NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)

Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Cynigion Cyllidebol a Chyrff Dynodedig) 2018 (O.S. 2018/1173 (Cy. 237)) (“Gorchymyn 2018”) sy’n dynodi cyrff penodedig at ddiben cynnwys mewn cynnig Cyllideb yr adnoddau y disgwylir eu defnyddio gan y cyrff hynny.

Mae Atodlen newydd wedi ei rhoi yn lle’r Atodlen i Orchymyn 2018. Effaith y diwygiad hwn yw bod 4 corff ychwanegol wedi eu dynodi, bod enwau rhai cyrff wedi eu newid, a bod y rhifau cwmni ar gyfer 10 corff a ddynodwyd yn flaenorol a oedd wedi eu hepgor bellach wedi eu cynnwys.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.