2024 Rhif 447 (Cy. 75) (C. 26)
Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024
Gwnaed
Gosodwyd gerbron Senedd Cymru
Yn dod i rym
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 167(1), (2)(a) a (3)(a) ac adran 170(4)(b)(vi) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 20221.
Enwi, dod i rym, dehongli a chymhwyso1
1
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2024 a deuant i rym ar 25 Ebrill 2024.
2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Gorchymyn 2005” (“2005 Order”) yw Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 20052;
ystyr “Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy” (“Approved Inspectors Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu (Arolygwyr Cymeradwy etc.) 20103;
ystyr “Rheoliadau 2012” (“2012 Regulations”) yw Rheoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 20124.
3
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Y ddarpariaeth sy’n dod i rym ar 25 Ebrill 20242
Daw adran 49(1) a (2) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i rym ar 25 Ebrill 2024.
Diwygio’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy3
Yn y darpariaethau a ganlyn (gan gynnwys penawdau) o’r Rheoliadau Arolygwyr Cymeradwy, yn lle “approved inspector”, ym mhob lle y mae’n digwydd, gan gynnwys lle mae’n digwydd unwaith yn unig, rhodder “approver”—
a
pennawd Rhan 3;
b
rheoliad 85, gan gynnwys yn y pennawd;
c
rheoliad 96, gan gynnwys yn y pennawd;
d
rheoliad 12, gan gynnwys yn y pennawd;
e
rheoliad 13, gan gynnwys yn y pennawd;
f
rheoliad 167;
g
rheoliad 18;
h
rheoliad 20(1)8;
i
rheoliad 20(5)(a);
j
rheoliad 20(6), ym mharagraff 4(a) a amnewidir;
k
rheoliad 20(6A)9, ym mharagraff 3 a amnewidir;
l
Atodlen 210;
m
Atodlen 311, gan gynnwys ym mhennawd paragraff 5;
n
Atodlen 412, gan gynnwys ym mhennawd paragraff 4.
Diwygio Gorchymyn 20054
1
Mae Gorchymyn 2005 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
2
Yn erthygl 30(5)(c) ar ôl “the approved inspector”, mewnosoder “or registered building control approver”.
3
Yn erthygl 46(3) yn lle “an approved inspector within the meaning of section 49 of the Building Act 1984” rhodder “a registered building control approver within the meaning of section 58N of the Building Act 1984”.
Diwygio Rheoliadau 20125
Yn rheoliad 32(1)(c)13 o Reoliadau 2012 yn lle “an approved inspector for the purposes of the inspector’s” rhodder “a registered building control approver for the purposes of the approver’s”.
Darpariaeth drosiannol6
Nid yw’r diwygiadau yn rheoliadau 3, 4(3) a 5 yn gymwys i berson sydd, yn rhinwedd rheoliad 4 o Reoliadau Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Cychwyn Rhif 4, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru) 202414, yn parhau mewn swydd arolygydd cymeradwy ar neu ar ôl 6 Ebrill 2024.
