RHAN 1Cyffredinol
Enwi a dod i rym1
1
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024.
2
Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 10 Mai 2024.
Dehongli2
Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “addysg bellach” (“further education”) yw addysg (heblaw addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau sydd dros yr oedran ysgol gorfodol;
ystyr “addysg uwch (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 19886;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “Comisiwn” (“Commission”) yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 20227;
ystyr “Cyngor” (“Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg, sef y corff corfforedig a ailenwyd gan adran 2 o Ddeddf 2014;
ystyr “darparwr dysgu oedolion cymunedol” (“community-based adult learning provider”) yw darparwr (heblaw ysgol, sefydliad addysg bellach neu sefydliad addysg uwch) addysg bellach a hyfforddiant ar gyfer oedolion sy’n seiliedig yn y gymuned ac sydd wedi ei ariannu neu ei ddarparu fel arall gan awdurdod lleol, y Comisiwn neu Weinidogion Cymru;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Hawliau Cyflogaeth 19968;
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 20149;
ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;
ystyr “pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach” (“principal or senior leader in further education”) yw person sy’n ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru;
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 201510;
ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 201711;
ystyr “Rheoliadau 2023” (“the 2023 Regulations”) yw Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 202312;
mae i “sefydliad addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education institution” yn adran 140 o Ddeddf Addysg 200213;
ystyr “sefydliad addysg uwch” (“higher education institution”) yw sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 199214;
ystyr “ymarferydd dysgu oedolion” (“adult learning practitioner”) yw person sy’n darparu addysg bellach a hyfforddiant i oedolion ar gyfer neu ar ran darparwr dysgu oedolion cymunedol;
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru neu ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.
RHAN 2Penaethiaid ac uwch-arweinwyr mewn addysg
Y gofyniad i fod yn gofrestredig: penaethiaid ac uwch-arweinwyr mewn addysg bellach3
Ni chaiff person ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn nac ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru oni bai bod y person wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yng nghategori pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach.
RHAN 3Ymarferwyr dysgu oedolion
Y gofynion er mwyn gweithio fel ymarferydd dysgu oedolion4
1
Ni chaiff person weithio fel ymarferydd dysgu oedolion ar gyfer nac ar ran unrhyw ddarparwr dysgu oedolion cymunedol oni bai—
a
bod yr amodau ym mharagraffau (2) a (3) wedi eu bodloni, neu
b
bod paragraff (4) yn gymwys.
2
Yr amod cyntaf yw bod rhaid i’r person fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori ymarferydd dysgu oedolion.
3
Yr ail amod yw bod rhaid—
a
bod gan y person o leiaf un o’r cymwysterau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen, neu
b
i’r person ddiwallu’r gofyniad arall a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen.
4
Caiff person sy’n cydymffurfio â’r amod cyntaf ond nad yw’n cydymffurfio â’r ail amod, os yw’n gweithio tuag at gymhwyster a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen, weithio fel ymarferydd dysgu oedolion am gyfnod nad yw’n hwy na—
a
3 blynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n llawnamser, neu
b
5 mlynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n rhan-amser.
5
Wrth gyfrifo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff 4(a) a (b), mae unrhyw gyfnod o absenoldeb o’r gwaith i gael ei ddiystyru os yw’n codi—
a
wrth i berson arfer—
i
ei hawl i absenoldeb mamolaeth a roddir gan adran 71 neu 73 o Ddeddf 199615 neu gontract cyflogaeth a phan fydd gan y person hwnnw yr hawl i ddychwelyd i’r gwaith yn rhinwedd y naill neu’r llall o’r adrannau hyn neu gontract cyflogaeth;
ii
ei hawl i absenoldeb rhiant a roddir gan adran 76 o Ddeddf 199616;
iii
ei hawl i absenoldeb tadolaeth a roddir gan adran 80A neu 80B o Ddeddf 199617;
iv
ei hawl i absenoldeb mabwysiadu a roddir gan adran 75A neu 75B o Ddeddf 199618;
v
ei hawl i absenoldeb rhiant a rennir a roddir gan adran 75E neu 75G o Ddeddf 199619; neu
vi
ei hawl i absenoldeb profedigaeth rhiant a roddir gan adran 80EA o Ddeddf 199620; neu
b
oherwydd beichiogrwydd.
Y Cyngor i adolygu’r rhestr o gymwysterau ymarferwyr dysgu oedolion5
Rhaid i’r Cyngor adolygu’r rhestr o gymwysterau a bennir yn Rhan 1 o’r Atodlen ac adrodd i Weinidogion Cymru yn flynyddol ar unrhyw ddiwygiadau y mae’n ystyried y gallant fod yn ofynnol.
