1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024 a deuant i rym ar 25 Ebrill 2024.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Gorchymyn 2005” (“2005 Order”) yw Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005(1);
ystyr “Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” (“Approved Inspectors Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 2010(2);
ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”) yw Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012(3).
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.