- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor y Gweithlu Addysg (Categorïau Cofrestru Ychwanegol a Chymwysterau Athrawon Addysg Bellach) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 10 Mai 2024.
2. Yn y Gorchymyn hwn—
ystyr “addysg bellach” (“further education”) yw addysg (heblaw addysg uwch) sy’n addas i ofynion personau sydd dros yr oedran ysgol gorfodol;
ystyr “addysg uwch (“higher education”) yw addysg a ddarperir drwy gyfrwng cwrs o unrhyw ddisgrifiad a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988(1);
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
ystyr “Comisiwn” (“Commission”) yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a sefydlwyd o dan adran 1 o Ddeddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022(2);
ystyr “Cyngor” (“Council”) yw Cyngor y Gweithlu Addysg, sef y corff corfforedig a ailenwyd gan adran 2 o Ddeddf 2014;
ystyr “darparwr dysgu oedolion cymunedol” (“community-based adult learning provider”) yw darparwr (heblaw ysgol, sefydliad addysg bellach neu sefydliad addysg uwch) addysg bellach a hyfforddiant ar gyfer oedolion sy’n seiliedig yn y gymuned ac sydd wedi ei ariannu neu ei ddarparu fel arall gan awdurdod lleol, y Comisiwn neu Weinidogion Cymru;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996(3);
ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Addysg (Cymru) 2014(4);
ystyr “oedolyn” (“adult”) yw person sy’n 18 oed neu drosodd;
ystyr “pennaeth neu uwch-arweinydd mewn addysg bellach” (“principal or senior leader in further education”) yw person sy’n ymgymryd â rôl uwch-arweinydd o ran rheoli addysgu a dysgu mewn neu ar gyfer sefydliad addysg bellach yng Nghymru;
ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Prif Swyddogaethau) (Cymru) 2015(5);
ystyr “Rheoliadau 2017” (“the 2017 Regulations”) yw Rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (Ffioedd Cofrestru) 2017(6);
ystyr “Rheoliadau 2023” (“the 2023 Regulations”) yw Rheoliadau Cydnabod Cymwysterau Proffesiynol a Gweithredu Cytundebau Cydnabod Rhyngwladol (Cymru) (Diwygio etc.) 2023(7);
mae i “sefydliad addysg bellach” yr ystyr a roddir i “further education institution” yn adran 140 o Ddeddf Addysg 2002(8);
ystyr “sefydliad addysg uwch” (“higher education institution”) yw sefydliad sy’n dod o fewn adran 91(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992(9);
ystyr “ymarferydd dysgu oedolion” (“adult learning practitioner”) yw person sy’n darparu addysg bellach a hyfforddiant i oedolion ar gyfer neu ar ran darparwr dysgu oedolion cymunedol;
ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru neu ysgol arbennig yng Nghymru nas cynhelir felly.
p. 40.
dsc 1.
p. 18.
dccc 5.
O.S. 2015/140 (Cy. 8), a ddiwygiwyd gan O.S. 2016/6 (Cy. 4), O.S. 2019/444 (Cy. 107) ac O.S. 2023/551 (Cy. 86).
O.S. 2017/92 (Cy. 34), a ddiwygiwyd gan O.S. 2023/551 (Cy. 86).
p. 34.
p. 13.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: