Diwygio rheoliad 2 (dehongli)
5. Yn rheoliad 2(1)—
(a)hepgorer y diffiniad o “gwaredu”;
(b)yn y lleoedd priodol, yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniadau a ganlyn—
“ystyr “cynhwysydd diod” (“drink container”) yw potel neu gan—
sy’n cynnwys diod neu a oedd yn cynnwys diod,
sydd wedi ei gwneud neu wedi ei wneud yn gyfan gwbl neu’n bennaf o blastig polyethylen tereffthalad (PET), gwydr, dur neu alwminiwm,
sydd â chynhwysedd o 50 o fililitrau o leiaf ond dim mwy na thri litr o hylif,
sydd wedi ei chynllunio neu ei gynllunio, neu wedi ei bwriadu neu ei fwriadu, i gael ei selio mewn cyflwr aerglos a dwrglos yn y man cyflenwi i dreuliwr yn y Deyrnas Unedig, ac
nad yw wedi ei chreu neu ei greu, wedi ei chynllunio neu ei gynllunio nac wedi ei marchnata neu ei farchnata i gael ei hail-lenwi neu ei ail-lenwi na’i hailddefnyddio neu ei ailddefnyddio mewn unrhyw ffordd arall gan unrhyw berson;”;
“mae i “grŵp o gwmnïau” (“group of companies”) yr ystyr a roddir gan reoliad 11(9)(d);”;
“ystyr “perchennog cyntaf yn y DU” (“first UK owner”), mewn perthynas â phecynwaith nad yw’n cael ei fewnforio, yw’r person cyntaf sydd wedi ymsefydlu yn y Deyrnas Unedig sy’n cymryd perchnogaeth o’r pecynwaith hwnnw yn y Deyrnas Unedig;”;
(c)yn y diffiniad o “mewnforiwr”—
(i)ym mharagraff (a), hepgorer “wedi ei lenwi”;
(ii)ym mharagraff (b)—
(aa)yn lle “yn bresennol” rhodder “wedi ymsefydlu”;
(bb)ar ôl “person cyntaf” mewnosoder “sydd wedi ymsefydlu”.