol i’w dalu ar gyfradd sy’n cynnwys y gyfradd goramser a bennir yn erthygl 12 yn ogystal â thâl gwyliau a gyfrifir yn unol ag erthygl 36 fel pe bai’r diwrnod y gwneir taliad yn lle gwyliau blynyddol ar ei gyfer yn ddiwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cymryd gwyliau blynyddol.

Talu tâl gwyliau wrth derfynu cyflogaeth

39.—(1Pan derfynir cyflogaeth gweithiwr amaethyddol ac nad yw’r gweithiwr amaethyddol wedi cymryd yr holl hawl gwyliau blynyddol sydd wedi cronni iddo ar ddyddiad terfynu’r gyflogaeth, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl yn unol â pharagraff (2) i gael taliad yn lle’r gwyliau blynyddol a gronnwyd ond nas cymerwyd.

(2Mae swm y taliad sydd i’w dalu i’r gweithiwr amaethyddol yn lle pob diwrnod o’i wyliau blynyddol a gronnwyd ond nas cymerwyd ar ddyddiad terfynu’r gyflogaeth i’w gyfrifo yn unol ag erthygl 36 fel pe bai dyddiad terfynu’r gyflogaeth yn ddiwrnod cyntaf cyfnod o wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.

Adennill tâl gwyliau

40.—(1Os terfynir cyflogaeth gweithiwr amaethyddol cyn diwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol a bod y gweithiwr amaethyddol wedi cymryd mwy o wyliau blynyddol nag yr oedd ganddo hawl i’w cael o dan ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn neu fel arall, mae gan ei gyflogwr hawl i adennill swm y tâl gwyliau a dalwyd i’r gweithiwr amaethyddol mewn cysylltiad â gwyliau blynyddol a gymerwyd uwchlaw ei hawl.

(2Pan fo gan gyflogwr hawl o dan baragraff (1) i adennill tâl gwyliau oddi ar weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr wneud hynny drwy ei dynnu oddi ar daliad cyflog olaf y gweithiwr amaethyddol.

Absenoldeb oherwydd profedigaeth

41.—(1Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl, a thâl profedigaeth amaethyddol yn unol ag erthygl 43, o dan amgylchiadau pan fo’r brofedigaeth yn ymwneud â pherson yng Nghategori A, Categori B neu Gategori C.

(2At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori A yw—

(a)plentyn.

(3At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori B yw—

(a)rhiant i’r gweithiwr amaethyddol,

(b)priod neu bartner sifil y gweithiwr amaethyddol, neu

(c)rhywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel pe baent yn briod (heb fod yn gyfreithiol briod) neu rywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel pe baent mewn partneriaeth sifil (heb fod mewn partneriaeth sifil yn gyfreithiol).

(4At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori C yw—

(a)brawd neu chwaer i’r gweithiwr amaethyddol,

(b)nain neu daid i’r gweithiwr amaethyddol, neu

(c)ŵyr neu wyres i’r gweithiwr amaethyddol.

(5At ddibenion paragraff (1) mae absenoldeb oherwydd profedigaeth yn ychwanegol at unrhyw hawliau eraill i gael absenoldeb o dan y Gorchymyn hwn.

Pennu swm absenoldeb oherwydd profedigaeth

42.—(1Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A yw 2 wythnos.

(2Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B yw—

(a)4 diwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr, neu

(b)pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (3).

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—

Fformiwla

(4Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori C yw—

(a)2 diwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr, neu

(b)pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (5).

(5Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo’r erthygl hon yn gymwys mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori C i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—

Fformiwla

(6At ddibenion y fformwla ym mharagraffau (3) a (5), DWEW yw nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol wedi ei gyfrifo yn unol ag erthygl 32 neu 33 (fel y bo’n briodol).

(7Pan fo’r cyfrifiad ym mharagraff (3) neu (5) yn arwain at hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth o lai nag 1 diwrnod, mae’r hawl i’w thalgrynnu i fyny i un diwrnod cyfan.

(8O dan amgylchiadau pan fo mwy nag un gyflogaeth gan weithiwr amaethyddol (boed gyda’r un cyflogwr neu gyda chyflogwyr gwahanol), caniateir cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl mewn cysylltiad â mwy nag un gyflogaeth ond ni chaiff, mewn cysylltiad ag unrhyw un brofedigaeth, fod yn fwy nag uchafswm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth a bennir ar gyfer un gyflogaeth yn yr erthygl hon.

Tâl absenoldeb profedigaeth amaethyddol

43.—(1Mae swm y tâl mewn cysylltiad ag absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A, am y pedwar diwrnod cyntaf neu, pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol ag erthygl 42(3), i’w bennu yn unol â darpariaethau erthygl 36 fel pe bai diwrnod cyntaf absenoldeb y gweithiwr amaethyddol oherwydd profedigaeth yn ddiwrnod cyntaf gwyliau blynyddol y gweithiwr hwnnw. Ar gyfer gweddill unrhyw gyfnod o absenoldeb oherwydd profedigaeth, bydd gan y gweithiwr amaethyddol hawl i gael swm sy’n cyfateb i dâl absenoldeb profedigaeth rhiant statudol sy’n gymwys o bryd i’w gilydd.