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2022 wedi eu dwyn i rym o ran Cymru drwy reoliadau cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Rheoliadau hyn.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
Adran 2(2) ac Atodlen 1 | 28 Mehefin 2022 | |
Adran 31 (yn rhannol) | 9 Rhagfyr 2022 | |
Adran 32(1) a 32(4) | 5 Medi 2023 | |
Adran 32(3) (yn rhannol) | 5 Medi 2023 | |
Adran 32(3) (at yr holl ddibenion sy’n weddill) (i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 91ZD yn Neddf Adeiladu 1984 (“Deddf 1984”)) | 6 Ebrill 2024 | |
Adran 33 (yn rhannol) | 6 Ebrill 2023 | |
Adran 33 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 5 Medi 2023 | |
Adran 34 | 5 Medi 2023 | |
Adran 35 | 5 Medi 2023 | |
Adran 36 (yn rhannol) | 5 Medi 2023 | |
Adran 37 (yn rhannol) | 5 Medi 2023 | |
Adran 38 (yn rhannol) | 5 Medi 2023 | |
Adran 39 (yn rhannol) | 5 Medi 2023 | |
Adran 40 | 6 Ebrill 2024 | |
Adran 41 | 5 Medi 2023 | |
Adran 42 (yn rhannol) | 5 Medi 2023 | |
Adran 42 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2024 | |
Adran 42 (i’r graddau y mae’n ymwneud â mewnosod adran 58Z2 yn Neddf 1984) | 6 Ebrill 2024 | |
Adran 42 (at yr holl ddibenion sy’n weddill, ac eithrio i’r graddau y mae’n ymwneud ag adrannau 58Z7 a 58Z10 o Ddeddf 1984 a mewnosod adran 58Z2 yn Neddf 1984) | 6 Ebrill 2024 | |
Adran 43 | 6 Ebrill 2024 | |
Adran 44 (yn rhannol) | 5 Medi 2023 | |
Adran 44 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 6 Ebrill 2024 | |
Adran 46 (yn rhannol) | 5 Medi 2023 | |
Adran 46 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 6 Ebrill 2024 | |
Adran 47 | 5 Medi 2023 | |
Adran 48 | 28 Gorffennaf 2022 | |
Adran 49 (yn rhannol) | 5 Medi 2023 | |
Adran 50 (yn rhannol) | 5 Medi 2023 | |
Adran 50 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 6 Ebrill 2024 | |
Adran 51 (yn rhannol) | 5 Medi 2023 | |
Adran 51 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 6 Ebrill 2024 | |
Adran 52 (yn rhannol) | 5 Medi 2023 | |
Adran 52 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 6 Ebrill 2024 | |
Adran 53(2) a (3)(a)(ii) a (iii) a (3)(b) | 6 Ebrill 2024 | |
Adran 55 | 9 Rhagfyr 2022 | |
Adran 56 | 5 Medi 2023 | |
Adran 57 | 5 Medi 2023 | |
Adrannau 130 a 131 | 28 Mehefin 2022 | |
Adran 132 (yn rhannol) | 28 Mai 2022 | |
Adran 132 (at yr holl ddibenion sy’n weddill) | 28 Mehefin 2022 | |
Adran 156 ac eithrio is-adran (4) (ac is-adran (8) i’r graddau y mae’n ymwneud ag erthygl 22B o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005) | 1 Hydref 2023 | |
Atodlen 4 | 6 Ebrill 2024 | |
Atodlen 5, paragraffau 1, 77 (yn rhannol), 78 ac 81 (yn rhannol) | 9 Rhagfyr 2022 | |
Atodlen 5, paragraffau 2, 3, 4(1) a 4(2), 5(1) a 5(2), 6, 9, 10, 11(1), 11(2) ac 11(3), 12(1) a 12(2), 13(1), 13(2), 13(5) a 13(6), 14(1), 14(2), 14(3)(b) a 14(4)(b), 15(1) i 15(5) a 15(9), 16, 17, 22(1) a 22(8), 40(1) a 40(3), 42(1) a 42(3), 46(1) a 46(2), 50, 51, 53, 55(1), 55(4)(a) a 55(6), 57(1) a 57(3), 67, 71, 74(1) a 74(2), 75, 76(1) ac 76(3), 80 (yn rhannol), 81 (yn rhannol), 82, 83(1), 83(2), 83(3) (yn rhannol), 83(7), 83(8) a 83(9), 84(1) a 84(3) | 5 Medi 2023 | |
Atodlen 5, paragraff 56 | 6 Ebrill 2024 | |
Atodlen 5 (ac eithrio’r paragraffau a restrir yn yr Atodlen i O.S. 2024/207 ac yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 170(4)(b)(viii)(A) a (B) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022) | 6 Ebrill 2024 | |
Atodlen 6, paragraff 30 (yn rhannol) | 5 Medi 2023 | |
Atodlen 6 (at yr holl ddibenion sy’n weddill, yn ddarostyngedig i’r eithriadau yn adran 170(4)(b)(ix) o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022) | 6 Ebrill 2024 |