RHAN 4Diwygiadau i Ddeddf 2014
Diwygiadau i Atodlen 2 i Ddeddf 20146
1
Mae Atodlen 2 (categorïau cofrestru) i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Nhabl 1 ym mharagraff 1, ar ôl y cofnod ar gyfer “Gweithiwr cymorth dysgu mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol” mewnosoder—
Categori | Disgrifiad |
---|---|
“Ymarferydd dysgu oedolion | Person sy’n darparu (neu sy’n dymuno darparu) addysg bellach a hyfforddiant i oedolion ar gyfer neu ar ran darparwr dysgu oedolion cymunedol. |
Pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach | Person sy’n ymgymryd (neu sy’n dymuno ymgymryd) â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru.” |
3
Ym mharagraff 3, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—
ystyr “addysg bellach” (“further education”) yw addysg (heblaw addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau dros yr oedran ysgol gorfodol;
ystyr “addysg uwch” (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 198821;
ystyr “darparwr dysgu oedolion cymunedol” (“community-based adult learning provider”) yw darparwr (heblaw ysgol, sefydliad addysg bellach neu sefydliad addysg uwch) addysg bellach a hyfforddiant ar gyfer oedolion sy’n seiliedig yn y gymuned ac sydd wedi ei ariannu neu ei ddarparu fel arall gan awdurdod lleol, y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil22 neu Weinidogion Cymru;
ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;
ystyr “sefydliad addysg uwch” (“higher education institution”) yw sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 199223;
Diwygiadau i Atodlen 4 i Ddeddf 20147
1
Mae Atodlen 4 (mynegai o eiriau ac ymadroddion wedi eu diffinio) i Ddeddf 2014 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2
Yn Nhabl 3, yn y lleoedd priodol, mewnosoder—
Gair neu ymadrodd | Gair neu ymadrodd yn y Saesneg | Darpariaeth berthnasol |
---|---|---|
“Addysg bellach | Further education | Atodlen 2” |
“Addysg uwch | Higher education | Atodlen 2” |
“Darparwr dysgu oedolion cymunedol | Community-based adult learning provider | Atodlen 2” |
“Oedolyn | Adult | Atodlen 2” |
“Pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach | Principal or senior leader in further education | Atodlen 2” |
“Sefydliad addysg uwch | Higher education institution | Atodlen 2” |
“Ymarferydd dysgu oedolion | Adult learning practitioner | Atodlen 2” |
RHAN 5Diwygiadau i Reoliadau 2015
Diwygiadau i Reoliadau 2015
8
Mae Rheoliadau 2015 wedi eu diwygio yn unol ag erthyglau 9 i 12.
9
Yn lle’r pennawd i Ran 4 (Y gofyniad i fod yn gofrestredig: athrawon addysg bellach), rhodder “Y gofynion sy’n ymwneud ag athrawon addysg bellach)”.
10
1
Mae rheoliad 19 o Reoliadau 2015 wedi ei ddiwygio yn unol â pharagraffau (2) i (6).
2
Yn lle’r pennawd, rhodder “Y gofynion sy’n ymwneud ag athrawon addysg bellach”.
3
Yn lle paragraff (1), rhodder—
1A
Ni chaiff person ddarparu addysg mewn nac ar gyfer sefydliad addysg bellach oni bai—
a
bod yr amodau ym mharagraffau (1B) ac (1C) wedi eu bodloni, neu
b
bod paragraff (1D) yn gymwys.
1B
Yr amod cyntaf yw bod rhaid i’r person fod wedi ei gofrestru o dan adran 9 o Ddeddf 2014 (cofrestr a gynhelir gan y Cyngor) yn y categori athro neu athrawes addysg bellach.
1C
Yr ail amod yw bod rhaid—
a
bod gan y person o leiaf un o’r cymwysterau penodedig, neu
b
i’r person ddiwallu’r gofyniad arall a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 6.
1D
Caiff person sy’n cydymffurfio â’r amod cyntaf ond nad yw’n cydymffurfio â’r ail amod, os yw’n gweithio tuag at gymhwyster penodedig, weithio fel athro neu athrawes addysg bellach am gyfnod nad yw’n hwy na—
a
3 blynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n llawnamser, neu
b
5 mlynedd o’r dyddiad y dechreuodd weithio tuag at y cymhwyster pan fo’r person wedi ei gyflogi’n rhan-amser.”
1E
Wrth gyfrifo’r cyfnodau a bennir ym mharagraff 1D(a) a (b), mae unrhyw gyfnod o absenoldeb o’r gwaith i gael ei ddiystyru os yw’n codi—
a
wrth i berson arfer—
i
ei hawl i absenoldeb mamolaeth a roddir gan adran 71 neu 73 o Ddeddf 199624 neu gontract cyflogaeth a phan fydd gan y person hwnnw yr hawl i ddychwelyd i’r gwaith yn rhinwedd y naill neu’r llall o’r adrannau hyn neu gontract cyflogaeth;
ii
ei hawl i absenoldeb rhiant a roddir gan adran 76 o Ddeddf 199625;
iii
ei hawl i absenoldeb tadolaeth a roddir gan adran 80A neu 80B o Ddeddf 199626;
iv
ei hawl i absenoldeb mabwysiadu a roddir gan adran 75A neu 75B o Ddeddf 199627;
v
ei hawl i absenoldeb rhiant a rennir a roddir gan adran 75E neu 75G o Ddeddf 199628; neu
vi
ei hawl i absenoldeb profedigaeth rhiant a roddir gan adran 80EA o Ddeddf 199629; neu
b
oherwydd beichiogrwydd.