(2Mae unrhyw dâl absenoldeb profedigaeth amaethyddol a delir i’r gweithiwr amaethyddol yn unol ag erthygl 43(1) yn cynnwys unrhyw dâl absenoldeb profedigaeth rhiant statudol y gall y gweithiwr fod â hawl i’w gael ar gyfer yr un cyfnod.

(3Mae swm y tâl absenoldeb profedigaeth amaethyddol y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B neu C i’w bennu yn unol â darpariaethau erthygl 36 fel pe bai diwrnod cyntaf absenoldeb y gweithiwr amaethyddol oherwydd profedigaeth yn ddiwrnod cyntaf gwyliau blynyddol y gweithiwr hwnnw.

Absenoldeb di-dâl

44.  Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd cyfnod o absenoldeb di-dâl, gyda chydsyniad ei gyflogwr.

RHAN 6Dirymu a darpariaeth drosiannol

Dirymu a darpariaeth drosiannol

45.—(1Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023(14) wedi ei ddirymu.

(2Mae gweithiwr amaethyddol a gyflogir fel gweithiwr ar Radd neu fel prentis, ac sy’n ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a ragnodwyd yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023 neu unrhyw Orchmynion blaenorol, yn ddarostyngedig, o’r dyddiad y mae’r Gorchymyn hwn yn cymryd effaith, i’r telerau a’r amodau a nodir yn Rhannau 2 i 5 o’r Gorchymyn hwn.

(3Yn yr erthygl hon ystyr “Gorchmynion blaenorol” yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023, Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022(15), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022(16), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020(17), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019(18), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018(19), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017(20), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016(21), Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 a phob gorchymyn a ddirymwyd gan erthygl 70 o’r Gorchymyn hwnnw.

Lesley Griffiths

Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru

15 Mawrth 2024

Erthygl 11

ATODLEN 1CYFRADDAU TÂL ISAF

Tabl

GraddY gyfradd isaf o 1 Ebrill 2024
A1 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (16-17 oed)£6.56
A2 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (18-20 oed)£8.82
A3 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (21+ oed)£11.73
B1 – Gweithiwr amaethyddol (16-17 oed)£6.56
B2 – Gweithiwr amaethyddol (18-20 oed)£8.82
B3 – Gweithiwr amaethyddol (21+ oed)£11.79
C – Gweithiwr amaethyddol uwch£12.27
D – Uwch-weithiwr amaethyddol £13.46
E – Rheolwr amaethyddol£14.77
Prentis Blwyddyn 1£6.40
Prentis Blwyddyn 2 a’r tu hwnt (16-17 oed)£6.40
Prentis Blwyddyn 2 a’r tu hwnt (18-20 oed)£8.60
Prentis Blwyddyn 2 a’r tu hwnt (21+ oed)£11.44

Erthyglau 32 a 33

ATODLEN 2HAWLIAU GWYLIAU BLYNYDDOL

Tabl

Nifer y diwrnodau a weithir bob wythnos gan weithiwr amaethyddolMwy na 6Mwy na 5 ond heb fod yn fwy na 6Mwy na 4 ond heb fod yn fwy na 5Mwy na 3 ond heb fod yn fwy na 4Mwy na 2 ond heb fod yn fwy na 3Mwy na 1 ond heb fod yn fwy na 21 neu lai
Hawliau gwyliau blynyddol (diwrnodau)3835312520137.5

Erthygl 38

ATODLEN 3TALIAD YN LLE GWYLIAU BLYNYDDOL

Tabl

Uchafswm nifer y diwrnodau gwyliau blynyddol y caniateir taliad yn eu lle
Diwrnodau a weithir bob wythnosMwy na 6Mwy na 5 ond heb fod yn fwy na 6Mwy na 4 ond heb fod yn fwy na 5Mwy na 3 ond heb fod yn fwy na 4Mwy na 2 ond heb fod yn fwy na 3Mwy na 1 ond heb fod yn fwy na 21 neu lai
Uchafswm nifer y diwrnodau gwyliau blynyddol o dan y Gorchymyn hwn y caniateir taliad yn eu lle10732.52.51.51.5

