xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2024 Rhif 447 (Cy. 75) (C. 26)

Adeiladu Ac Adeiladau, Cymru

Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024

Gwnaed

2 Ebrill 2024

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

4 Ebrill 2024

Yn dod i rym

25 Ebrill 2024

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 167(1), (2)(a) a (3)(a) ac adran 170(4)(b)(vi) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022(1).

Enwi, dod i rym, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024 a deuant i rym ar 25 Ebrill 2024.

(2Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Gorchymyn 2005” (“2005 Order”) yw Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005(2);

ystyr “Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” (“Approved Inspectors Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010(3);

ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”) yw Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012(4).

(3Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 25 Ebrill 2024

2.  Daw adran 49(1) a (2) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i rym ar 25 Ebrill 2024.

Diwygio’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy

3.  Yn y darpariaethau a ganlyn (gan gynnwys penawdau) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy, yn lle “approved inspector”, ym mhob lle y mae’n digwydd, gan gynnwys lle mae’n digwydd unwaith yn unig, rhodder “approver”—

(a)pennawd Rhan 3;

(b)rheoliad 8(5), gan gynnwys yn y pennawd;

(c)rheoliad 9(6), gan gynnwys yn y pennawd;

(d)rheoliad 12, gan gynnwys yn y pennawd;

(e)rheoliad 13, gan gynnwys yn y pennawd;

(f)rheoliad 16(7);

(g)rheoliad 18;

(h)rheoliad 20(1)(8);

(i)rheoliad 20(5)(a);

(j)rheoliad 20(6), ym mharagraff 4(a) a amnewidir;

(k)rheoliad 20(6A)(9), ym mharagraff 3 a amnewidir;

(l)Atodlen 2(10);

(m)Atodlen 3(11), gan gynnwys ym mhennawd paragraff 5;

(n)Atodlen 4(12), gan gynnwys ym mhennawd paragraff 4.

Diwygio Gorchymyn 2005

4.—(1Mae Gorchymyn 2005 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2Yn erthygl 30(5)(c) ar ôl “the approved inspector”, mewnosoder “or registered building control approver”.

(3Yn erthygl 46(3) yn lle “an approved inspector within the meaning of section 49 of the Building Act 1984” rhodder “a registered building control approver within the meaning of section 58N of the Building Act 1984”.

Diwygio Rheoliadau 2012

5.  Yn rheoliad 32(1)(c)(13) o Reoliadau 2012 yn lle “an approved inspector for the purposes of the inspector’s” rhodder “a registered building control approver for the purposes of the approver’s”.

Darpariaeth drosiannol

6.  Nid yw’r diwygiadau yn rheoliadau 3, 4(3) a 5 yn gymwys i berson sydd, yn rhinwedd rheoliad 4 o Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 2024(14), yn parhau mewn swydd arolygydd cymeradwy ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024.

Julie James

Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru

2 Ebrill 2024

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010 (O.S. 2010/2215) (“y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy”), Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005 (O.S. 2005/1541) (“Gorchymyn 2005”) a Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012 (O.S. 2012/3118) (“Rheoliadau 2012”) o ganlyniad i Ran 3 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 (“Deddf 2022”). Mae rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn yn cychwyn adran 49(1) a (2) o Ddeddf 2022.

Mae Rhan 3 o Ddeddf 2022 yn diwygio Deddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”) ac yn diffinio’r cwmpas a’r darpariaethau ar gyfer y gyfundrefn yn ystod cyfnod dylunio ac adeiladu adeiladau risg uwch. Mae hefyd yn darparu ar gyfer cofrestru arolygwyr adeiladu a chymeradwywyr rheolaeth adeiladu i reoleiddio’n well a gwella lefelau cymhwysedd yn y sector rheolaeth adeiladu.

Mae rheoliad 3 o’r Rheoliadau hyn yn diwygio darpariaethau penodol o Reoliadau Arolygwyr Cymeradwy i ddiwygio cyfeiriadau at “approved inspector” i “approver” fel eu bod yn parhau i fod yn gymwys i gymeradwywyr rheolaeth adeiladu gofrestredig. Mae’r term “approver” wedi ei ddiffinio yn rheoliad 2 o Reoliadau Arolygwyr Cymeradwy fel “registered building control approver”.

Mae rheoliad 4 yn diwygio Gorchymyn 2005 ac mae rheoliad 5 yn diwygio Rheoliadau 2012 ond gan fewnosod y termau sy’n cyd-fynd â’r offerynnau hynny.

Er gwaethaf y diwygiadau a wneir gan reoliadau 3, 4 a 5 o’r Rheoliadau hyn, bydd y Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy yn parhau i fod yn gymwys i arolygwyr cymeradwy ar gyfer y cyfnod pontio (6 Ebrill 2024 i 1 Hydref 2024).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r offeryn hwn.

NODYN AM Y RHEOLIADAU CYCHWYN CYNHARACH

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2022 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy reoliadau cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Rheoliadau hyn.