4
Ym mharagraff (2)—
a
ar ddiwedd is-baragraff (c) hepgorer “neu”;
b
ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—
e
yn gweithredu fel gwirfoddolwr; neu
f
yn darparu ar sail dros dro neu achlysurol hyfforddiant mewn perthynas â phroffesiwn a phan fo’r person yn dal y cymwysterau neu’r profiad sy’n angenrheidiol er mwyn ymarfer y proffesiwn hwnnw.
5
Ar ôl paragraff (2), mewnosoder yr hyn a ganlyn—
3
At ddibenion y rheoliad hwn a rheoliad 19ZA, ystyr cymhwyster penodedig yw cymhwyster a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 6.
11
Ar ôl rheoliad 19 o Reoliadau 2015, mewnosoder—
Y Cyngor i adolygu rhestr o gymwysterau penodedig19ZA
Rhaid i’r Cyngor adolygu’r rhestr o gymwysterau penodedig ac adrodd i Weinidogion Cymru yn flynyddol ar unrhyw ddiwygiadau y mae’n ystyried y gallant fod yn ofynnol.
12
Ar ôl Atodlen 5 i Reoliadau 2015 mewnosoder—
ATODLEN 6Athrawon addysg bellach
RHAN 1Cymwysterau
1
Tabl 1: Cymru
Cymwysterau o ran Cymru
Corff dyfarnu
Addysg (Cymru) (MA)
Coleg Prifysgol Dewi Sant
Coleg Prifysgol y Drindod
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Abertawe
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Prifysgol Morgannwg
Addysg (Doethur mewn Addysg)
Prifysgol Bangor
Prifysgol Cymru, Bangor
Addysg (MA)
Coleg Prifysgol Dewi Sant
Y Brifysgol Agored
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Bangor
Prifysgol Cymru, Abertawe
Prifysgol Cymru, Bangor
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Prifysgol Glyndŵr
Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam
Prifysgol Morgannwg
Prifysgol Wrecsam
Addysg (MPhil)
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Bangor
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Bangor
Addysg (PhD)
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a Drama a Theatr (BA)
Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a Hanes (BA)
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a Llenyddiaeth Saesneg (BA)
Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a Mathemateg (BA)
Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg gyda Mathemateg (BSc)
Prifysgol Aberystwyth Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a Sbaeneg (BA)
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a Seicoleg (BSc)
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Abertawe
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Addysg a’r Gymraeg (BA)
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Caerdydd
Addysg gyda Seicoleg ac Anghenion Addysgol Arbennig (BSc)
Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Addysg Cenedlaethol (Cymru) (MA)
Prifysgol Bangor
Prifysgol Cymru, Bangor
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MA)
Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
Coleg Prifysgol Dewi Sant
Coleg Prifysgol y Drindod
Prifysgol Abertawe Prifysgol Cymru, Abertawe
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prifysgol Morgannwg
Astudiaethau Addysg (BA)
Coleg Prifysgol Dewi Sant
Coleg Prifysgol y Drindod
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Cymru, Abertawe
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Caerdydd
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Prifysgol Glyndŵr
Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam
Prifysgol Morgannwg
Prifysgol Wrecsam
Astudiaethau Addysg (BSc)
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Cymru, Caerdydd
Astudiaethau Addysg (MSc)
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Cymru, Caerdydd
Astudiaethau Addysg (Diploma Ôl-raddedig – PGDip)
Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Astudiaethau Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiant (BA)
Coleg Prifysgol Dewi Sant
Coleg Prifysgol y Drindod
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Astudiaethau Proffesiynol mewn Addysg (PgDip)
Y Brifysgol Agored
Cymdeithaseg ac Addysg (BSc)
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Cymru, Caerdydd
Daearyddiaeth Ffisegol ac Addysg (BA)
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Diploma mewn Addysg a Hyfforddiant
AIM Qualifications
AoFA Qualifications
Ascentis
AQA
City & Guilds of London Institute
Gateway Qualifications
iCan Qualifications Ltd
NCFE
National Open College Network Pearson Education Ltd
Qualsafe Awards
Skills and Education Group Awards
SFJ Awards
Training
Qualifications UK
Vocational Training Charitable Trust
Diploma mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes
City & Guilds of London Institute
Oxford, Cambridge and RSA Examinations
Dysgu ac Addysgu (Addysg Uwch) (PGCert)
Prifysgol Glyndŵr
Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam
Prifysgol Wrecsam
Hanes ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA)
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (BA)
Prifysgol Bangor
Prifysgol Cymru, Bangor
Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA)
Prifysgol Abertawe Prifysgol Cymru, Abertawe
Ieithoedd Modern ac Addysg (BA)
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Cymru, Abertawe
Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA)
Prifysgol Abertawe Prifysgol Cymru, Abertawe
Seicoleg ac Addysg (BSc)
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Mathemateg ac Addysg (BSc)
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Mathemateg gydag Addysg (BSc)
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Tystysgrif Addysg
AQA
Y Brifysgol Agored
City & Guilds of London Institute
Prifysgol Bangor
Prifysgol Cymru, Bangor TEC Partnership
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PGCE)
Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
Coleg Prifysgol Dewi Sant
Coleg Prifysgol y Drindod
Prifysgol Bangor
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Cymru, Bangor
Prifysgol Cymru, Caerdydd
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prifysgol Morgannwg
Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg, mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PCE)
Coleg Gwent
Coleg Prifysgol Dewi Sant
Coleg Prifysgol y Drindod
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Morgannwg
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg, mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PGCE)
Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
Coleg Prifysgol Dewi Sant
Coleg Prifysgol y Drindod
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Caerdydd
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prifysgol Morgannwg
Prifysgol Wrecsam
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg Uwch (PGCertHE)
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PGCE) gyda QTS
Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd
Y Brifysgol Agored
Coleg Prifysgol Dewi Sant
Coleg Prifysgol y Drindod
Prifysgol Abertawe
Prifysgol Aberystwyth
Prifysgol Bangor
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Cymru, Abertawe
Prifysgol Cymru, Aberystwyth
Prifysgol Cymru, Bangor
Prifysgol Cymru, Caerdydd
Prifysgol Cymru, Casnewydd
Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan
Prifysgol De Cymru
Prifysgol Fetropolitan Abertawe
Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Prifysgol Morgannwg
2
Tabl 2: Lloegr
Cymwysterau o ran Lloegr
Corff dyfarnu
Addysg – Arweinyddiaeth a Rheolaeth (MA)
Bath Spa University
Addysg (EdD Doethur mewn Addysg)
Birmingham City University
Canterbury Christ Church University
Edge Hill University
Kingston University
Liverpool John Moores University
London South Bank University
Oxford Brookes University
Sheffield University
Staffordshire University
University of Bath
University of Brighton
University of Buckingham
University of Chester
University of Derby
University of East London
University of Gloucestershire
University of Hertfordshire
University of Huddersfield
University of Nottingham
University of Warwick
Addysg (MEd)
Northumbria University, Newcastle
University of Leicester
Addysg (MPhil)
UCL (University College London)
University of Cambridge
Newcastle University
University of Worcester
Addysg (Persbectifau Cymharol a Rhyngwladol) (MA)
University of Birmingham
Addysg (PhD)
Birmingham City University
Goldsmiths, University of London
Keele University
University of Bath
University of Birmingham
University of Bristol
University of Cambridge
University of East London
University of Exeter
University of Gloucestershire
University of Huddersfield
University of Lincoln
University of Manchester
University of Nottingham
University of Oxford
University of Sussex
University of Warwick
University of York
Addysg a Blynyddoedd Cynnar (BA)
Sheffield Hallam University
Addysg a Choreeg (BA)
University of Central Lancashire
Addysg a Chrefydd (BA)
Edge Hill University
Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol (MA)
University of Bedfordshire
Lancaster University
Addysg a Chyfiawnder Cymdeithasol (MSc)
Birkbeck University, London
University of York
Addysg a Chymdeithaseg (BA)
Bishop Grosseteste University
Edge Hill University
Goldsmiths, University of London
Keele University
Oxford Brookes University
University of Bedfordshire
University of Birmingham
University of Central Lancashire
University of Gloucestershire
University of Worcester
Addysg a Datblygiad (BA)
University of Worcester
Addysg a Datblygiad (MA)
University of East Anglia
Addysg a Datblygu Cynaliadwy Byd-eang (BA)
University of Warwick
Addysg a Datblygu Rhyngwladol (MA)
UCL (University College London)
Addysg a Datblygu Rhyngwladol (PhD)
Addysg a Diwinyddiaeth, Athroniaeth a Moeseg (BA)
Bishop Grosseteste University
Addysg a Dysgu (BA)
University of Bolton
Addysg a Dysgu Gydol Oes (BA)
Oxford Brookes University
Addysg a Ffrangeg (BA)
University of Central Lancashire
Addysg a Hanes (BA)
Bishop Grosseteste University
Keele University
University of Central Lancashire
Addysg a Japaneeg (BA)
University of Central Lancashire
Addysg a Llenyddiaeth (BA)
Liverpool Hope University
Addysg a Llenyddiaeth Saesneg (BA)
Keele University
University of Winchester
University of Worcester
Addysg a Mandarin (BA)