Erthyglau 6, 7 ac 8

ATODLEN 4CYMWYSTERAU CYFATEBOL Y TU ALLAN I GYMRU

Tabl

Cymwysterau cyfatebol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a’r Alban
CymruLloegrGogledd IwerddonGweriniaeth IwerddonYr Alban
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2Prentisiaeth Ganolradd Lefel 2Hyfforddeiaethau Gogledd Iwerddon Lefel 2-Prentisiaeth Fodern Lefel 5
Prentisiaeth Lefel 3Uwch Brentisiaeth Lefel 3Prentisiaeth Gogledd Iwerddon Lefel 3Prentisiaeth Lefel 5Prentisiaeth Fodern, Prentisiaeth Sylfaen Lefel 6
Prentisiaeth Uwch Lefel 4Prentisiaeth Uwch Lefel 4Prentisiaeth Uwch Lefel 4Prentisiaeth Lefel 6Prentisiaeth Fodern Lefel 7
Cymwysterau cyfatebol o dan y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (‘FfCE’)
CymruFfCE
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2FfCE Lefel 3
Prentisiaeth Lefel 3FfCE Lefel 4
Prentisiaeth Uwch Lefel 4FfCE Lefel 5

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Yn ddarostyngedig i rai newidiadau ac un ddarpariaeth drosiannol, mae’r Gorchymyn hwn yn dirymu ac yn disodli Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023.

Mae Rhan 2 o’r Gorchymyn yn darparu bod gweithwyr amaethyddol i gael eu cyflogi yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau sydd wedi eu nodi yn Rhannau 2 i 5 o’r Gorchymyn (erthygl 3) ac yn pennu’r graddau a’r categorïau gwahanol o weithiwr amaethyddol (erthyglau 5 i 9).

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynghylch y cyfraddau tâl isaf y mae rhaid eu talu i weithwyr amaethyddol (erthygl 11). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer lwfans gwrthbwyso llety a all gael ei dynnu oddi ar dâl gweithiwr amaethyddol (erthygl 15). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd ar gyfer lwfans cŵn, lwfans ar alwad, lwfans gwaith nos a grantiau geni a mabwysiadu nad ydynt yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol (erthygl 16).

Mae Rhan 4 yn darparu bod gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan yr amgylchiadau sydd wedi eu pennu (erthyglau 18 i 21). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynghylch cyfrifo faint o dâl salwch amaethyddol y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael (erthygl 22). Mae taliad tâl salwch statudol i gyfrif tuag at hawl gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol (erthygl 23).

Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael amser i ffwrdd. Mae darpariaeth yn cael ei gwneud ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael seibiannau gorffwys (erthygl 28), gorffwys dyddiol (erthygl 29) a chyfnod gorffwys wythnosol (erthygl 30). Mae darpariaeth yn cael ei gwneud hefyd sy’n pennu blwyddyn gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol ac ynghylch hawl y gweithiwr amaethyddol i gael gwyliau blynyddol a thâl gwyliau ac ynghylch taliad yn lle gwyliau blynyddol (erthyglau 31 i 38). Mae darpariaeth ynghylch hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb â thâl oherwydd profedigaeth yn cael ei gwneud yn erthyglau 41 i 43.

Mae Rhan 6 yn cynnwys dirymiad a darpariaeth drosiannol.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn. Gellir cael copi oddi wrth: Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar  www.llyw.cymru.

(3)

O.S. 1998/1833, a ddiwygiwyd gan O.S. 2023/1426.

(5)

1996 p. 18. Mewnosodwyd adran 80EA gan Atodlen 1(1) i Ddeddf Profedigaeth Rhiant (Absenoldeb a Thâl) 2018 (p. 24).

(7)

1996 p. 18. Diwygiwyd adran 211 gan Atodlen 8 i O.S. 2006/1031. Diwygiwyd adran 212 gan Atodlenni 4 a 9 i Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999 (p. 26). Diwygiwyd adran 215 gan Atodlen 7 i Ddeddf Cyfraniadau Nawdd Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau, etc.) 1999 (p. 2). Diwygiwyd adran 219 gan Atodlen 1 i Ddeddf Hawliau Cyflogaeth (Datrys Anghydfodau) 1998 (p. 8).

(9)

1973 p. 50. Diwygiwyd adran 2 gan adran 25 o Ddeddf Cyflogaeth 1988 (p. 19) ac adran 47 o Ddeddf Diwygio Undebau Llafur a Hawliau Cyflogaeth 1993 (p. 19). Trosglwyddwyd swyddogaethau perthnasol yr Ysgrifennydd Gwladol, i’r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p. 32), a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 iddi.

(10)

1995 p. 18. Diddymwyd adran 17B gan adran 147 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 5) a Rhan 4 o Atodlen 14 iddi. Mae’r diddymiad yn cael effaith at ddibenion penodol yn unol ag O.S. 2013/983, O.S. 2013/1511, O.S. 2013/2657, O.S. 2013/2846, O.S. 2014/209, O.S. 2014/1583, O.S. 2014/2321, O.S. 2014/3094, O.S. 2015/33, O.S. 2015/101, O.S. 2015/634, O.S. 2015/1537, O.S. 2015/1930, O.S. 2016/33 ac O.S. 2016/407.

(13)

1992 p. 4.