Gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol: eithriad rhag cwmpas gwasanaethau cartref gofal4

Yn rheoliad 2 (gwasanaethau cartrefi gofal), ar ôl paragraff (4) mewnosoder—

5

At ddibenion paragraff (1)(l) o’r rheoliad hwn—

  • ystyr “gofal canolraddol” (“intermediate care”) yw’r ddarpariaeth o lety, ynghyd â nyrsio neu ofal, i oedolyn am gyfnod cyfyngedig at ddiben hybu gallu’r oedolyn i fyw’n annibynnol yn ei gartref ei hun drwy—

    1. a

      osgoi ei dderbyn i ysbyty yn ddiangen,

    2. b

      lleihau hyd unrhyw dderbyniad i’r ysbyty drwy alluogi ei ryddhau yn amserol,

    3. c

      galluogi ei adferiad ar ôl ei ryddhau o’r ysbyty, neu

    4. d

      atal neu ohirio’i dderbyn i wasanaeth cartref gofal;

    ystyr “gwasanaeth gofal canolraddol awdurdod lleol” (“local authority intermediate care service”) yw gwasanaeth sy’n darparu gofal canolraddol—

    1. a

      a ddarperir gan awdurdod lleol i oedolyn yn unol â’i ddyletswyddau yn Rhan 2 neu 4 o Ddeddf 20144,

    2. b

      pan fo’r llety a ddefnyddir at ddibenion y gofal canolraddol wedi ei freinio yn yr awdurdod lleol, ac

    3. c

      pan fo unrhyw ofal a chymorth wedi ei ddarparu gan wasanaeth cymorth cartref y mae’r awdurdod lleol wedi ei gofrestru i’w ddarparu.