RHAN 5Diwygiadau i Reoliadau 2015

Diwygiadau i Reoliadau 2015

11.  Ar ôl rheoliad 19 o Reoliadau 2015, mewnosoder—

Y Cyngor i adolygu rhestr o gymwysterau penodedig

19ZA.  Rhaid i’r Cyngor adolygu’r rhestr o gymwysterau penodedig ac adrodd i Weinidogion Cymru yn flynyddol ar unrhyw ddiwygiadau y mae’n ystyried y gallant fod yn ofynnol.