De Montfort University
Addysg a Mathemateg (BSc)
Edge Hill University
Addysg a Phlentyndod Cynnar (BA)
University of Winchester
Addysg a Rwsieg (BA)
University of Central Lancashire
Addysg a Saesneg (BA)
Bishop Grosseteste University
University of Bedfordshire
University of Central Lancashire
University of Derby University of Worcester
Addysg ac Anghenion Addysgol Arbennig (BA)
Liverpool Hope University
Liverpool John Moores University
University of Winchester
Addysg ac Anghenion Addysgol Arbennig, Anabledd a Chynhwysiant (SENDI) (BA)
Bishop Grosseteste University
Addysg ac Astudiaethau Crefyddol (BA)
Liverpool Hope University
Addysg ac Astudiaethau Ieuenctid (BA)
University of Roehampton
University of Winchester
Addysg ac Athroniaeth (BA)
Keele University
Addysg ac Ymarfer Proffesiynol (BA)
Bath Spa University
Bristol University
University of the West of England
Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy (MA)
University of Manchester
Addysg ar gyfer Dinasyddiaeth Ddemocrataidd a Hawliau Dynol (MA)
Leeds Beckett University
Addysg Barhaus (PhD)
University of Oxford
Addysg Bellach a Sgiliau (PGDip)
Edge Hill University
Addysg Ddigidol (MA)
University of Leeds
Addysg Fyd-eang ac Arweinyddiaeth (MA)
University of Bolton
Addysg gyda Seicoleg (BA)
DE Montfort University
Nottingham Trent University
University of Bath
University of Bedfordshire
University of Central Lancashire
University of Durham
University of Lincoln
University of Southampton
University of Worcester
Addysg gyda Seicoleg a Chwnsela (BA)
Sheffield Hallam University
Addysg gyda TESOL neu SEND (BA)
University of Derby
Addysg gyda TESOL (MA)
Keele University
Bishop Grosseteste University
Addysg Gymdeithasol a Chynhwysol (MA)
University of Nottingham
Addysg Gynhwysol (MA)
Bath Spa University
University of Bolton
University of Gloucestershire
Addysg Oedolion a Dysgu Gydol Oes (PhD)
University of Warwick
Addysg Ryngwladol (MA)
Keele University
University of Bedfordshire
University of Exeter
University of Sunderland
Addysg Ryngwladol (MSc)
University of Leicester
University of Manchester
Addysg Ryngwladol a Datblygu (PhD)
University of Sussex
Addysg STEM (MA)
Kings College London, University of London
Addysg Uwch (PhD)
University of Kent
Lancaster University
Addysg Uwch a Phroffesiynol (PGCert)
Staffordshire University
Addysg, Anghenion Arbennig, ac Anabledd (BA)
University of Chichester
Addysg, Arweinyddiaeth a Diwylliant (BA)
University of Manchester
Addysg, Athroniaeth a Chrefydd (BA)
University of Central Lancashire
Addysg, Cymdeithas a Diwylliant (BA)
University College London
Addysg, Cymdeithas a Phlentyndod (BA)
Bath Spa University
Addysg, Cynhwysiant ac Anghenion Addysgol Arbennig (BA)
University of Gloucestershire
Addysg, Diwylliant a Phlentyndod (BA)
University of Sheffield
Addysg, Iechyd Meddwl a SEND (BA)
Leeds Trinity University
York St John University
Addysg, Plentyndod a Diwylliant (BA)
University of East Anglia (UEA)
Addysg, Plentyndod ac Ieuenctid (BA)
University of Wolverhampton
Addysg, Polisi a Chymdeithas
Kings College London, University of London
Addysg, Ymarfer a Chymdeithas (EdD)
UCL (University College London)
Addysg, Ymarfer a Chymdeithas (MPhil)
UCL (University College London)
Addysgu Iaith Saesneg (ELT) (MA)
De Montfort University
Edge Hill University
London Metropolitan University
Queen Mary University of London
University of Huddersfield
Addysgu Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth Gymhwysol (PhD)
University of Warwick
Addysgu Saesneg a TESOL (MSc)
University of Southampton
Addysgu Saesneg fel Iaith Ychwanegol (EAL) (MA)
Leeds Beckett University
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (PhD)
University of York
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MA)
Aston University, Birmingham
Bath Spa University
Canterbury Christchurch University
Edge Hill University
King’s College London
Lancaster University
Leeds Beckett University
Nottingham Trent University
Sheffield Hallam University
Teesside University
University College London
University of Birmingham
University of Central Lancaster
University of Chester
University of East Anglia
University of Essex
University of Hertfordshire
University of Huddersfield
University of Hull
University of Kent
University of London
University of Leeds
University of Leicester
University of Liverpool
University of Northampton
University of Nottingham
University of Reading
University of Southampton
University of Sunderland
University of Westminster
University of Warwick
University of York
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL)(MSc)
University of Bath
University of Bristol
Addysgwr Ymarfer (PGCert)
University of Hull
Almaeneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA)
University of Central Lancashire
Astudiaethau Addysg (BA)
Bath Spa University
Birmingham City University
Bishop Grosseteste University
Brunel University London
Canterbury Christ Church University
De Montfort University
Edge Hill University