Y DdarpariaethY Dyddiad CychwynRhif O.S.
Adran 2(2) ac Atodlen 128 Mehefin 20222022/561 (C. 28)
Adran 31 (yn rhannol)9 Rhagfyr 20222022/1287 (Cy. 261) (C. 104)
Adran 32(1) a 32(4)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 32(3) (yn rhannol)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 32(3) (at yr holl ddibenion sy’n weddill) (i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 91ZD yn Neddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”))6 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Adran 33 (yn rhannol)6 Ebrill 20232023/362 (C. 15)
Adran 33 (at yr holl ddibenion sy’n weddill)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 345 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 355 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 36 (yn rhannol)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 37 (yn rhannol)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 38 (yn rhannol)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 39 (yn rhannol)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 406 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Adran 415 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 42 (yn rhannol)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 42 (yn rhannol)1 Ionawr 20242023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 42 (i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod adran 58Z2 yn Neddf 1984)6 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Adran 42 (at yr holl ddibenion sy’n weddill, ac eithrio i’r graddau y mae’n ymwneud ag adrannau 58Z7 a 58Z10 o Ddeddf 1984 a mewnosod adran 58Z2 yn Neddf 1984)6 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Adran 436 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Adran 44 (yn rhannol)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 44 (at yr holl ddibenion sy’n weddill)6 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Adran 46 (yn rhannol)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 46 (at yr holl ddibenion sy’n weddill)6 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Adran 475 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 4828 Gorffennaf 20222022/774 (Cy. 169) (C. 47)
Adran 49 (yn rhannol)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 50 (yn rhannol)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 50 (at yr holl ddibenion sy’n weddill)6 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Adran 51 (yn rhannol)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 51 (at yr holl ddibenion sy’n weddill)6 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Adran 52 (yn rhannol)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 52 (at yr holl ddibenion sy’n weddill)6 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Adran 53(2) a (3)(a)(ii) a (iii) a (3)(b)6 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Adran 559 Rhagfyr 20222022/1287 (Cy. 261) (C. 104)
Adran 565 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adran 575 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Adrannau 130 a 13128 Mehefin 20222022/561 (C. 28)
Adran 132 (yn rhannol)28 Mai 20222022/561 (C. 28)
Adran 132 (at yr holl ddibenion sy’n weddill)28 Mehefin 20222022/561 (C. 28)
Adran 156 ac eithrio is-adran (4) (ac is-adran (8) i’r graddau y mae’n ymwneud ag erthygl 22B o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005)1 Hydref 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Atodlen 46 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Atodlen 5, paragraffau 1, 77 (yn rhannol), 78 ac 81 (yn rhannol)9 Rhagfyr 20222022/1287 (Cy. 261) (C. 104)
Atodlen 5, paragraffau 2, 3, 4(1) a 4(2), 5(1) a 5(2), 6, 9, 10, 11(1), 11(2) ac 11(3), 12(1) a 12(2), 13(1), 13(2), 13(5) a 13(6), 14(1), 14(2), 14(3)(b) a 14(4)(b), 15(1) i 15(5) a 15(9), 16, 17, 22(1) a 22(8), 40(1) a 40(3), 42(1) a 42(3), 46(1) a 46(2), 50, 51, 53, 55(1), 55(4)(a) a 55(6), 57(1) a 57(3), 67, 71, 74(1) a 74(2), 75, 76(1) ac 76(3), 80 (yn rhannol), 81 (yn rhannol), 82, 83(1), 83(2), 83(3) (yn rhannol), 83(7), 83(8) a 83(9), 84(1) a 84(3)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Atodlen 5, paragraff 566 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Atodlen 5 (ac eithrio’r paragraffau a restrir yn yr Atodlen i O.S. 2024/207 ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 170(4)(b)(viii)(A) a (B) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022)6 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
Atodlen 6, paragraff 30 (yn rhannol)5 Medi 20232023/914 (Cy. 141) (C. 50)
Atodlen 6 (at yr holl ddibenion sy’n weddill, yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 170(4)(b)(ix) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022)6 Ebrill 20242024/207 (Cy. 39) (C. 10)
(5)

Mae diwygiadau i reoliad 8 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(6)

Mae diwygiadau i reoliad 9 ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

(7)

Diwygiwyd rheoliad 16 gan reoliad 38 o O.S. 2012/3119 a rheoliad 31 o O.S. 2013/747 (Cy. 89).

(8)

Diwygiwyd rheoliad 20(1) gan reoliad 32 o O.S. 2013/747 (Cy. 89), rheoliad 13(a) a (b) o O.S. 2014/110 (Cy. 10), rheoliad 3(3)(a) a (b)(i) o O.S. 2016/611 (Cy. 168) a rheoliad 20(a)(i) a (ii) a (b)(i), (ii) a (iii) o O.S. 2022/564 (Cy. 130).

(9)

Ychwanegwyd rheoliad 20(6A) gan reoliad 20(d) o O.S. 2022/564 (Cy. 130).

(10)

Mae diwygiadau i Atodlen 2, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol iְ’r Rheoliadau hyn.

(11)

Mae diwygiadau i Atodlen 3, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol iְ’r Rheoliadau hyn.

(12)

Mae diwygiadau i Atodlen 4, ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol iְ’r Rheoliadau hyn.

(13)

Mae diwygiadau i adran 32(1), ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.