xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Diwygiadau i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013

6.  Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr)—

(a)ym mharagraff 16—

(i)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(1A) Unrhyw daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad.;

(ii)yn is-baragraff (2), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(iii)yn is-baragraff (3), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(iv)yn is-baragraff (5), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(v)yn is-baragraff (6), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(vi)ar ôl is-baragraff (6) mewnosoder—

(6A) Unrhyw daliad allan o ystad person, sy’n deillio o daliad i fodloni argymhelliad yr Ymchwiliad i Waed Heintiedig yn ei adroddiad interim a gyhoeddwyd ar 29 Gorffennaf 2022(1) a wneir o dan neu gan Gynllun Cymorth Gwaed Heintiedig yr Alban neu gynllun gwaed cymeradwy i ystad y person, pan wneir y taliad i fab, merch, llysfab neu lysferch y person.;

(vii)yn is-baragraff (7), ar ôl “Ymddiriedolaethau” mewnosoder “neu o daliad digollediad Swyddfa’r Post neu daliad niwed drwy frechiad”;

(b)ym mharagraff 28C—

(i)daw’r testun presennol yn is-baragraff (1);

(ii)ar ôl is-baragraff (1) mewnosoder—

(2) Pan fo taliad cymorth profedigaeth o dan adran 30 o Ddeddf Pensiynau 2014(2) yn cael ei dalu i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn ystyr adran 30(6B)(3) o’r Ddeddf honno) mewn cysylltiad â marwolaeth sy’n digwydd cyn 9 Chwefror 2023, unrhyw swm o’r taliad hwnnw—

(a)sydd mewn cysylltiad â’r gyfradd a bennir yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Taliad Cymorth Profedigaeth 2017(4), a

(b)a delir fel cyfandaliad am fwy nag un ailddigwyddiad misol o’r diwrnod o’r mis y bu farw ei bartner a oedd yn cyd-fyw,

ond am gyfnod o 52 o wythnosau yn unig gan ddechrau o 1 Ebrill 2024 neu o ddyddiad cael y taliad, pa un bynnag sydd ddiweddaraf.;

(c)ar ôl paragraff 28E mewnosoder—

28F.  Unrhyw daliad o lwfans rhiant gweddw a wneir o dan adran 39A o DCBNC(5)

(a)i oroeswr partneriaeth cyd-fyw (o fewn yr ystyr a roddir i “cohabiting partnership” yn adran 39A(7) o’r Ddeddf honno) sydd â hawl i gael lwfans rhiant gweddw am gyfnod cyn 9 Chwefror 2023, a

(b)mewn cysylltiad ag unrhyw gyfnod o amser yn ystod y cyfnod sy’n dod i ben â’r diwrnod cyn i’r goroeswr wneud hawliad am lwfans rhiant gweddw.

(1)

Gweler https://www.infectedbloodinquiry.org.uk/reports/first-interim-report. Gellir cael copi caled oddi wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau yn: The Department for Work and Pensions, Caxton House, Tothill Street, London SW1H 9NA.

(2)

2014 p. 19. Mae adran 30 wedi ei diwygio gan O.S. 2023/134.

(3)

Mewnosodwyd is-adran (6B) gan O.S. 2023/134.

(5)

1992 p. 4. Mewnosodwyd adran 39A gan adran 55(2) o Ddeddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30). Fe’i diwygiwyd wedi hynny gan adrannau 254(1) a 261(4) o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p. 33), a pharagraff 20 o Atodlen 24, ac Atodlen 30 iddi; adran 1(3) o Ddeddf Budd-dal Plant 2005 (p. 6), a pharagraff 3 o Atodlen 1 iddi; adran 51 o Ddeddf Diwygio Lles 2007 (p. 5); adran 31(5) o Ddeddf Pensiynau 2014, a pharagraff 12 o Atodlen 16 iddi; O.S. 2014/560; O.S. 2014/3229, O.S. 2019/1458 ac O.S. 2023/134. Mae diwygiadau eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r offeryn hwn.