Goldsmiths University of London
Keele University
Lancaster University
Leeds Beckett University
Liverpool Hope University
London Metropolitan University
London South Bank University
Manchester Metropolitan University
Middlesex University
Newcastle University
Nottingham Trent University
Oxford Brookes University
Solent University (Southampton)
University of Bedfordshire
University of Birmingham
University of Brighton
University of Cambridge
University of Central Lancashire
University of Chester University of Chichester
University of Cumbria
University of Durham
University of East Anglia
University of East London
University of Gloucestershire
University of Greenwich
University of Hertfordshire
University of Huddersfield
University of Hull
University of Leeds
University of Lincoln
University of Nottingham
University of Plymouth
University of Reading
University of West England, Bristol
University of West London
University of Winchester
University of Wolverhampton
University of Worcester
University of York
Astudiaethau Addysg (BSc)
University of Bristol
University of Central Lancashire
Astudiaethau Addysg (MA)
Anglia Ruskin University
Birmingham City University
Birmingham Newman University
Bishop Grosseteste University
Brunel University
Burnley College
Canterbury Christ Church University
De Montfort University
Edge Hill University
Keele University
Kings College London
Leeds Beckett University
Leeds Trinity University
Liverpool Hope
University
Liverpool John Moores University
London Metropolitan University
Middlesex University
Newcastle University
Northumbria University
Nottingham Trent University
University of Nottingham
Open University
Oxford Brookes University
Plymouth Margon University
Sheffield Hallam University
Staffordshire University
Teesside University
University Campus Oldham
UCL (University College London)
University of Bath
University of Bedfordshire
University of Birmingham
University of Bolton
University of Brighton
University of Buckingham
University of Chester
University of Derby
University of Durham
University of East Anglia
University of East London
University of Exeter
University of Gloucestershire
University of Greenwich
University of Hertfordshire
University of Huddersfield
University of Hull
University of London
University of Leeds
University of Lincoln
University of Northampton University of Plymouth
University of Portsmouth
University of Reading
University of Roehampton
University of Sheffield
University of Sunderland
University of Sussex
University of Warwick
University of Winchester
University of Wolverhampton
University of Worcester
University of York
Astudiaethau Addysg (MSc)
University of Bristol
University of Oxford
University of Southampton
Astudiaethau Addysg (PGDip)
University of Chester
University of Suffolk
Astudiaethau Addysg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA)
Bishop Grosseteste University
University of Central Lancashire
University of Wolverhampton
Astudiaethau Addysg gyda Daearyddiaeth (BA)
University of Durham
Astudiaethau Addysg Uwch (MA)
UCL (University College London)
University of Huddersfield
University of Kent
University of Sunderland
Coreeg gydag Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA)
University of Central Lancashire
Cyfathrebu Rhyngddiwylliannol ac Addysg (MA)
University of Exeter
Datblygu Byd-eang ac Addysg (MA)
University of Leeds
Datblygu Rhyngwladol ac Addysg (MA)
Newcastle University
Diploma Lefel 7 mewn Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill
Cambridge English Trinity College London
Diploma mewn Addysg a Hyfforddiant
AQA
City & Guilds of London Institute
Pearson Education Ltd
Training Qualifications UK
Diploma mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes
City & Guilds of London Institute
Oxford,
Cambridge and
RSA Examinations
Diploma Ôl-raddedig (PgDip) mewn Addysg (PGCE Uwch mewn Dysgu Gydol Oes)
University of Huddersfield
Dysgu ac Addysgu (Addysg Uwch) (PGCert)
Anglia Ruskin University Kingston University
Ffrangeg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA)
Manchester Metropolitan University
University of Central Lancashire
Ffrangeg gydag Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA)
Sheffield Hallam University
Hanes gydag Addysg Uwchradd (QTS) (BA)
University of Wolverhampton
Iaith Saesneg ac Addysgu (BA)
Bishop Grosseteste University
Iaith Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA)
De Montfort University
University of Wolverhampton
Ieithoedd Modern ac Addysgu Saesneg fel Iaith Dramor (BA)
University of Essex
Ieithyddiaeth Gymhwysol a TESOL (PGCert)
Anglia Ruskin University
Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgu Iaith Saesneg (MA)
University of Nottingham
University of Southampton
Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgu Iaith Saesneg (PhD)
University of Nottingham
Ieithyddiaeth Gymhwysol ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MA)
Anglia Ruskin
University
Newcastle University
Northumbria University, Newcastle
University of Leicester
