Mewnosod rheoliad newydd 17A (data ailgylchu)

17.  Ar ôl rheoliad 17 (rhwymedigaethau adrodd am ddata), mewnosoder—

Data ailgylchu

17A.(1) Pan fo gwybodaeth mewn adroddiad a gyflwynir gan gynhyrchydd mawr (“CM”) o dan reoliad 17 mewn perthynas â chyfnod o chwe mis sy’n dod i ben ar neu ar ôl 30 Mehefin 2024 (“adroddiad rheoliad 17”) yn ymwneud â phecynwaith sydd eisoes wedi bod yn ddarostyngedig i rwymedigaeth ailgylchu o dan reoliad 4(4)(b) o Reoliadau 2007 ac Atodlen 2 iddynt (“pecynwaith perthnasol”), caiff CM ddewis cyflwyno adroddiad o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwn (“adroddiad rheoliad 17A”).

(2) Rhaid i adroddiad rheoliad 17A ddatgan cyfran y pecynwaith perthnasol y bu’n ofynnol i CM ei ailgylchu o dan Reoliadau 2007 (“P”), a gyfrifir fel a ganlyn—

fformiwla

pan—

(a)

“CP” yw’r swm mewn cilogramau o becynwaith perthnasol sydd wedi ei ystyried yn flaenorol i gyfrifo rhwymedigaethau ailgylchu cynhyrchydd o dan Reoliadau 2007;

(b)

“SP” yw swm canrannau’r pecynwaith hwnnw y mae wedi bod yn ofynnol i unrhyw ddosbarth o gynhyrchydd ei ailgylchu o dan Reoliadau 2007, fel y’i nodir ym mharagraff 4 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau hynny.

(3) Pan fo CM yn dewis cyflwyno adroddiad rheoliad 17A, rhaid i CM gyflwyno’r adroddiad—

(a)ar unrhyw ffurf a gyfarwyddir gan CNC;

(b)ar y dyddiad y mae CM yn cyflwyno adroddiad rheoliad 17 neu unrhyw ddyddiad arall y caiff CNC ei gyfarwyddo.

(4) Pan na chyflwynir adroddiad rheoliad 17A ar yr un dyddiad â’r adroddiad rheoliad 17, rhaid i’r adroddiad rheoliad 17A nodi hefyd y cyfnod casglu data y mae’n ymwneud ag ef.

(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “Rheoliadau 2007” yw Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Pecynwaith) 2007(1).