University of Liverpool
University of Plymouth
Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Addysgu Iaith (MA)
University of York
Japaneeg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA)
University of Central Lancashire
Llenyddiaeth Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA)
Bishop Grosseteste University
University of Central Lancashire
Mathemateg gydag Addysg Uwchradd (QTS) (BA)
University of Wolverhampton
Saesneg – Addysgu Dysgwyr Amlieithog (PGCert)
Oxford Brookes University
Saesneg ac Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA)
Manchester Metropolitan University
Saesneg gydag Addysg Uwchradd (QTS) (BA)
University of Wolverhampton
Seicoleg ac Addysg (MA)
University of Sheffield
SEND ac Addysg Gynhwysol (MA)
University of Roehampton
Tsieineeg gydag Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (BA)
University of Central Lancashire
Tystysgrif Addysg mewn Addysgu yn y Sector Dysgu Gydol Oes
University of Huddersfield
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach (PGCE)
Canterbury Christ Church University University of Brighton University of Exeter University of Greenwich University of Worcester
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach a Hyfforddiant (PGCE)
Canterbury Christ Church University
University of Brighton University of Exeter University of Greenwich
University of Worcester
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Rhyngwladol (PGCE)
University of Nottingham
University of Warwick
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PcET) (PGCE)
Oxford Brookes
University
Staffordshire University
UCL (University College London)
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PGCE)
Birmingham City
University
Burnley College
Canterbury Christchurch University
Edge Hill University
University
King’s College London
Kingston University
Newcastle University
University of Brighton
University of Buckingham
University of Chester
University of Greenwich
University of Hertfordshire
University of Huddersfield University of London University of Manchester University of Oxford University of Reading University of Warwick University of Winchester
University of Worcester
Tystysgrif Ôl-raddedig PGCert mewn Addysg Uwch (PGHE)
Falmouth University Middlesex University
University of Nottingham
Tystysgrif Ôl-raddedig Ryngwladol mewn Addysg
University of Sheffield
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol (PgCE, PrGCE, ProfGCE neu PGCE (Proffesiynol)) mewn Astudiaethau Addysg
De Montfort University
Edge Hill University
University of Greenwich
University of Huddersfield
University of Suffolk TEC Partnership
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (Addysg Ôl-orfodol)
Leeds Trinity University
Ymarfer Addysg Uwch (MA)
University of Hull
Ymarfer Proffesiynol (Addysgu a Dysgu) (MSc)
University of Kent
Ymarfer Proffesiynol mewn Addysg (MA)
University of Hull
3
Tabl 3: Yr Alban
Cymwysterau o ran yr Alban
Corff dyfarnu
Addysg Gynhwysol (MEd)
University of Dundee University of Glasgow
Addysg Iaith (MSc)
University of Edinburgh
Addysg ac Astudiaethau Cwricwlaidd gyda Chymhwyster Addysgu (BSc)
University of Strathclyde
Addysg ar gyfer Dyfodol Cynaliadwy yng Nghyd-destunau Oedolion, y Gymuned ac Ieuenctid (MSc)
University of Glasgow
Addysg a TESOL (BA)
University of Strathclyde
Addysg (BA)
Queen Margaret University, Edinburgh
University of the West of Scotland
Addysg (Doethur mewn Addysg EdD)
University of Dundee
Addysg (MA)
Queen Margaret University, Edinburgh
University of Dundee
Addysg (Meistr mewn Addysg MEd)
University of Dundee
University of Strathclyde
Addysg (MSc)
University of Edinburgh
University of Glasgow
University of Stirling
University of Strathclyde
Addysg (PhD/DPhil)
University of Dundee
University of Edinburgh
Addysg (Uwchradd) (BA)
University of Stirling
Addysg (Uwchradd) (BSc)
University of Stirling
Addysg, Polisi Cyhoeddus a Thegwch (MSc)
University of Glasgow
Addysg Broffesiynol (BA)
University of Stirling
Addysg Broffesiynol (MEd PgCert PGDip)
University of Aberdeen
Addysg Broffesiynol ac Arweinyddiaeth (MA)
University of Stirling
Addysg Broffesiynol ac Uwch (PGCert)
Queen Margaret University, Edinburgh
Addysg Drydyddol ac Uwch (MEd)
University of the Highlands and Islands
Addysg Dylunio a Thechnoleg (MD Tech Ed)
University of Glasgow
Addysg Gyfunol ac Ar-lein (MSc)
Edinburgh Napier University
Addysg Gymunedol (BA)
University of Dundee
Addysg Gymunedol (Phd)
University of Dundee
Addysg Gynhwysol (PGCert)
University of Edinburgh
Addysg Oedolion, Datblygu Cymunedol a Gwaith Ieuenctid (MEd/PgDip)
University of Glasgow
Addysg Ryngwladol (MEd)
University of Dundee
Addysg Ryngwladol (MSc)
University of St Andrews
Addysgeg Ddigidol (MEd)
University of the Highlands and Islands
Addysgu a Dysgu Trawsffurfiol (MSc)
University of Edinburgh, Moray House School of Education and Sport
Addysgu Iaith Saesneg ac Arweinyddiaeth (MA)
University of Stirling
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (MEd)
University of Dundee University of Glasgow
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (MSc)
University of Aberdeen
University of Glasgow
University of St Andrews
University of Stirling
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (MSc PgCert PgDip)
University of Aberdeen
University of Edinburgh
University of St Andrews
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MEd)
University of Dundee
University of Glasgow
Cemeg gydag Addysg (BA)
University of the West of Scotland
Cymhwyster Addysgu ar gyfer Addysg Bellach (PgCert)
University of the Highlands and Islands
Cymhwyster Addysgu ar gyfer Addysg Bellach (BA)
University of Dundee
University of the Highlands and Islands
University of Stirling
Cymhwyster Addysgu ar gyfer Addysg Bellach (PgCert)
University of Aberdeen
Datblygu Cymunedol (BA)
University of Glasgow
DCLD Dysgu a Datblygu Cymunedol (Doethuriaeth Broffesiynol)
University of Dundee
Diploma Graddedig Proffesiynol mewn Addysg –- Uwchradd (PGDE)
University of Aberdeen
University of Edinburgh, Moray House School of Education and Sport
University of Glasgow
University of the Highlands and Islands
University of Strathclyde
Diploma Graddedig Proffesiynol mewn Addysg (Yr Alban) (PGDE)
University of Dundee
University of Glasgow University of Edinburgh
Dysgu mewn Cymunedau (MA)
University of Edinburgh, Moray House School of Education and Sport
Ffiseg gydag Addysg (BSc)
University of the West of Scotland
Gwyddor ac Addysg Dawns (MSc/PgDip)
University of Edinburgh
Mathemateg gydag Addysg (BSc)
University of the West of Scotland
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach (PGCE)
University of the Highlands and Islands
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach a Hyfforddiant (PGCE)
University of the Highlands and Islands
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Rhyngwladol (PGCE)
University of Strathclyde
Ymarfer Uwch mewn Addysg (MSc)
University of Glasgow
4
Tabl 4: Gogledd Iwerddon
Cymwysterau o ran Gogledd Iwerddon
Corff dyfarnu
Addysg (BA)
University of Ulster
Addysg (Meistr mewn Addysg – MEd)
St Mary’s University College Belfast
Stranmillis University College
Addysg gydag arbenigaethau (MEd)
University of Ulster
Addysg – Ôl-gynradd – Astudiaethau Crefyddol (BEd)
Stranmillis University College
Addysg – Ôl-gynradd (BEd)
St Mary’s University College Belfast
Addysg – Ôl-gynradd – Busnes a menter (BEd)
Stranmillis University College
Addysg – Ôl-gynradd – Mathemateg (BEd)
Stranmillis University College
Addysg – Ôl-gynradd – Technoleg a Dylunio (BEd)
Stranmillis University College
Addysg (PhD/DPhil)
Queen’s University Belfast
Addysgu (MTeach)
Stranmillis University College
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (TESOL) (MA)
University of Ulster
Addysgu Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill ac Ieithyddiaeth Gymhwysol (MSc)
Queen’s University Belfast
Astudiaethau Addysg (MEd)
Stranmillis University College
Astudiaethau Crefyddol gydag Addysg (BEd)
Stranmillis University College
Busnes a Menter gydag Addysg (BEd)
Stranmillis University College
Busnes gydag Addysg (BA)
University of Ulster
Cerddoriaeth gydag Addysg (BA)
University of Ulster
Cyfrifiadureg gydag Addysg (BA)
University of Ulster
Daearyddiaeth gydag Addysg (BSc)
University of Ulster
Diploma Ôl-raddedig mewn Addysg Bellach ac Uwch
University of Ulster
Drama gydag Addysg (BA)
University of Ulster
Gwyddeleg gydag Addysg (BA)
University of Ulster
Gwyddor yr Amgylchedd gydag Addysg (BSc)
University of Ulster
Hanes gydag Addysg (BA)
University of Ulster
Newyddiaduraeth gydag Addysg (BA)
University of Ulster
Opsiwn Arbenigwr Llythrennedd AAA (MEd)
Stranmillis University College
Saesneg gydag Addysg (BA)
University of Ulster
Technoleg a Dylunio gydag Addysg (BEd)
Stranmillis University College
Tystysgrif Addysgu
University of Ulster
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PGCE)
Queen’s University Belfast
University of Ulster
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Addysg Bellach (PGCE)
University of Ulster
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Astudiaethau Awtistiaeth (PGCE)
Stranmillis University College
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg – Uwchradd (PGCE)
University of Ulster
Tystysgrif Ôl-raddedig mewn Dysgu Cyfunol a Sgiliau Digidol
Stranmillis University College
Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg
University of Ulster
RHAN 2Gofyniad Arall
5
Mae person yn bodloni’r gofyniad arall os oes gan y person hwnnw, mewn cysylltiad â phroffesiwn athro neu athrawes addysg bellach, hawlogaeth i ymarfer yn unol â Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023.
RHAN 6Diwygiadau i Reoliadau 2017
Diwygiadau i Reoliadau 201713
RHAN 7Diwygiadau i Reoliadau 2023
Diwygiadau i Reoliadau 202314
Yn Atodlen 1 i Reoliadau 2023—
a
ar ddechrau’r rhestr mewnosoder—
A1
Ymarferydd dysgu oedolion
b
ar ôl y cofnod ar gyfer “Archwilydd bwyd” mewnosoder—
3A
Athro neu athrawes addysg bellach